1Yr Arglwydd fy Nuw ti, derchafaf di, moliannaf dy enw, canys gwnaethost ryfeddod, gynghorion er ys talm wirionedd siccrwydd.
2Canys gosodaist ddinas yn garnedd, a thref gadarn yn ddinistr, o ddinas nid adailedir byth dŷ dieithriaid.
3Am hynny pobl nerthol a’th ogoneddant, dinasoedd cenhedloedd ofnadwy a’th arswydāt,
4Canys buost nerth i’r tlawd, a chadernid i’r anghenog, yn nodded rhag temhestl, yn gyscod rhag gwrês, pan gwynt y cedyrn fel llifeiriant fagwyr.
5Fel gwrês mewn sychder y darostyngi dwrwf dieithriaid: gwrês mewn cyscod cwmwl y darostyngir cangen y cedyrn.
6A gwnaiff Arglwydd y lluoedd i’r holl bobl yn y mynydd hwn wledd frâs, gwledd loiw bascedigion breision gloiw-win puredic.
7Efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd yr hwn sydd yn gorchguddio yr holl bobloedd, a’r llenn yr hon a dânwyd ar yr holl genhedloedd.
8Efe a ddifa angeu tros byth, a’r Arglwydd Dduw a sych ymmaith ddeigr oddi ar bôb wyneb: ac efe a dyn ymmaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaiar: canys yr Arglwydd a lefarodd
9A’r dydd hwnnw y dywedi, wele dymma ein Duw ni, gobeithiasom ynddo ef, ac efe a’n ceidw: dymma’r Arglwydd, gobeithiasom ynddo ef, gorfoleddwn, a llawenychwn yn ei iechydwriaeth ef.
10Canys llaw’r Arglwydd a orphywys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano ef, fel sathru gwellt mewn tommen.
11Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu mysc hwynt, fel yr estyn nofiedudd i nofio, ac efe a ostwng eu balchder hi â nerth ei ddwylo.
12Felly y gogwydda, y gostwng y bwrw efe i lawr hyd y llwch gadernid vchelder dy gaerau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
