1Paul Apostol Iesu Grist, trwy ewyllys Duw, yn ôl addewyd y bywyd, yr hwn sydd yn Iesu Grist,
2At Timotheus mab annwyl, grâs trugaredd a thangneddyf gan Dduw y Tad, a chan Iesu Grist ein Harglwydd.
3Y mae gennif ddiolch i Dduw yr hwn Act.22.3.yr ydwyf yn ei wasanaethu o’m rhieni â chydwybod bur, megis y mae gennif gof dibaid am danat ti yn fyng-weddiau nôs a dydd,
4Gan ddeisyfu dy weled, chan gofio dy ddagrau, fel i’m llanwer o lawenydd,
5Gan gymmeryd ail cof o’r ffydd heb ragrith, yr hon sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy fam Efnica, ac y mae yn ddiogel gennif y ynot hefyd.
6O Achos pa ham, yr ydwyf yn dy goffau i ail gynneu dawn Duw yr hwn sydd ynot, trwy arddodiad fy nwylo mau fi.
7Canys ni roddes Duw i ni Yspryd ofn, onid Yspryd nerth, a chariad, a phwyll.
8Am hynny na fydd arnat gywilydd o destiolaeth yr Arglwydd, nac o honof finne ei garchar-wr ef: eithr cyd-oddef di gystudd â’r Efengyl, yn ôl nerth Duw.
9Yr hwn a’n achubodd, ac a’n galwodd â 1.Cor.1.2. Ephes.1.3. Tit.3.5.galwedigaeth sanctaidd, nid wrth* ein gweithredoedd ond wrth ei arfaeth ei hun, a’i râs yr hwn a roddwyd i ni trwy Grist Iesu cyn amseroedd Rufei.16.25.|ROM 16:25. Ephes.3.9. Coloss.1.26. Tit.1.2. 1.Pet.1.20.tragywyddol:
10Eithr efe a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Iachawdr Iesu Grist, yr hwn a ddeleodd angeu, ac a ddug fywyd, ac anfarwolaeth i oleuni trwy ’r Efengyl.
11 1.Tim.2.7. I’r hon i’m gosodwyd i yn bregeth-wr, ac yn Apostol, ar yn athro y cenhedloedd.
12Am ba achos yr ydwyf yn dioddef hefyd y pethau hyn, ac nid oes arnaf gywilydd: canys gwn pwy a gredais, ac y mae yn ddiammeu gennif ei fod efe yn abl i gadw yr hyn a roddais atto iw gadw, erbyn y dydd hwnnw.
13Bydded gennit ffurf yr iachus ymadroddion, y rhai a glywaist gennif fi mewn ffydd a chariad yng-Hrist Iesu.
14Y peth prydferth a roed iw gadw attat, cadw trwy ’r Yspryd glân, yr hwn sydd yn presswylio ynom.
15Ti a ŵyddost hyn, ddarfod i’r rhai oll sy yn Asia droi oddi wrthifi: o’r sawl y mae Phigelus, ac Hermogenes.
16Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dy Onesiphorus: canys efe yn fynych am llonnodd fi, ac nid ydoedd gywilydd ganddo fynghadwyn i.
17Eithr pan ydoedd yn Rhufain, efe a’m ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a’m cafodd.
18Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw, a pha faint o bethau a wasanaethodd efe yn Ephesus, goref y gwyddost ti.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
