Exodus 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XII.1 Bwyta yr oen Pasc. 26 Bod ar dadau a mammau ddangos iw plant ddirgelwch y sacrament hwn. 29 Lladdedigaeth y cyntaf-anedic 35 Yr Iddewon yn yspeilio yr Aiphtiaid. 37 Ac yn myned o’r Aipht. 43 Y chwaneg o athrawiaeth am yr oen Pasc.

1Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron yn nhîr yr Aipht, gan ddywedyd:

2Y mîs hwn i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf i chwi o fisoedd y flwyddyn.

3Lleferwch wrth holl gynnulleidfa Israel gan ddywedyd, ar y decfed o’r mîs hwn: cymmerant iddynt bôb vn oen, yn ol teulu tadau, oen dros bôb teulu.

4Os llai fydd y teulu nac y gallo fwytta yr oen, yna cymmered efe hefyd ei gymydog nessaf iw dŷ, wrth y rhifedi o ddynion: pôb vn yn ol ei fwytta a gyfrifwch at yr oen.

5Bydded yr oen gennych yn berffaith-gwbl, yn wryw, yn llwdn blwydd: o’r defaid neu o’r geifr y cymmerwch

6A bydded yng-hadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddec o’r mîs hwn: yna lladded holl dyrfa cynnulleidfa Israel ef, yn y cyfnos.

7A chymmerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlys-bost, ac ar gappan y drws: yn y tai, y rhai y bwytaant ef ynddynt.

8A’r cîg a fwytânt y nôs honno: wedi ei rostio dân, a bara croiw gyd a surion y bwytaant ef.

9Na fwytewch o honaw yn amrwd, nac yn ferwedic wedi ei ferwi mewn dwfr: eithr wedi ei rostio tân: ei ben gyd ai draed, ai berfedd

10Ac na weddillwch o honaw hyd y boreu: ond yr hyn fydd yng-weddill o honaw erbyn y boreu, lloscwch yn tân.

11Ac fel hyn y bwytewch ef, wedi ymwregysu eich lwynau, a’ch escidiau am eich traed, a’ch ffynn yn eich dwylo: bwytewch ef ar ffrŵst, Pasc i’r Arglwydd efe.

12O herwydd mi a drammwyaf drwy wlad yr Aipht y nos honno, ac a darawaf bôb cyntaf-anedic o fewn tîr yr Aipht, yn ddŷn ac yn anifail: a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau’r Aipht, myfi yr Arglwydd.

13A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar eich tai lle chwi: pan welwyf y gwaed yna’r af heibio i chwi: felly ni bydd plâ dinistriol yn eich mysc chwi pan darawyf dîr yr Aipht.

14A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth iwch, a chwi ai cedwch ef yn ŵyl arbennic i’r Arglwydd: yn eich oesoedd y cedwch ef yn ŵyl drwy ddeddf dragywyddol.

15Saith niwrnod y bwyttewch fara croiw, y dydd cyntaf y gwnewch na byddo sur-does o fewn eich tai: o herwydd pwy bynnac a fwyttu fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymmaith oddi wrth Israel.

16Ar y dydd cyntaf hefyd i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwytu pôb dŷn yn vnic a geir ei arlwyo i chwi.

17Cedwch hefyd y bara croiw, o herwydd o fewn corph y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aipht: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich oesoedd, drwy ddeddf dragywyddol.

18Yn y cyntaf ar y pedwerydd dydd ar ddec o’r mîs y bwyttewch fara croiw yn y cyfnos: hyd yr vnfed dydd ar hugain o’r mîs yn yr hwyr.

19Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnac a fwyttu fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymmaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a’r priodor.

20Na fwyttewch ddim lefeinllyd: bwyttewch fara croiw yn eich holl gyfanneddau.

21A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt: tynnwch a chymmerwch i chwi oen drwy eich teuluoedd a lleddwch yr Pasc.

22 Hebr.11.28. A chymmerwch dussw o yssop, a throchwch yn y gwaed yr hwn mewn cawg, a rhoddwch ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost o’r gwaed yr hwn yn y cawg: ac nac ewch chwithau allan neb o ddrws ei dŷ hyd y borau.

23O herwydd yr Arglwydd a bassia i daro’r Aipht, a phan welo efe y gwaed ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost: yna’r Arglwydd a bassia heb law’r drws, ac ni âd i’r dinistrudd ddyfod i’ch tai chwi i ddinistrio.

24Am hynny cedwch y peth hynn: yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd.

25A phan ddeloch i’r wlad yr hon a rydd yr Arglwydd i chwi megis y dywedodd: yna cedwch y gwasanaeth hwn,

26A Iosu.4.6.phan ddywedo eich meibion wrthich: pa wasanaeth hwn gennych?

27Yna y dywedwch, aberth Pasc yw ef ir Arglwydd yr hwn a bassiodd heb law tai meibion Israel yn yr Aipht pan darawodd efe yr Aipht, ac yr achubodd efe ein tai ni: yna yr ymgrymmodd y bobl, ac yr addolasant.

28A meibion Israel a aethant, ac a wnaethant: megis y gorchymynnase’r Arglwydd wrth Moses, ac Aaron, felly y gwnaethant.

29Ac Exod.11.4.ar hanner nos y tarawodd yr Arglwydd bob cyntafanedic yng-wlad yr Aipht, o gyntafanedic Pharao’r hwn a eistedde ar ei frenhin-faingc ef, doeth.18.5.hyd gyntafanedic y gaethes yr hon yn y carchar-dŷ: a phôb cyntafanedic i anifail.

30Yna Pharao a gyfododd liw nos, efe ai holl weision, a’r holl Aiphtiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aipht: o blegit nid dŷ ar nad vn marw ynddo.

31Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, codwch, ewch allan o fysc fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd: ewch a gwasanaethwch yr Arglwydd fel y dywedasoch.

32Cymmerwch eich defaid, a’ch gwarthec hefyd fel y dywedasoch, ac ewch ymmaith: a bendithiwch finne.

33A’r Aiphtiaid a fuant dairion ar y bobl gan eu gyrru a’r ffrwst allan o’r wlad: o blegit dywedasant meirw ydym oll.

34Am hynny y cymmerodd y bobl eu toes cynn ei lefeinio: ai toes oedd wedi rwymo yn eu dillad ar eu hyscwyddau.

35A meibion Israel a wnaethant yn ol gair Moses: ac a geisiasent Exod.3.22.|EXO 3:22. exod.11.2.|EXO 11:2. iosua.24.6.gan yr Aiphtiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwiscoedd.

36A’r Arglwydd a roddase i’r bobl hawddgarwch yng-olwg yr Aiphtiaid fel yr echwynasant iddynt: felly’r ysbeiliasant yr Aiphtiaid.

37Yna Num.33.3.meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth: yng-hylch chwe chant mil o wŷr traed heb law plant.

38A phobl gymmysc lawer a aethant i fynu hefyd gyd a hwynt: defaid hefyd a gwarthec chyfoeth trwm iawn.

39A hwynt a bobasant y toes yr hwn a ddygasent allan o’r Aipht yn deisennau croiw, o herwydd nad sur-does: canys gwthiasid hwynt o’r Aipht, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun lynniaeth.

40A phresswyliad meibion Israel tra y trigasant yn yr Aipht: ddeng mlhynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd.

41Ac ym mhen y deng-mlhynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd: ie o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aipht.

42Nos yw hon iw chadw i’r Arglwydd pan ddygwyd hwynt allan o wlad yr Aipht: nos yr Arglwydd yw hon i holl feibion Israel iw chadw drwy eu hoesoedd.

43Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, ac Aaron dymma ddeddf y Pasc: na fwytaed neb dieithr o honaw.

44Ond pôb gwasanaethwr wedi ei brynnu am arian: pan enwaedech ef, yna a fwytu o honaw.

45Yr estron a’r gwas cyflog ni chaiff fwyta o honaw.

46Mewn vn tŷ y bwytteuir ef, na ddwg o’r cîg allan o’r tŷ: ac Num.9.12. ioan.19.36.na thorrwch ascwrn ynddo ef.

47Holl gynnulleidfa Israel a wnant hynny.

48A phan arhoso dieithr gyd a thi, ac cheisio cadw Pasc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl yrfiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny, a bydded megis yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededic o honaw.

49Yr vn gyfraith fydd i’r priodor, ac i’r dieithr a arhoso yn eich mysc.

50Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchymynnase’r Arglwydd wrth Moses ac Aaron: felly y gwnaethant.

51Ac o fewn corph y dydd hwnnw: y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aipht yn ol eu lluoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help