Numeri 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Lle gwerssyll pob vn o’r deuddec llwyth: eu capteniaid ai rhifedi, a pha wedd y symmudent.

1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron gan ddywedyd.

2Meibion Israel a werssyllant bob vn wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ ei tadau, o amgylch pabell y cyfarfod y gwerssyllant o hir-bell.

3A’r rhai a werssyllant tu ar dwyrain, oddi wrth godiad haul, lluman gwerssyll Iuda yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Iuda Nahesson mab Aminadab.

4Ai lu ef, ai rhai rhifedic hwynt bedair mil ar ddec a thrugain, a chwe chant.

5A llwyth Issachar a werssyllant yn nessaf atto ef: a chapten meibion Issachar, Nathaniel mab Zuar.

6Ai lu, ai rifedigion bedair mil ar ddec a deugain, a phedwar cant.

7[Yna] llwyth Zabulon, ac Eliab mab Helon capten meibion Zabulon.

8Ai lu, ai rifedigion ddwy fil ar bymthec a deugain, a phedwar cant.

9Holl rifedigion gwerssyll Iuda yn ol eu lluoedd yn gan mil a phedwar vgain mil, a chwe mil, a phedwar cant: yn flaenaf y symmudant.

10Lluman gwerssyll Ruben tua’r dehau yn ol eu lloedd: a chapten meibion Ruben Elizur mab Sedeur.

11Ai lu ef, ai rifedigion chwe mil a deugain, a phum cant.

12A’r rhai a werssyllant yn nessaf atto ef llwyth Simeon, a chapten meibion Simeon Selumiel mab Suri Sadai.

13Ai lu ef, ai rhifedigion onid vn mil trugain a thry-chant.

14Yna llwyth Gad: a chpaten meibion Gad Eliasaph mab Reuel.

15Ai lu ef, ai rhifedigion hwynt bum mil a deugain a chwe-chant, a dec a deugain.

16Holl rifedigion gwerssyll Ruben gan mîl, ac vn ar ddec a deugain o filoedd, a phedwar cant, a dec a deugain yn ol eu lluoedd ac yn ail y symmudant.

17A phabell y cyfarfod a symmud yng-hanol y gwerssylloedd, gwerssyll y Lefiaid: fel y gwerssyllant, felly y symmudant, pôb vn yn ei le, wrth eu llumannau.

18Lluman gwerssyll Ephraim tua’r gorllewyn, yn ol eu lluoedd, a chapten meibion Ephraim Elisama mab Ammihud.

19Ai lu ef, ai rhifedigion ddeugain mil, a phump cant.

20Ac yn nessaf atto ef llwyth Manasses, a chapten meibion Manasses fydd Gamaliel mab Pedazur.

21Ai lu ef, ai rhifedigion ddeuddeng-mil ar hugain, a dau cant.

22Yna llwyth Beniamin: a chapten meibion Beniamin Abidan mab Gedeon.

23Ai lu ef, ai rhifedigion bymtheng-mil ar hûgain, a phedwar cant.

24Holl rifedigion gwerssyll Ephraim yn ol eu lluoedd gan mil, ac wyth mil, a chant: ac a symmudant yn drydydd.

25Lluman gwerssyll Dan tua’r gogledd yn ol eu lluoedd, a chapten meibion Dan Ahieser mab Ammi Sadai.

26Ai lu ef, ai rhifedigion ddwy fil a thrugain, a saith gant.

27A’r rhai a werssyllant yn nessaf atto ef llwyth Aser: a chapten meibion Aser Pagiel mab Ocran.

28Ai lu ef, ai rhifedigion vn mil a deugain, a phum cant.

29Yna llwyth Nephthali: a chapten meibion Nephthali Ahira mab Enan.

30Ai lu ef, ai rhifedigion dair mil ar ddec a deugain, a phedwar cant.

31Holl rifedigion gwerssyll Dan gan mil, ac onid tair mil tri vgain mil, a chwe chant, yn olaf y symmudant, wrth eu llumannau.

32Dymma rifedigion meibion Israel, wrth dy eu tadau: holl rifedigion y gwerssylloedd yn ôl eu lluoedd chwe chan mil, a thair mil, a phum cant, a dec a deugain.

33Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ym mysc meibion Israel, megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.

34A meibion Israel a wnaethant, yn ol yr hyn oll a orchymynnase’r Arglwydd wrth Moses: felly y gwerssyllasant wrth eu llumannau, ac felly y symmudasant, pob vn yn ei deuluoedd, yn ol tŷ eu tadau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help