1Ac ar y dydd y gorphennod Moses godi y tabernacl yr eneiniodd, ac y sancteiddiodd ef, ai holl ddodrefn, yr allor hefyd ai holl ddodrefn, Exod.40.18.yna yr eneniodd ac y sancteiddiodd efe hwynt.
2Ac yr offrymmodd capteniaid Israel, pennaethiaid tŷ eu tadau (dymma gapteniaid y llwythau, dymma y rhai a osodwyd ar y rhifedigion. )
3Ai hoffrwm a ddygasant hwy ger bron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddec o ŷchen: menn dros dau gapten, ac ŷch dros vn: a cher bron y tabernacl y dygasant hwynt.
4A llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:
5Cymmer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod: a dod ti hwynt at y Lefiaid, bôb vn yn ôl ei wasanaeth.
6A chymmerodd Moses y menni, a’r ychen, ac ai rhoddodd hwynt at y Lefiaid.
7Dwy fenn a phedwar ych a roddes efe at feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt.
8A phedair menn ac wyth ŷchen a roddodd efe at feibion Merari, yn ol eu gwasanaeth hwynt, trwy law Ithamar fab Aaron yr offeiriad.
9Ond i feibion Cehath ni rodd efe am gwasanaeth y cyssegr arnynt, ar eu hŷscwyddau y dygent
10A’r capteniaid a offrymmasant gyssegriad yr allor, ar y dydd yr enenniwyd hi, a cher bron yr allor y dug y capteniaid eu rhoddion.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, vn capten ar ddiwrnod, ac arall ar ddiwrnod a offrymmant eu hoffrymmau at gyssegriad yr allor.
12Ac ar y dydd cyntaf yr ydoedd yn offrymmu ei offrwm Nahesson mab Aminadab tros lwyth Iuda.
13Ai offrwm ef vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant o ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ol sicl y cyssegr, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew Lefit.2.1.yn fwyd offrwm.
14Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
15Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
16Un bwch geifr yn bech aberth.
17Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Nahesson fab Aminadab.
18Ac ar yr ail dydd yr offrymmodd Nathaniel mab Zuar capten Issachar.
19Efe a offrymmodd ei offrwm vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian, o ddec sicl a thrugain yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
20Un thusser aur o ddec[sicl]yn llawn arogl-darth.
21Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd, yn offrwm poeth.
22Un bwch geifr yn bech aberth.
23Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Nathaniel fâb Zuar.
24Ar y trydydd dydd Eliab mâb Helon, capten meibion Zabulon.
25Ei offrwm ef ydoedd vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian, o ddec sicl a thrugain, yn ôl y sicl sanctaidd yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
26Un thussur aur o ddec yn llawn arogl-darth.
27Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
28Un bwch geifr yn bech aberth.
29Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Eliab mab Helon.
30Ar y pedwerydd dydd Elizur mab Zedeur capten meibion Reuben.
31Ei offrwm ef vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
32Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
33Un bustach ieuangc, vn hwrdd vn oen blwydd yn offrwm poeth.
34Un bwch geifr yn bech aberth.
35Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Elizur mab Zedeur.
36Ar y pūmed dydd Selumiel mab Suri Sadi, capten meibiō Simeō.
37Ei offrwm ef vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
38Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
39Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
40Un bwch geifr yn bech aberth.
41Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Selumiel mab Suri Sadi.
42Ar y chweched dydd Eliasaph mab Duel, capten meibion Gad.
43Ei offrwm ef vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
44Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
45Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
46Un bwch geifr yn bech aberth.
47Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Elsasaph mab Duel.
48Ar y seithfed dydd Elisama mab Ammihud capten meibiō Ephraim.
49Ei offrwm ef vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
50Un thusser aur, o ddec yn llawn arogl-darth.
51Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
52Un bwch geifr yn bech aberth.
53Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Elisama mab Ammihud.
54Ar yr wythfed dydd Gamaliel mab Pedazur capten meibion Manasses.
55Ei offrwm ef vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
56Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
57Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
58Un bwch geifr yn bech aberth.
59Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Gamaliel mab Pedazur.
60Ar y nawfed dydd Abidan mab Gedeon capten meibion Beniamin.
61Ei offrwm ef vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
62Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
63Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
64Un bwch geifr yn bech aberth.
65Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Abidan mab Gedeon.
66Ar y decfed dydd Ahiezer mab Ammi Sadai capten meibion Dan.
67Ei offrwm ef vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn il dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
68Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
69Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
70Un bwch geifr yn bech aberth.
71Ac yn aberth hedd dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Ahiezer mab Ammi Sadai.
72Ar yr vnfed dydd ar ddec Pagiel mab O cran capten meibion Aser.
73Ei offrwm ef vn ddyscl arian o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn o beillied ill dwyoedd wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
74Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
75Un bustach ieuangc, vn hwrdd, vn oen blwydd yn offrwm poeth.
76Un bwch geifr yn bech aberth.
77Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Pagiel mab Ocran.
78Ar y ddeuddecfed dydd Ahiram mab Enan, capten meibiō Nephthall.
79Ei offrwm ef vn ddyscl arian, o ddec ar hugain a chant ei phwys, vn phiol arian o ddec sicl a thrugain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beillied wedi ei gymmyscu trwy olew yn fwyd offrwm.
80Un thusser aur o ddec yn llawn arogl-darth.
81Un bustach ieuangc, vn hwrdd vn oen blwydd yn offrwm poeth.
82Un bwch geifr yn bech aberth.
83Ac yn hedd aberth, dau ŷch, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid: dymma offrwm Ahiram mab Enan.
84Dymma gyssegriad yr allor, gan dywyssogion Israel ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddec dyscl arian, deuddec phiol arian, deuddec thusser aur.
85Dec ar hugain a chant arian pôb dyscl, a dec a thrugain pôb phiol, holl arian y llestri ddwy fil a phedwar chant yn ol y sicl sanctaidd.
86Y thusserau aur ddeuddec, yn llawn arogl-darth o ddec bôb thusser yn ol y sicl sanctaidd: holl aur y thusserau chwech-vgain
87Holl eidionnau yr offrwm poeth ddeuddec bustach, deuddec o hyrddod, deuddec o ŵyn blwyddiaid, ai bwyd offrwm: a deuddec o fychod geifr yn offrwm tros bechod.
88A holl eidionnau yr aberth hedd bedwar ar hugain o fustych, trugain o hyrddod, trugain o fychod, trugain o hesbyrniaid, dymma gyssegriad yr allor wedi ei henneinio.
89Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw: yna efe a glywe lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon ar Arch y destiolaeth, oddi Exod.25.22.rhwng y ddau Gerub, ac efe a ddywedodd wrtho.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.