1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:
2Gorchymyn i feibion Israel a dywet wrthynt: pan ddeloch chwi i dîr Canaan, dymma y tîr a syrth i chwi yn etifeddiaeth, gwlâd Canaan tan ei therfynau.
3Yna bydded i chwi y tu dehau o anialwch Zin ger llaw Edom: a therfyn y dehau fydd i chwi, o gwrr y môr heli, tua’r dwyrain.
4A’r terfyn a amgylchyna i chwi o’r dehau iriw Acrabim, ac a aiff trossodd i Zin: ai fynediad allan fydd o’r dehau i Cades Barnea, ac aiff allan i faes-dref Adar, a throssodd i Azmon,
5A’r terfyn a amgylchyna o Azmon i afon yr Aipht, ai fynnediad ef allan a fydd tua’r gorllewyn.
6A therfyn y gorllewyn fydd y môr mawr i chwi, sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewyn.
7A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi o’r môr mawr y terfynwch i chwi fynydd Hor.
8O fynydd Hor y terfynwch nes dyfod i Hamath, a diwedd y terfyn fydd Zedadah.
9A’r terfyn a aiff allan tua Ziphron, ai ddiwedd ef fydd* Hazar Enan, hwn fydd terfyn y gogledd i chwi.
10A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain, o Hazar Enan i Sepham.
11Ac aed y terfyn i wared o Sepham i Ribla, ar du dwyrain Ain, yna descynned y terfyn, ac aed hyd estlys môr Cinnereth tua’r dwyrain.
12Ac aiff y terfyn i wared tua’r Iorddonen, ai ddiwedd fydd y mor heli: dymma y tir fydd i chwi dan ei derfynau oddi amgylch.
13A gorchymynnodd Moses i feibion Israel gan ddywedyd: dymma y tîr yr hwn a rennwch yn etifeddiaethan wrth goel-bren, yr hwn y gorchymynnodd yr Arglwydd ei roddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.
14Canys cymmerase Num.32.33. Iosua.14.2.llwyth meibion Ruben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasses: cymerasant eu hetifeddiaeth.
15Dau lwyth a hanner llwyth a gymmerasant eu hetifeddiaeth am yr Iorddonen ag Iericho, tua â’r dwyrain oddi wrth godiad
16Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses gan ddywedyd:
17Dymma henwau y gwŷr y rhai a rannant y tîr yn etifeddiaethau i chwi, Eleazar yr offeiriad, ac Iosuah mab Nun.
18Ac vn pennaeth o bob llwyth a gymmerwch i rannu y tîr yn etifeddiaethau.
19Ac fel dymma henwau y gwŷr: tros lwyth Iuda, Caleb mab Iephun.
20A thros lwyth meibion Simeon, Semuel mab Animihud.
21Tros lwyth Beniamin, Elidad mab Cislon.
22A Bucci mab Iogli yn bennaeth tros lwyth meibion Dan.
23O feibion Ioseph, Haniel mab Ephod yn bennaeth tros lwyth meibion Manasses.
24Cemuel hefyd mab Siphtan yn bennaeth tros lwyth meibion Ephraim.
25A Elisaphan mab Pharnach, yn bennaeth tros lwyth meibion Zabulon.
26Paltiel hefyd mab Asan, yn bennaeth tros lwyth meibion Issachar.
27Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth tros lwyth meibion Aser.
28Ac yn bennaeth tros lwyth meibion Nephthali, Pedael mab Ammihud.
29Dymma y rhai a orchymynnodd yr Arglwydd iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel yn nhîr Canaan.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.