Psalmau 56 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lvj.At y pen-cerdd am y golommen fud o bell, euroc psalm Dafydd: pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.

1 Trugarhâ wrthif ô Dduw, canys dŷn a’m llyngce: beunydd yr ymladd, i’m gorthrymma.

2Beunydd i’m llyngce fyng-elynnion, canys llawer ydynt yn rhyfêla i’m herbyn ô goruchaf.

3Y dydd yr ofnwn, mi a ymddyriedwn ynot ti.

4Duw a glodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf, nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi.

5Beunydd i’m cystuddiant a’m geiriau fy hun, eu holl feddyliau i’m herbyn er drwg i mi.

6Hwynt a ymgasclant, a lechant, a wiliant fyng-hamrau, pan ddisgwiliant am fy enaid.

7A ddiangant hwy am hanwiredd? descyn y bobloedd ô Dduw yn dy lidiawgrwydd.

8Ti a gyfrifaist fy symmudiad, gosot fy nagrau yn dy gostrel: onid yn dy lyfr di?

9Y dydd y llefwyf yna y dychwelir fyng-elynnion yn eu gwrthôl: hyn a wn am Duw gyd â mi.

10Yng-air Duw y gorfoleddaf, yng-air yr Arglwydd y gorfoleddaf.

11Yn Nuw’r ymddyriedais, nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

12Arnafi ô Dduw dy addunedau: talaf i ti foliant.

13Gan waredu o honot fy enaid rhag angeu, a’m traed rhag llithro, fel y rhodiwyf ger bron Duw yng-oleuni y rhai byw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help