1Am hynny gan na allem ymmatal yn hwy, y tybiasom fod yn oref aros yn Athen ein hunain,
2A hebrwng Act.16.1.Timotheus ein brawd, a gwenidog Duw, a’n cydweithwr yn Efengyl Grist i’ch cadarnhau, ac i’ch diddanu yng-hylch eich ffydd,
3Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn: canys chwychwi eich hunain a ŵyddoch ein darparu ni i hyn.
4Canys yn wîr pan oeddem gyd â chwi rhag-ddywedasom i chwi y bydde i ni gael gorthrymderau, megis y darfu, ac y gŵyddoch.
5O blegit hyn, pryd na allwn ymattal yn hwy, mi a ddanfonais i gael gŵybod eich ffydd, rhag temtio o’r temtiwr chwi, a myned ein llafur yn ofer.
6Eithr yn Act.18.5.hwyr yr awrhon wedi dyfod Timotheus oddi wrthych chwi attom ni, a mynegu i ni ddaioni am eich ffydd, a’ch cariad a bod gennych gof da am danom yn oestadol, gan ddeisyfio cael ein gweled, megis ninneu hefyd am danoch chwithau.
7Am hynny frodyr, yr ydym ni yn cael cyssur o honoch chwi yn ein hôll orthrymder, a’n anghenoctid trwy eich ffydd chwi.
8Am ein bod ni yr awron yn byw os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.
9Canys pa ddiolch a allwn ni ei ad-talu i Dduw trosoch chwi, am yr holl lawenydd yr ydym ni yn ei gael o’ch achos chwi ger bron ein Duw?
10 Ruf.1.10.|ROM 1:10 & 1.23. Gan weddio yn dra rhagorol ddydd a nos ar weled o honom eich ŵyneb, a chyflawni yr hyn sydd yn eisieu i’ch ffydd.
11A Duw ei hun, sef ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd attoch chwi.
12A’r Arglwydd a’ch lluosogo, ac a’ch amlhâo mewn cariad iw gilydd, ac i bawb, megis yr ydym ni i chwi,
13 Pen.5.23.|1TH 5:23. 1.cor.1.8. I gadarnhau eich calonnau yn ddiargyoedd mewn sancteiddrwydd ger bron Duw, sef ein Tad yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist gyd â’i hôll Sainct.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
