2.Samuel 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Y plant a ennillodd Dafydd yn Hebron. 12 Dafydd (wedi i Abner Droi atto ef) yn cael ei wraig Michol adief. 26 Ioab yn lladd Abner trwy frâd.

1A bu y rhyfel yn hîr rhwng tŷ Saul a thŷ Ddafydd: a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.

2A meibion a anwyd i Ddafydd yn Hebron: ai gyntafanedic ef oedd Amnon o Ahinoam yr Iezrahelithes.

3Ai ail ef 1.Cron.3.1.Chilab o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad: a’r trydydd Absalom mab Maacah ferch Talmai brenin Gesur.

4A’r Pedwerydd Adonia mab Haggith: a’r pummed Sephathiah mab Abital.

5A’r chweched Ithream o Egla gwraig Ddafydd: y rhai hyn a anwyd i Ddafydd yn Hebron.

6A thra’r ydoedd y rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnio dros dy Saul.

7Ond i Saul y ordderch-wraig, ai henw Rispa merch Aiah: ac a ddywedodd wrth Abner, pa ham yr aethost i mewn at ordderch-wraig fy nhad?

8Yna y digiodd Abner yn ddirfawr o herwydd geiriau Isboseth, ac a ddywedodd, ai pen cî (yr hwn ydwyf heddyw’n erbyn Iuda yn gwneuthur trugaredd a thŷ Saul dy dâd ti, ai frodyr ef, ac ai gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd) pan osodaist i’m herbyn fai y wraig hon heddyw?

9Fel hyn y gwnelo Duw i Abner, ac fel hyn y chwanego iddo ef: onid megis y tyngodd yr Arglwydd wrth Ddafydd, felly y gwnaf iddo ef.

10Gan droi y frenhiniaeth oddi wrth dŷ Saul, a derchafu gorsedd-faingc Dafydd ar Israel, ac ar Iuda, o Ddan hyd Beerseba.

11Ac ni feiddiodd efe mwyach atteb gair i Abner rhac ei ofn ef.

12Yna Abner a anfonodd gennadau at Ddafydd trosio ei hun gan ddywedyd: eiddo pwy yw’r wlâd? chan ddywedyd, gwna di gyngrair a mi, ac wele fy llaw i gyd a thi, i droi attat ti holl Israel.

13A dywedodd yntef da, mifi a wnaf gyfammod a thi: etto vn peth yr ydwyfi yn ei geisio gennit, gan ddywedyd: ni weli fy wyneb oni ddygi di Michol ferch Saul ger fy mron i pan ddelech i’m hedrych.

14Yna yr anfonodd Dafydd gennadau at Isboseth fab Saul gan ddywedyd: dyro fyng-wraig Michol yr hon a ddyweddiais i mi am gant o flaen-grwyn y Philistiaid.

15Ac Isboseth a anfonodd, ac ai dug hi oddi wrth gŵr oddi wrth Phaltiel fab Lais.

16Ai gŵr a aeth gyd a hi, gan fyned ac ŵylo ar ei hol hi hyd Bahurim: yna y dywedodd Abner wrtho ef, dosdychwel, ac efe a ddychwelodd.

17Ac Abner a lefarodd wrth henuriaid Israel gan ddywedyd: cyn hyn yr oeddech chwi’n ceisio Dafydd yn frenin arnoch.

18Ac yn awr gwnewch canys yr Arglwydd a lefarodd am Ddafydd gan ddywedyd, drwy law Dafydd fyng-wâs y gwaredaf fy mhobl Israel o law y Philistiaid, ac o law eu holl elynnion hwynt.

19Dywedodd Abner hefyd wrth Beniamin: ac yna’r aeth Abner i ymddiddan a Dafydd yn Hebron am yr hyn oll dda yng-olwg Israel, ac yng-olwg holl dŷ Beniamin.

20Felly Abner a ddaeth at Ddafydd i Hebron ac vgain-wr gyd ag ef: a Dafydd a wnaeth wledd i Abner, ac i’r gwyr y rhai gyd ag ef.

21Yna y dywedodd Abner wrth Dafydd, cyfodaf fel yr elwyf, ac y casclwyf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel yr gwnant gyfammod a thi, ac y teyrnasech di yn ôl yr hyn oll a chwennycho dy galon: yna Dafydd a ollyngodd Abner, ac efe a aeth mewn heddwch.

22Ac wele weision Dafydd, ac Ioab yn dyfod oddi wrth y dorf, ac anrhaith fawr a ddugasent hwy ganddynt: ond nid oedd Abner gyd a Dafydd yn Hebron, canys efe ai gollyngase ef, ac yntef a aethe mewn heddwch.

23Yna Ioab a’r holl lu yr hwn gyd ag ef a ddaethant: a mynegwyd i Ioab gan ddywedyd, Abner mab Ner a ddaeth at y brenin, ac efe ai gollyngodd ef i fyned mewn heddwch.

24Ac Ioab a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, beth a wnaethosti? wele daeth Abner attat ti, pa ham y gollyngaisti ef i fyned ymmaith?

25Ti a adwaenit Abner fab Ner, mai i’th dwyllo di y daeth efe: ac i ŵybod dy fynediad, a’th ddyfodiad, ac i ŵybod yr hyn oll yr ydwyt ti yn ei wneuthur.

26Yna Ioab a aeth allan oddi wrth Ddafydd, ac a anfonodd gennadau ar ôl Abner, a hwy ai dugasant ef yn ôl oddi wrth ffynnon Siriah heb ŵybod i Ddafydd.

27Pan ddychwelodd Abner i Hebron, 1.Bren.2.5.yna Ioab ai trôdd ef i fewn y porth i ymddiddan ag ef mewn heddwch: ac ai tarawodd ef yno, y bummed fel y bu efe farw, o herwydd Pen.2.23.gwaed Asahel ei frawd ef.

28Ac wedi hynny y clybu Dafydd, ac y dywedodd, dieuog a’m brenhiniaeth gyd a’r Arglwydd byth, oddi wrth waed Abner fab Nêr.

29Syrthied ar benn Ioab, ac ar holl dŷ ei dad ef: fel na phallo o dy Ioab yn ddiferllyd, neu yn wahan-glwyfus, neu’n ymgynnal wrth fagl, neu yn syrthio ar gleddyf, neu mewn eisieu bara.

30Felly Ioab ac Abisai ei frawd ef a ladddasant Abner: o herwydd ladd o honaw ef Asahel eu brawd hwynt mewn rhyfel yn Gibeon. )

31A Dafydd a ddywedodd wrth Ioab, ac wrth yr holl bobl y rhai gyd ag ef, rhwygwch eich dillad, ac ymwregysswch mewn sach-liain, a galerwch o flaen Abner: a’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.

32Pan gladdasant hwy Abner yn Hebron: yna’r brenin a ddyrchafodd ei lêf ac a ŵylodd ar fedd Abner, yr holl bobl hefyd a ŵylasant.

33A’r brenin a alarnadodd am Abner, Ac a ddywedodd: ai fel y mae’r ynfyd yn marw y bydd marw Abner?

34Dy ddwylo nid yn rhwym, ac nid oedd dy draed wedi rhoddi mewn egwydydd, syrthiaist fel y syrthie o flaen meibion enwir: a’r holl bobl a chwanegasant ŵylo am dano ef.

35Yna y daeth yr holl bobl i beri i Ddafydd fwytta bara a hi etto yn ddydd: ond Dafydd a dyngodd gan ddywedydd, fel hyn y gwnelo Duw i mi, ac fel hyn y chwanego efe os archwaethaf fara na dim oll cyn machludo’r haul.

36A’r holl bobl a ŵybuant a da oedd yn eu golwg hwynt: a’r hyn oll a wnaeth y brenin oedd dda yng-olwg y bobl.

37Yna’r holl bobl, a holl Israel y diwrnod hwnnw a ŵybuant: na ddarfuase o fodd y brenin ladd Abner fab Nêr.

38A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision: oni wyddoch chwi i Dywysog, ac i mawr syrthio heddyw yn Israel?

39A minne eiddil, a brenin eneiniog, a’r gwŷr hyn meibion Serfia ydynt lewach nam fi: yr Arglwydd a dalo i’r hwn a wnaeth y drwg, yn ol ei ddrygioni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help