1Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd fydd o’r enwaediad?
2Lawer ym mhôb rhyw fodd: canys yn gyntaf ymddyriedwyd iddynt hwy am eiriau Duw,
3O blegit beth os anghredodd rhai, a wna eu anghredyniaeth hwy ffydd Dduw yn ddirym?
4Na atto Duw, eithr bydded Duw yn
19Gwyddom hefyd mai pa bethau bynnac a ddywed y ddeddf, mai wrth y rhai sy tann y ddeddf y dywed hi: fel y caeêr pôb genau, ac fel y byddo yr holl fyd tann Duw.
20 Gal.2.16. Am hynny gan weithredoedd y cnawd ni chyfiawnheuir vn cnawd yn ei olwg ef, o blegit gan y ddeddf y adnabod pechod.
21Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y ddeddf, gan gael testiolaeth gan y ddeddf a’r prophwydi.
22Sef cyfiawnder Duw trwy ffydd Iesu Grist i bawb, ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth.
23O blegit pawb a bechasant, ac a ydynt yn ôl am ogoniant Duw.
24A hwy a gyfiawnheuir yn rhâd trwy ei râs ef, trwy’r prynnedigaeth sydd yng-Hrist Iesu.
25Yr hwn a osodes Duw yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef trwy faddeuant y pechodau a oeddent gynt,
26Trwy ddioddefiad Duw i ddangos y pryd hynny ei gyfiawnder, fel y bydde efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y nêb sydd o ffydd Iesu.
27Pa le gan hynny yr gorfoledd? ef a gaewyd allan. Trwy pa ddeddf? ai y gweithredoedd? na-gê, eithr trwy ddeddf ffydd.
28Yr ydym ni yn meddwl gan hyn, fod yn cyfiawnhau dyn trwy ffydd heb weithredoedd y ddeddf.
29Ai i’r Iddewon y mae Duw yn vnic, onid i’r cenhedloedd hefyd? yn wir efe i’r cenhedloedd hefyd.
30Canys vn Duw ydyw yr hwn a gyfiawnhâ yr enwaediad o’r ffydd, a dienwaediad trwy ffydd.
31Am hynny a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddirym trwy’r ffydd? na atto Duw: yr ydym yn hytrach yn cadarnhau y ddeddf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
