Darn o lyfr Esther 12 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENN. XII.Mardocheus yn cyhuddo yr stafellyddion y rhai a am­canasent ddifetha y brenin.

1Fel yr oedd Mardochêus yn llonydd yn y llys gyd â Gabatha a Tharra, dau o stafellyddion y brenin y rhai oeddynt yn cadw y llys:

2Efe a glybu eu hamcanion hwynt, ac a chwiliodd allan eu gofal hwynt, ac a gafod ŵy­bod eu bôd hwynt yn barod i roi llaw ar y brenin Artaxerxes, ac efe a ddangosodd i’r brenin am danynt hwy.

3A’r brenin a holodd ei ddau stafelludd, ac hwy a gyffesassant, ac a grogwyd.

4Yna ’r scrifennodd y brenin y pethau hyn mewn coffadwriaeth: Mardocheus hefyd a scrifennodd yr vn pethau.

5A’r brenin a orchymynnodd i Mardocheus wasanaethu yn y llŷs, ac a roddes iddo ef roddion am hyn.

6Eithr Aman Amadathus yr Aga­gead yr hwn oedd ogoneddus yng-olwg y brenin a geisiodd ddrygu Mardocheus ai bobl o achos dau stafelludd y brenin. Dymma hefyd gopi y llythr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help