1Yna y troesom, ac yr escynnasom ffordd Basan, ac Num.21.33. Deut.29.7.Og brenin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe ai holl bobl i ryfel i Edrai.
2A’r Arglwydd a ddywedodd wrthif, nac ofna ef, o blegit yn dy law di y rhoddaf ef, ai holl bobl, ai wlâd ef: a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Num.21.24.Sehon frenin yr Amoriaid yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
3Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Num.21.33.Og frenin Basan, ai holl bobl ef, fel y tarawsom ef, nes heb adel iddo weddill.
4Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw nad oedd dinas yr hon nis dugasom oddi arnynt: tri-vgain dinas holl wlâd Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.
5Yr holl ddinasoedd hyn gedyrn o fûroedd vchel, pŷrth, a barrau, heb law dinasoedd heb furoedd lawer iawn.
6A difrodasom hwynt fel y gwnaethom i Sehon frenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a’r plant.
7Ond yr holl anifeiliaid ac yspail y dinasoedd a sclyfaethâsom i ni ein hunain.
8Felly y cymmerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlâd yr hon o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon.
9Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a’r Amoriaid ai galwant ef Senir.
10Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selca, ac Edrai, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.
11O blegit Og brenin Basan yn vnic a adawsid o weddill y cawri: wele ei wely ef wely haiarn, onid hwnnw yn Rebath meibion Ammon? naw cufydd ei hyd ef, a phedwar cufydd ei lêd ef, wrth gufydd gŵr.
12A’r wlâd hon a orescynnasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, Num.32.33.ai ddinasoedd ef a roddais i’r Rubeniaid ac i’r Gadiaid:
13A’r gweddill o Gilead, a holl Basan, brenhiniaeth Og a rhoddais i hanner llwyth Manasses: holl wlâd Argob, trwy holl Basan, hon a elwid gwlad y cawri.
14Iair mab Manasses a gymmerth holl wlâd Argob, hyd frô Gessuri, a Macati: ac ai galwodd hwynt sef Basan ar ei henw ei hun, trefydd Iair hyd y dydd hwn.
15Ac i Machir y rhoddais i Gilead.
16Ond i’r Rubeniaid, ac i’r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a’r terfyn: ac hyd yr afon Iabboc terfyn meibion Ammon.
17Hefyd y rhôs, a’r Iorddonen, a’r terfyn o Cinereth hyd fôr y rhôs y môr heli, dann fronnydd y brynn tu a’r dwyrain.
18 Num.32.21. Gorchymynnais gan hynny i chwi’r amser hwnnw gan ddywedyd, yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlâd hon iw gorescyn: ewch trosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybur
19Yn vnic eich gwraged, a’ch plant, a’ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi) a drigant yn eich dinasoedd y rhai a roddais i chwi.
20Hyd pan baro’r Arglwydd i’ch brodyr orphywyso fel chwithau: a gorescyn o honynt hwy hefyd y wlâd yr hon y mae’r Arglwydd eich Duw ar roddi iddynt tros yr Iorddonen: * yna dychwelwch bob vn iw etifeddiaeth yr hon a roddais i chwi.
21 Iosua 22.4. Gorchymynnais hefyd i Iosuah yr amser hwnnw gan ddywedyd, dy lygaid ti a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r ddau frenin hyn: Num.27.18.felly y gwna’r Arglwydd i’r holl deyrnasoedd, y rhai’r ydwyt ti yn myned trosodd attynt.
22Nac ofnwch hwynt, o blegit yr Arglwydd eich Duw efe, yr hwn a ymladd trosoch chwi.
23Ac erfynniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd.
24O Arglwydd Dduw, ty di a ddechreuaist ddangos i’th wâs dy fawredd, a’th law gadarn: o blegit pa Dduw yn y nefoedd, neu yn y ddaiar, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd, a’th nerthoedd di?
25Gad i mi fyned trosodd attolwg, a gweled y wlâd dda, yr hon tros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus.
26Ond yr Arglwydd a ddigiase wrthif o’ch plegit chwi, ac ni wrandawodd arnaf, ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthif, digon i ti, na chwanega lefaru wrthif mwy am y peth hyn.
27Dos i fynu i ben y brynn, a derchafa dy lygaid tu a’r gorllewyn, a’r gogled, a’r dehau, a’r dwyrain, ac edrych a’th lygaid, o blegit ni chei di fyned tros yr Iorddonen hon.
28Gorchymyn hefyd i Iosuah, a nertha, a chadarnhâ ef, o blegit efe a aiff trosodd o flaen y bobl ymma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlâd, yr hon a weli di.
29Felly aros a wnaethom yn y dyffryn, gyferbyn a Beth peor.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.