1Pan gymmero gŵr wraig ai phriodi: yna bydded oni chaiff hi ffafor yn ei olwg ef (o achos iddo gael peth gwaradwyddus ynddi) scrifennu o honaw yntef iddi lythyr yscar, ai roddi yn ei llaw hi, ai gollwng ymmaith oi dy.
2Pan elo hi allan oi dŷ ef, a myned ymmaith, a bod yn eiddo gwr arall.
3Os ei gŵr diwethaf ai casâ hi, ac a scrifenna lythyr yscar iddi, ac ai rhydd yn ei llaw hi, ac ai gollwng hi oi dŷ: neu os bydd farw y gŵr diwethaf, yr hwn ai cymmerodd hi yn wraig iddo:
4Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn ai gollyngodd hi ymmaith ddychwelyd iw chymmeryd hi i fod yn wraig iddo, wedi peri iddi ymhalogi, canys ffieidd-dra hyn o flaen yr Arglwydd: ac na wna i’r wlâd bechu yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.
5Pan gymmero gŵr wraig newydd nac eled efe i rhyfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd vn flwyddyn, i lawenhau ei wraig yr hon a gymmerodd.
6Na chymmered faen issaf nac vchaf i felin ar wystl: canys y mae y cyfryw vn yn llygru enioes.
7Pan geffir gŵr yn lledratta vn oi frodyr, o feibion Israel, ac yn ymelwa arno ef, neu yn ei werthu, yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymmaith y drygioni o’th fysc.
8Ymochel Lefit.13.8.ym mhlây gwahan-glwyf gan ddyfal gadw, a chan wneuthur yn ôl yr hyn oll a’r a ddyscodd y Lefiadaidd offeiriaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchymynnais wrthynt hwy.
9Cofia yr hynn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw di i Num.12.20.(sic.)Miriam ar y ffordd pan ddaethoch allan o’r Aipht.
10Pan fenthygiech i’th gymydog fenthig dim, na ddos iw dŷ ef i gymmeryd ei wystl ef.
11Allan y sefi, a dyged y gŵr yr hwn y benthygiaist iddo y gwystl allan attat ti.
12Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsc ai wystl
13Gan ddadroddi dadrodd ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisc, ac i’th fendithio di: a bydd i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
14Na orthrymma wenidog tlawd, ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr-ddyn yr hwn yn dy dîr o fewn dy byrth di.
15 Lefit.19.13. Tob.4.15 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog, ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac ar hyn y mae yn cynnal ei enioes, fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bôd pechod ynot.
16 2.bren.4.1.|2KI 4:1. 2.cron.25.4.|2CH 25:4. Ezec.18.20. Na rodder i farwolaeth tadau tros feibion, ac na rodder meibion i farw tros dadau: pôb vn a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17Na ŵyra farn y dieithr ymddifad: ac na chymmer ar wystloraeth wisc y weddw.
18Onid meddwl mai gwenidog fuost yn yr Aipht a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny’r wyfi yn gorchymyn it wneuthur y peth hyn.
19Pan fedech dy gynhaiaf yn dy faes, ac anghofio yscub yn y maes, na ddychwel iw chymmeryd bydded i’r dieithr, i’r ymddifad, ac i’r weddw: fel y bendithio’r Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo.
20Pan escydwech dy oliwydden na loffa yn dy ol: bydded i’r dieithr, i’r ymddifad, ac i’r weddw.
21Pan gesclech rawn-win dy winllan, na loffa yn dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r ymddifad, ac i’r weddw.
22Meddwl hefyd mae gwenidog fuost yn nhir yr Aipht: am hynny’r ydwyfi yn gorchymyn it wneuthur y peth hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.