1Ffoiwch meibion Beniamin o ganol Ierusalem, ac yn Thecoa vdcenwch vdcorn: a chodwch ffagl Nehem.3.14.ar Beth-haccarē, canys dialedd a welir o’r gogledd, a dinistr mawr.
2Cyffelybais ferch Sion dêg foethus.
3Atti hi y daw y bugeiliaid ai diadellau, wrthi hi o amgylch y gosodant eu luestai: pôrant bob vn yn ei le ei hunan.
4Cyhoeddwch ryfel yn ei herbyn hi, codwch, ac awn i fynu ar hanner dydd, gwae ni o herwydd ciliodd y dydd, canys cyscodau’r hŵyr a ymestynnasant.
5Codwch, ac awn i fynu ar nos, a destruwiwn ei phalasau hi.
6Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, torrwch goed, a bwrwch glawdd wrth Ierusalem, ymwelir a’r ddinas hon: gorthrymder sydd oi mewn hi oll.
7Megis y gwna ffynnon iw dwfr darddu allan, felly y mae hi yn bwrw allan ei drygioni, trais ac yspail a glywir ynddi, gofid a dyrnodiau sydd yn wastad ger fy mron.
8Cymmer addysc ô Ierusalem, rhag i’m henaid i ymado oddi wrthit; rhac i mi osod dy dîr di yn anrhaithiedic, yn anghyfannedd.
9Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, gan loffa y lloffânt weddill Israel fel gwînwydden: troa dy law trachefn megis cascludd grawn-wîn i’r fascet.
10Wrth bwy y dywedaf fi, ac y testiolaethaf, fel y clywant? wele eu clustiau hwynt ddienwaededic, ac ni allant wrando: wele dirmygus ganddynt air yr Arglwydd, nid oes ganddynt ewyllys iddo.
11Am hynny’r ydwyf fi yn llawn o lid yr Arglwydd, blinais yn attal dywallt ar y plant yn yr heol: ac ar gynnulleidfa yr gwŷr ieuaingc hefyd: canys y gŵr a’r wraig a ddelir, yr hen-wr a’r cyflawn o ddyddiau.
12Eu tai a ddigwyddant i eraill, eu meusydd ai gwragedd hefyd: canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad hon medd yr Arglwydd.
13O blegit o’r lleiaf o honynt hyd y mwyaf, pob vn sydd yn chwennychu golud: ac o’r prophwyd hyd yr offeiriad, pob vn sydd yn gwneuthur ffalster.
14Ac Ier.8.11.a iachauasant friw merch fy mhobl i yn esmwyth gan ddywedyd: heddwch, heddwch: er nid oedd heddwch.
15A ydoedd arnynt hwy gywilydd pan wnelent ffieidd-dra? nid ydoedd arnynt hwy ddim cywilydd, ac ni fedrent gywilyddio: am hynny y cwympant ym mysc y celaneddau, yn yr amser yr ymwelwyf â hwynt y cwympant medd yr Arglwydd.
16Fel hyn y dywed yr Arglwydd, sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, a gofynnwch am yr hên lwybrau lle mae ffordd ddâ, a rhodiwch ynddi: a chwi a gewch esmwythder i’ch eneidiau: ond hwynt a ddywedasant, ni rodiwn
17Mi a osodais wil-wŷr arnoch chwi gwrandewch ar sain yr vdcorn, ond hwythau a ddywedasant, ni wrandawn ni.
18Am hynny clywch, genhedloedd: a thi gynnulleidfa gŵybydd pa bethau sy yn eu plith hwynt.
19Gwrando tydi’r ddaiar, wele fi yn dwyn dryg-fyd ar y bobl hyn, ffrwyth eu dychymmygion eu hunain: canys nid ystyriasant fyng-eiriau, na’m cyfraith, eithr gwrthodâsant hi.
20I ba beth y daw i mi Esa.1.11. Amos.5.21.thus o Seba, Calamus peraidd o wlad bell? eich poeth offrymmau nid ydynt gymmeradwy: ac nid melus eich aberthau gennif fi.
21Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wele fi yn rhoddi tramgwyddiadau i’r bobl hyn, fel y tramgwyddo wrthynt y tadau a’r meibion hefyd, cymmydog ai gyfaill a ddifethir.
22Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wele bobl yn dyfod o dîr y gogledd: a chenhedlaeth fawr a gyfyd o eithafoedd y ddaiar.
23Yn y bŵa a’r astalch yr ymaflant, creulon ydynt, ac ni chymmerant drugaredd: eu llais a rua megis môr, ac ar feirch y marchogant yn daclus, megis gŵr i ryfel yn dy erbyn di merch Sion.
24Clywsom sôn am danynt, ein dwylo ni a laesasant, blinder a’n daliodd, fel gofid gwraig yn escor.
25Na ddos allan i’r maes, ac na rodia rhyd y ffordd: canys cleddyf y gelyn arswyd oddi amgylch.
26Merch fy mhobl ymwregysa â sach-liain, ac ymdroa yn y lludw: gwna it gwynfan a galar tost, vnic canys y destruwi-wr a ddaw yn ddisymmwth arnom ni.
27Mi a’th roddais di yn amddeffynniad, yn gadernid ym misc fy mhobl, i ŵybod ac i brofi eu ffordd hwy.
28Cyndyn o’r fath gyndynnaf ydynt oll, yn rhodio yn athrodus: efydd, a haiarn llygru y maent hwy oll.
29Lloscodd y fegin gan dân, a darfu’r plwm, yn ofer y toddodd y toddudd, canys ni thynnwyd y rhai drygionus ymmaith.
30Yn arian gwrthodedic y galwâsant hwynt: am wrthod o’r Arglwydd hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.