Ecclesiasticus 46 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XLVI.Clôd Iosua, Caleb a Samuel.

1Cryf mewn rhyfel oedd Num.27.18. Deut.34.9. Ios.1.2.Iesus mab Nafe, dilynwr Moses mewn prophwydoliaethau.

2Yr hwn (yn ôl ei enw) a oedd fawr ei iechydwriaeth i etholedigion Duw i ymddial ar y gelynion a gyfodent iw herbyn hwynt fel y cae Israel ei etifeddiaeth.

3Pa Ios.8.1.ogoniant a gafodd efe yn derchafu ei ddwylo, ac yn tynnu ei gleddyf yn erbyn dinasoedd:

4Pwy Ios.10.12.a safodd felly oi flaen ef: canys efe oedd dywysog ar ryfel yr Arglwydd.

5Onid er ei fwyn ef y safodd yr haul, ac y gwnaed vn diwrnod cyhŷd â dau:

6Efe a alwodd ar y llywydd goruchaf, pan oedd y gelynion yn ei orthrymmu ef o bob parth a’r mawr Iôr ai gwrandawodd ef Ios.10.11.gan roddi cerrig cessair mawr odieth.

7Efe a ruthrodd ar y cenhedloedd â rhyfel, ac yn y goriwared efe a ddifethodd y gwrthwynebwŷr.

8Fel y galle y cenhedloedd adnabod ei ar­fogaeth ef, maio flaen yr Arglwydd yr oedd efe yn rhyfela, o blegit efe oedd yn ymlid ar ôl cadarn.

9YnNum.14.8. 1.Mac 2.55.amser Môses hefyd y gwnaeth efe â Chaleb hefyd fab Iephun waith elusen, gau sefyll yn erbyn y gelynion, ac attal y bobl rhag pechu, a lluddio y grwgnach drygionus.

10Ac hwynt hwy ill dau a ddianghasant: Num.26.65. deut.1.35.o chwe chant mîl o wŷr traed, iw dwyn hwynt i mewn i’r etifeddiaeth, sef i’r wlâd a oedd yn llifeirio o laeth a mêl.

11I Caleb hefyd y rhoddes yr Arglwydd gryfoer, Ios.14.11.11.(sic.)ac efe a arhoes gyd ag ef hyd ei henaint fel yr aeth efe i vchelder y wlâd, ai hâd ef ai gorescynnodd yn etifeddiaeth.

12Fel y galle holl feibion Israel weled mai da yw dilyn yr Arglwydd.

13Y barnwyr hefyd bôb vn erbyn ei henw,

14Y rhai oll ni phutteiniodd eu calon, a pha rai bynnac ni throasant oddi wrth yr Arglwydd a ydynt yn caffael coffadwriaeth enwoc.

15Y mae Pen.49.10.eu hescyrn yn ireiddio yn eu lle, ac y mae eu henw hwynt yn cyfnewidio ym mhlant y rhai a gânt anrhydedd.

16Samuel y prophwyd yr hwn a oedd hoff gan yr Arglwydd 1.Sam.10.1. & 16.13.a osododd frenhiniaethau, ac a eneiniodd dywysogion ar ei bobl.

17Trwy gyfraith yr Arglwydd y barnodd efe y gynnulleidfa, a’r Arglwydd a ystyriodd wrth Iacob.

18Y prophwyd a gafwyd yn ddiwyd wrth ei ffydd, ac efe a adnabuwyd wrth ei eiriau.

19Canys efe 1.Sam.7.9.a alwodd ar yr Arglwydd galluoc, pan orthrymmodd y gelynnion ef o amgylch wrth offrymmu yr oen sugno.

20A’r Arglwydd a daranodd o’r nefoedd, ac a wnaeth glywed twrwf ei daran a sŵn mawr.

21Felly y drylliodd efe dywysogion y Ty­riaid a phenaethiaid y Philystiaid oll.

22A 1.Sam.12.3.chyn amser ei hîr hun, efe a destiolaethodd o flaen yr Arglwydd ai eneinioc, na ddygase efe o dda neb gymmaint, ac escid: ac nid achwynodd neb rhagddo ef.

23Ac 1.Sam.28.18.wedi iddo ef huno, efe a brophwydodd ac a ddangosodd i’r brenin ei ddiwedd, ac a dderchafoed ei lef o’r ddaiar gan brophwydo y deleid anwiredd y bobl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help