1Yna y mynegwyd i Ioab: wele y brenin yn ŵylo, ac yn galaru am Absalom.
2A’r fuddugoliaeth a fu y dwthwn hwnnw yn alar i’r holl bobl: canys clywodd y bobl y diwrnod hwnnw ddywedyd, dristau o’r brenin am ei fab.
3A’r bobl a aethant yn lledradaidd y diwrnod hwnnw gan fyned i mewn i’r ddinas: fel pobl a fydde yn myned yn lledradaidd wedi eu cywilyddio wrth ffoi o ryfel.
4Felly y brenin a oblygodd ei wyneb, a’r brenin a waeddodd a llêf vchel: ô fy mab Absalom, Absalom fy mab, fy mab.
5Yna Ioab a ddaeth i mewn i’r tŷ at y brenin, ac a ddywedodd: gwradwyddaist heddyw wynebau dy holl weision, y rhai a amddeffynnasant dy enioes di heddyw, ac enioes dy feibion, a’th ferched, ac enioes dy wragedd, ac enioes dy ordderch-wragedd,
6Gan garu dy geision, a chasau dy garedigion: canys mynegaist heddyw nad oedd gennit ti dywysogion, na gweision, o herwydd mi a wn heddyw os Absalom fuase byw, a ninne i gyd yn feirw heddyw: yna mai da fuase yn dy olwg di.
7Cyfot yn awr gan hynny tyret allan, a dywet yn dêg wrth dy weision: canys tyngais i’r Arglwydd os ti ni ddeui allan nad erys neb gyd a thi y nosson hon, a gwaeth fydd hyn i ti, na’r holl ddrwg yr hwn a ddaeth i’th erbyn di o’th febyd hyd yr awr hon.
8Yna y brenin a gyfododd, ac a eisteddodd yn y porth: a mynegwyd i’r holl bobl gan ddywedyd, wele y brenin yn eistedd yn y porth, a’r holl bobl a ddaethant o flaen y brenin, canys Israel a ffoase bob vn iw pebyll.
9Ac yr oedd yr holl bobl yn ymryson drwy holl deuluoedd Israel gan ddywedyd: y brenin a’u gwaredodd ni o law ein gelynnion, ac efe a’n gwaredodd ni o law y Philistiaid, ac yn awr efe a ffòdd ô’r wlâd rhac Absalom.
10Ac Absalom yr hwn a eneiniasom ni arnom a fu farw mewn rhyfel: ac yn awr pa ham yr ydych yn peidio a chyrchu yr brenin trachefn?
11Yna y brenin Dafydd a anfonodd at Zadoc, ac at Abiathar yr offeiriaid gan ddywedyd, lleferwch wrth henuriaid Iuda gan ddywedyd, pa ham yr ydych chwi olaf i ddwyn eilwaith y brenin iw dŷ? canys gair holl Israel a ddaeth at y brenin iw dŷ ei hun.
12Fy mrodyr chwi, fy ascwrn a’m cnawd chwi: pa ham gan hynny’r ydych yn olaf i ddwyn adref y brenin?
13Dywedwch hefyd wrth Amasa, onid fy ascwrn i a’m cnawd i ti? fel hyn y gwnelo Duw imi, ac fel hyn y chwanego, onid tywysog y llu fyddi di ger fy mron i yn lle Ioab byth.
14Felly efe a drôdd galon holl wŷr Iuda, fel vn gŵr: a hwy a anfonasant at y brenin dychwel di a’th holl weision.
15Felly y brenin a ddychwelodd, ac a ddaeth hyd yr Iorddonen: ac Iuda a ddaeth i Gilgal i fyned i gyfarfod a’r brenin, i ddwyn y brenin tros yr Iorddonen.
16A Simei mab Gera mab Iemini, yr hwn o Bahurim a fryssiodd: ac a ddaeth i wared gyd a gwŷr Iuda, i gyfarfod a’r brenin Dafydd.
17A mîl o wŷr o Beniamin gyd ag ef, Pen.16.15.Ziba hefyd gwâs ty Saul, ai bymthengmab, ai vgain gwâs gyd ag ef: ac a aethant tros yr Iorddonen o flaen y brenin.
18Ac yscraff aeth trosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fydde dda yn ei olwg ef: yna Semei mab Gera a syrthiodd ger bron y brenin, pan ddaeth efe tros yr Iorddonen.
19Ac efe a ddywedodd wrth y brenin, na ddannoded* fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy wâs yn anwir, y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Ierusalem: gan osod o’r brenin at ei galon.
20Canys dy wâs sydd yn cydnabod bechu o hônofi: ac wele deuthum heddyw yn gyntaf o holl dŷ Ioseph i ddyfod i wared i gyfarfod a’m harglwydd frenin.
21Ac Abisai mab Serfia a attebodd, ac a ddywedodd, ai o herwydd hyn ni roddir Semei i farwolaeth? am iddo ef felldithio eneiniog yr Arglwydd?
22Yna y dywedodd Dafydd, beth i mi a chwi meibion Serfia, gan eich bod i mi yn wrthwyneb-wŷr heddyw? a roddir i farwolaeth heddyw neb yn Israel (canys oni wn i mai heddyŵ’r ydwyfi yn frenin ar Israel?
23A’r brenin a ddywedodd wrth Serhei, ni byddi di farw: a’r brenin a dyngodd wrtho ef.
24Mephiboseth mab Saul hefyd a ddaeth i wared i gyfarfod a’r brenin: ac ni olchase efe ei draed, ac ni eilliase ei farf, ac ni olchase ei ddillad, er y dydd yr aethe yr brenin, hyd y dydd yr hwn y daeth efe mewn heddwch.
25A phan ddaeth efe i Ierusalem i gyfarfod a’r brenin: yna y dywedodd y brenin wrtho ef, pa ham nad aethost ti gyd a mi Mephiboseth?
26Ac efe a ddywedodd, fy arglwydd frenin, fyng-wâs a’m twyllodd: canys dywedodd dy wâs, cyfrwyaf i mi assyn fel y marchogwyf arni hi, ac yr elwyf at y brenin, o herwydd cloff dŷ wâs.
27Ac efe a athrododd rhwng dy was a’m harglwydd frenin: ond fy arglwydd frenin fel angel Duw, Pen.16.3.am hynny gwna yr hyn da yn dy olwg.
28Canys nid oedd holl dŷ fy nhad i onid dynion meirw ger bron fy arglwydd y brenin, etto tydi a osodaist dy wâs ym mhlith y rhai oeddynt yn bwytta ar dy fwrdd dy hun: pa gyfiawnder gan hynny sydd i mi hellach fel y gwaeddwn mwy ar y brenin?
29A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, i ba beth yr adroddi dy fatterion ym mhellach? dywedais, ti, a Ziba rhennwch y tîr.
30A Mephiboseth a ddywedodd wrth y brenin, îe cymmered efe y cwbl: gan ddyfod fy arglwydd frenin iw dŷ mewn heddwch.
31Yna Barzelai y Gileadiad a ddaeth i wared o Rogelim: ac a aeth tros yr Iorddonen gyd a’r brenin, iw hebrwng ef tros yr Iorddonen.
32A Barzelai hên iawn, yn fab pedwar vgain mlwydd: ac efe oedd yn arlwyo i’r brenin tra’r ydoedd efe ym Mahanaim, canys gŵr mawr iawn efe.
33A’r brenin a ddywedodd wrth Barzelai: tyret ti trosodd gyd a mi, a mi a’th borthaf di gyd a mi yn Ierusalem.
34Yna Barzelai a ddywedodd wrth y brenin: pa feint dyddiau blynyddoedd fy enioes i, fel yr elwni i fynu gyd a’r brenin i Ierusalem?
35Mab pedwar vgain mlwydd heddyw, a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy wâs di archwaethu yr hyn a fwytaf, neu’r hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion, a cherddoresau? pa ham gan hynny y bydd dy wâs mwyach yn faich ar fy arglwydd frenin?
36Dy wâs a aiff ychydig tu hwnt i’r Iorddonen gyd a’r brenin: a pha ham y tâl y brenin imi y taledigaeth ymma?
37Gâd attolwg i’th wâs ddychwelyd fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ym meddrod fy nhad, a’m mam: ac wele Chimham dy was di, efe a aiff trosodd gyd a’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn da yn dy olwg.
38Yna y dywedodd y brenin, Chimham a aiff gyd a mi, ac mi a wnaf iddo ef yr hyn da yn dy olwg di: A pheth bynnac a erfynniech di arnafi, mi ai gwnaf erot ti.
39Felly’r holl bobl a aethant tros yr Iorddonen, y brenin hefyd a aeth trosodd: a’r brenin a gussanodd Barzelai, ac ai bendithiodd ef, ac efe a ddychwelodd iw fangre ei hun.
40Yna y brenin a aeth trosodd i Gilgal, a Chimham a aeth gyd ag ef: a holl bobl Iudaa drosgludasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.
41Ac wele holl wŷr Israel yn dyfod at y brenin: a dywedasant wrth y brenin, pa ham y lledrataodd ein brodyr ni gwŷr Iuda dy di, ac y trosgludasant y brenin ai dylwyth tros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gyd ag ef?
42Ac attebodd holl wŷr Iuda yn erbyn gwyr Israel, canys agos’r brenin i ni: pa ham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytawsom ni o’r yr brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg?
43Yna gwŷr Israel a attebasant wyr Iuda, ac a ddywedasant, dêc rhan i ni yn y brenin, hefyd gyd a Dafydd yn fwy na thi, pa ham gan hynny y diystyraist fi: oni ddywedais i yn gyntaf am gyrchu adref fy mrenin? ac ymadrodd gwŷr Iuda oedd galedach nac ymadrodd gwŷr Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.