1Yr oedd rhyw ŵr yn Caesarea a’i enw Cornelius canwriad o’r hon a elwid yr Italaidd fyddin.
2[Gŵr] sanctaidd, yn ofni Duw yng-hyd a’i holl dy, ac yn rhoddi llawer o elusenau i’r bobl:
3Ac efe yn gweddio Duw yn oestadol, a welodd yn eglur mewn gweledigaeth yng-hylch y nawfed awr o’r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.
4Ac yntef yn craffu arno ef, ac wedi ei ofni a ddywedodd: beth yw Arglwydd, ac efe a ddywedodd wrtho, yr weddiau, a’th elusenau a dderchafasant yn goffadwriaeth ger bron Duw.
5Ac yn awr anfon di wŷr i Ioppa, a galw am Simon yr hwn a gyfenwir Petr.
6Efe sydd yn lleteua gyd ag vn Simon barcer, tŷ ’r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth a ddylit ti ei wneuthur.
7A phan ymadawodd yr angel yr hwn oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o’i weision, a mil-wr duwiol o’r rhai oeddynt yn ei wasanaethu ef.
8Pan fynegodd efe iddynt hwy bôb peth, efe a’u hanfonodd hwynt i Ioppa.
9A thrannoeth fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nessau i’r ddinas, Petr a aeth i fynu ar y tŷ i weddio yng-hylch y chweched awr.
10Ac fe a ddaeth arno ef newyn mawr, ac efe a chwennyche gael bwyd, ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno ef lewyg.
11Ac efe a wele y nef yn agored, a rhyw lestr yn descyn arno fel llen-lliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, ac wedi ei gollwng hyd y ddaiar:
12Yn yr hon yr oedd holl anifeiliaid pedwar carnol y ddaiar, a’r bwyst-filod, a’r ymlusciaid, ac ehediaid y nef.
13Ac fe ddaeth llef atto: cyfot Petr, lladd, a bwyta.
14A Phetr a ddywedodd: nid felly Arglwydd: canys ni fwyteais i er ioed ddim cyffredin nac aflan.
15A’r llef wrtho yr ail waith: y peth a lanhâodd Duw na alw di yn gyffredin.
16A hyn a wnaed dair gwaith, a derbynniwyd y llestr eil-waith i’r nef.
17Ac yna yr oedd Petr yn ammau ynddo ei hun, pa beth oedd y weledigaeth yr hon a welse: wele y gwŷr a anfonasid atto oddi wrth Cornelius, a ddaethant hyd y porth, gan ymofyn am dŷ Simon:
18Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynnasant, a oedd Simon yr hwn a gyfenwyd Petr yn lleteua yno?
19Fel yr oedd Petr yn meddwl am y weledigaeth, y dywedodd yr Yspryd wrtho: wele dry-wŷr yn dy geisio:
20Am hynny cyfot, dos i wared, ac yn ddiammau cerdda gyd â hwynt, am i mi eu hanfon hwynt.
21Yna y descynnodd Petr at y gwyr a anfonasid atto oddiwrth Cornelius, ac a ddywedodd: wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio, beth yw yr achos am yr hon y daethoch?
22Hwythau a ddywedasant: Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, yn ofni Duw, ac a gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan yr angel sanctaidd, i ddanfon am danat iw dŷ, ac i wrando geiriau gennit ti.
23Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn, ac a’u lleteuodd: a thrannoeth yr aeth Petr ymmaith gyd â hwy, a rhai o’r brodyr o Ioppa a aethant gyd ag ef.
24A thrannoeth yr aethant i mewn i Cæsarea, ac yr oedd Cornelius yn disgwil am danynt, ac efe a alwase ei geraint ai annwyl gyfeillion.
25Ac fe ddarfu fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, ddyfod o Cornelius i gyfarfod ag ef, ac efe a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a addolodd.
26Eithr Petr a’i cyfododd ef i fynu, gan ddywedyd: cyfot, dŷn wyf finne hefyd.
27A thann ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull yng-hyd.
28Ac efe a ddywedodd wrthynt: chwychwi a wyddoch nad yw gyfreithlon i Iddew ymwascu, neu nesau at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi, na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan.
29Am hynny y daethym attoch yn ddi-nag, o herwydd pa ham y gofynnaf, am ba achos y danfonasoch am danaf?
30A dywedodd Cornelius: er ys pedwar diwrnod hyd yr awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ar y nawfed awr y gweddiais yn fy nhŷ: ac wele, fe a safodd gŵr ger fy mron â gwisc ddisclaer,
31Ac a ddywedodd: Cornelius, dy weddiau di a wrandawyd, a’th elusenau ynt mewn coffa ger bron Duw.
32Am hynny anfon i Ioppa, a galw ymma Simon yr hwn a gyfenwir Petr, y mae hwn yn lleteua yn nhŷ Simon y barcer yng-lann y môr, yr hwn pan ddelo attat, a lefara i ti.
33Yna y danfonais yn ebrwydd attat, a thi a wnaethost yn dda am ddyfod, ac yr awr hon yr ydym ni oll ger bron Duw, i wrando o honom bob peth a’r a orchymynnwyd i ti gan Dduw.
34 Yna yr agorodd Petr ei enau, ac a ddywedodd, yn wir yr wyf yn deall, nad yw Duw yn Deut.10.17. 2.Cro.19.7. Rufein.2.11. Gala.2.6. Ephes.6.9. Coll 3.25. 1Pet.1.17.derbyn wyneb neb.
35Eithr ym mhob cenhedlaeth y neb a’i hofno ef, ac a wnelo gyfiawnder, sydd gymmeradwy ganddo ef.
36Yr hwn ymadrodd a ddanfonodd Duw i feibion yr Israel, gan bregethu tangneddyf yn Iesu Grist, yr hwn sydd Arglwydd pawb oll.
37Chwy-chwi a ŵyddoch y peth a fu yn holl Iudaea, gan Luc.4.14. ddechreu yn Galilæa, wedi y bedydd a bregethodd Ioan,
38Y modd y darfu i Dduw eneinio Iesu o Nazareth â’r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur gweithredoedd da, ac iachau pawb a’r a oeddynt wedi eu dwyn tann feddiant diafol: canys Duw oedd gyd ag ef.
39Ac yr ydym ni yn dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng-wlad yr Iddewon, ac yn Ierusalem, yr hwn a laddasant hwy, ac a grogâsant ar bren:
40Hwnnw a ddarfu i Dduw ei gyfodi y trydydd dydd, ac a wnaeth ei fod yn amlwg,
41Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, i ni y rhai a fwytasom, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw.
42Ac efe a orchymynnodd i ni bregethu i’r bobl, a dwyn testiolaeth mai efe yw hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn farn-wr byw a meirw.
43Gyd â hwn mae yr holl Pen.15.9. Ierem.31.34 Mich.7.18. brophwydi yn testiolaethu, fod i bawb a gredo ynddo ef gael maddeuant am eu pechodau yn ei enw ef.
44Tra fu Petr yn dywedyd y geiriau hyn, descynnodd yr Yspryd glân ar bawb a glywsant y gair.
45A’r rhai o’r enwaediad a oeddent yn credu, ac a ddaethent gyd â Phetr, a synnasant, am dywallt yr Yspryd glân ar y cenhedloedd hefyd.
46Canys hwy a’u clywsant hwynt yn ymadrodd â thafodau, ac yn mawrhygu Duw, yna yr attebodd Petr,
47A all neb luddio dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd glân fel ninnau?
48Ac efe a orchymynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd: yna y deisyfiasant arno aros tros enyd o ddyddiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.