Hebræaid 3 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. III.Y mae efe yn eu cynghori i fod yn vfydd i air Crist, 3 Yr hwn sydd ragorach nâ Moses. 12 Poenedigaeth y cyfryw ag a galedant eu calonnau, ac ni chredant, fel y caffent orphwysfa dragywyddol.

1Am hyn fy mrodyr sanctaidd, cyfrannogion o’r galwedigaeth nefol, ystyriwch Iesu Grist, Apostol ac Arch-offeiriad ein cyffes ni yng-Hrist Iesu,

2Yr hwn-sydd ffyddlon i’r hwn a’i hordeiniodd, megis Num.12.7.Moses yn ei holl dŷ.

3Oblegit hwn a gyfrifwyd ei fod yn haeddu mwy o ogoniant nâ Moses, o gymmaint, ac y mae yr hwn sydd yn gwneuthur tŷ yn cael mwy o barch nâ’r tŷ.

4Canys pob tŷ a adeilir gan ryw vn, a’r neb a wnaeth bob peth ydyw Duw.

5A Moses yn wir a fu ffyddlon yn ei holl dŷ ef megis gwasanaeth-ŵr, er testiolaeth i’r pethau a draethid.

6Eithr Crist megis mab ar ei dŷ ei hun, tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyfder a gorfoleddd ein gobaith yn siccr hyd y diwedd.

7Am hynny megis y dywed yr Yspryd glân, Psal.95.8. pen.4.7.heddyw o gwandewch ei leferydd ef,

8Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, yn nydd y profedigaeth yn y diffaethwch,

9Lle y temtiodd eich tadau chwi fi, y profasant fi, ac y gwelsant fyng-weithreddedd ddeugain mhlynedd,

10Am hynny y sorrais wrth y genhedlaeth honno, a dywedais, y maent hwy yn cyfeiliorni yn calonnau, ac nid adnabuant fy ffyrdd mau fi.

11Hyd oni thyngais yn fy nigllonedd, na chaent hwy ddyfod i mewn i’m gorphywysfa.

12Edrychwch frodyr, rhag bod vn amser yn neb o honoch ddrwg galon anffyddlon i beri ymadel â Duw byw.

13Eithr cynghorwch bawb eu gilydd beunydd tra y gelwyr hi heddyw, rhag i neb o honoch ymgaledu trwy dwyll pechod.

14Canys nyni a wnaed yn gyfrannogion o Grist, os nyni a gadwn y dechreuad trwy’r hwn ein cynhelir i fynu yn siccr hyd y diwedd.

15Tra y dywedir, heddyw os gwrandewch ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa.

16Canys rhai ar ôl gwrando, digiasant ac etto, nid pawb a’r a ddaethant o’r Aipht trwy Moses.

17Ac wrth bwy y bu efe sorredic ddeugain mhlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd Num.14.37.eu cyrph yn y diffaethwch?

18Ac wrth bwy y tyngodd na chaent hwy fyned i mewn iw orphywysfa ef? onid wrth y rhai, nid vfyddhaent?

19Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn o herwydd anghredyniaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help