1Yn y dyddiau yr ydoedd y brawd-wŷr yn barnu, pan oedd newyn yn y wlâd: yna’r gŵr o Bethlehem Iuda i ymdeithio yng-wlâd Moab, efe ai wraig, ai ddau fâb.
2Ac henw y gŵr Elimelech, ac henw ei wraig Naomi, ac henw ei ddau fâb ef Mahlon, a Chilon Ephrateaid o Bethlehem Iuda: ac hwy a ddaethant i wlâd Moab, ac a fuant yno.
3Yna Elimelech gŵr Naomi a fû farw: hithe a arhosodd hi ai dau fâb.
4A hwy a gymmerasant iddynt wragedd Moabiesau, henw y naill Orpha, ac henw y llall Ruth: a thrigasant yno yng-hylch deng-mlynedd.
5A Mahlon, a Chilon a fuant feirw hefyd ill dau: a’r wraig a drigodd oi dau fâb, ac oi gŵr.
6Yna hi a gyfododd ai merched yng-hyfraith, ac a ddychwelodd o wlâd Moab: canys clywse hi yng-wlâd Moab, ddarfod i’r Arglwydd ymweled ai bobl, gan roddi iddynt fara.
7A hi a aeth o’r lle ’r hwn yr oedd hi ynddo, ai dwy waudd gyd a hi: a hwy a aethant i ffordd gan ddychwelyd i wlâd Iuda.
8Yna Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, ewch, dychwelwch bôb vn i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd a chwi, fel y gwnaethoch a’r meirw, ac a minne.
9Yr Arglwyd a ganniadhao i chwi gael llonydd bôb vn yn nhŷ ei gŵr: pan gussanodd hi hwynt, yna y derchafasant hwy eu llef, ac yr ŵylasant.
10Ac a ddywedasant wrthi hi: diau y dychwelwn ni gyd a thi at dy bobl di.
11A dywedodd Naomi, dychwelwch fy merched, i ba beth y deuwch gyd a mi? a gennifi feibion etto yn fyng-hroth Deut.25.5.|DEU 25:5. Mat.22.24.|MAT 22:24. Mat.12.19.|MAT 12:19. Luc.20.28.i fod yn wŷr i chwi?
12Dychwelwch fy merched, ewch ymmaith, canys ydwyf ry hên i briodi gŵr: pe dywedwn y mae gennif obaith, a bod heno gyd a gŵr, ac ymddwyn meibion hefyd,
13A ddiscwiliech chwi am danynt hwy hyd oni gynnyddent hwy? a ymarhosech chwi am danynt hwy heb ŵra? nage fy merched, canys mwy o dristwch i mi o’ch plegit chwi, am i law ’r Arglwydd fyned i’m herbyn.
14Yna y derchafasant eu llef, ac yr ŵylasant eil-waith: ac Orpha a gussanodd ei chwegr, ond Ruth a lynodd wrthi hi.
15A dywedodd wele dy chwaer yng-hyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithe ar ôl dy chwaer yng-hyfraith.
16Ruth a ddywedodd, nac erfynnia arnafi ymado a thi, gan gilio oddi wrthit: canys pa le bynnac yr elech di, yr âf inne, ac ym mha le bynac y lletteuech di y lleteuaf inne, dy bobl di fy mhobl i, a’th Dduw di, fy Nuw inne.
17Lle y byddi di marw y byddaf inne farw, ac yno i’m cleddir inne: fel hyn y gwnelo’r Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego efe, os angeu a wna yscariaeth rhyngofi, a thithe.
18Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyd a hi: yna hi a beidiodd a dywedyd wrthi hi.
19Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem: yna’r holl ddinas a gyffrôdd oi herwydd hwynt, a dywedasant, ond hon Naomi?
20A hi a ddywedodd wrthynt hwy, na elwch fi Naomi: gelwch fi Mara, canys yr Holl alluoc a’m gwnaeth i yn chwerw iawn.
21Myfi a euthum yn gyflawn, a’r Arglwydd a’m dûg i eil-waith yn wâg: pa ham y gelwch chwi fi Naomi? gan i’r Arglwydd fy narostwng, ac i’r Holl-alluoc fy nrygu?
22Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth (y Moabes) ei gwaudd gyd a hi a ddychwelodd o wlâd Moab: a hwynt a ddaethant i Bethlehem yn nechreu cynhaiaf yr heiddiau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.