Genesis 10 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. X.Cynnydd rhywogaeth dyn allan o Noah ai feibion. 10 Dechreuad dinasoedd, gwledydd, a chenhedlaethau wedi dwfr diluw.

1Ac dymma genhedlaethau meibion Noah, Sem, Cam, ac Iapheth, ganwyd hefyd meibion i’r rhai hyn wedi ’r diluw.

2Meibion Iapheth Gomer, a Magoc, a Madai, a Iafan, a Thubal, a Mesech a Thiras.

3Meibion Gomer hefyd: Ascenas, a Riphath, a Thogarma.

4A meibion Iafan, Elisa, a Tharsis, Cittim a Dodanim.

5O’r rhai hyn y rhannwyd ynysoedd y cenhedloedd yn eu gwledydd pawb wrth ei iaith ei hun trwy eu teuluodd, yn eu cenhedloedd.

6A meibion Cam Cus, a Mizraim a Phut, a Chanaan.

7A meibion Cus: Seba, a Hafilah a Sabthah, a Raamah, a Sabthecah: a meibion Raamah Saba, a Dedan.

8Cus hefyd a genhedlodd Nimrod, efe a ddechreuodd fod yn gadarn ar y ddaiar.

9Efe oedd heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd: am hynny y dywedir, fel Nimrod gadarn o heliwriaeth ger bron yr Arglwydd.

10A dechreuad ei frenhiniaeth ef ydoedd Babel, ac Erech, ac Acad, a Chalneh yng-wlad Sinar.

11O’r wlâd honno yr aeth Assur allan, ac a adailadodd Ninefe, a dinas Rehoboth, a Chalah.

12A Resen rhwng Ninefe, a Chalah, honno ddinas fawr.

13Mizraim hefyd a genhedlodd Ludim, ac Anamim, a Lehabim, a Nephthuim.

14Pathrusim hefyd, a Chassuhim, a’r Capthoriaid y rhai y daeth Philistiaid allan o honynt.

15Canaan hefyd a genhedlodd Sidon ei gyntafanedic, a Heth,

16A’r Iebusiad a’r Amoriad, a’r Gergasiad

17A’r Hefiad a’r Arciad a’r Siniad.

18A’r Arfadiad a’r Semariad a’r Hamathiad: ac wedi hynny yr ymwascarodd teuluoedd, y Canaaneaid.

19Terfyn y Canaaneaid oedd hefyd o Sidon ffordd yr elych i Gerar hyd Azah: a ffordd yr elych i Sodoma, a Gomorra, ac Adama, a Seboiim, hyd Lesa.

20Dymma feibion Cam, yn ol eu teuluoedd, wrth eu hieithoedd yn eu gwledydd yn eu cenhedloedd.

21I Sem hefyd y ganwyd plant, yntef oedd dâd holl feibion Heber brawd Iapheth yr hwn oedd hynaf.

22Meibion 1.Cron.1.17.Sem Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.

23A meibion Aram, Us, a Hul, a Gether, a Mas.

24Ac Arphaxad a genhedlodd Selah, a Selah, a genhedlodd Heber.

25Ac i Heber y ganwyd dau o feibion, henw vn Peleg: o herwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaiar, a henw ei frawd Iactan.

26Ac Iactan a genhedlodd Almadad, a Saleph, a Hazarmafeth, ac Ierah.

27Hadoram hefyd, ac Usal, a Dicla.

28Obal hefyd, ac Abimael, a Seba.

29Ophir hefyd, a Hafilah, a Iobab, yr holl rai hyn feibion Iactan.

30Ai presswylfa, oedd o Mesa ffordd yr elych i Sapher mynydd y dwyrain.

31Dymma feibion Sem, wrth eu teuluoedd, yn ol eu hiaithoedd, yn eu gwledydd, trwy eu cenhedloedd.

32Dymma deuluoedd meibion Noah, wrth eu cenhedlaethau, yn ol eu cenhedloedd, ac o’r rhai hyn yr ymrannodd y cenhedloedd ar y ddaiar wedi ’r diluw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help