Lefiticus 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Aaron yn dechreu offrymmu. 22 Ac yn bendithio y bobl. 23 Gogoniant Duw yn ymddangos.

1Yna y bu ar yr wythfed dydd i Moses alw am Aaron ac am ei feibion, ac am henuriaid Israel.

2Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, cymmer it lô ieuangc yn aberth tros bechod, a hwrdd yn boeth offrwm o rai perffaith-gwbl, a dwg ger bron yr Arglwydd.

3Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd: cymmerwch lwdn gafr gwryw, yn aberth tros bechod, a llô, ac oen blwyddiaid perffaith-gwbl yn boeth offrwm.

4Ac eidion, a hwrdd y aberth hedd, i aberthu ger bron yr Arglwydd: a bwyd offrwm wedi ei gymmyscy trwy olew: o herwydd heddyw yr ymddengys yr Arglwydd ichwi.

5A dugasant yr hyn a orchymynnodd Moses ger bron pabell y cyfarfod: a’r holl gynnulleidfa a ddaethant ac a safasant ger bron yr Arglwydd.

6A dywedodd Moses gwnewch y peth hynn, yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd: ac ymddengys gogoniant yr Arglwydd i chwi.

7Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, dos at yr allor ac abertha dy aberth tros bechod, a’th boeth offrwm a gwna iawn Heb.7.27.drosot dy hun, a thros y bobl, ac abertha offrwm y bobl, a gwna iawn drostynt, fel y gorchymynodd’r Arglwydd

8Yna y nessaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lô yr aberth tros bechod, yr hwn trosto ef ei hun.

9A meibion Aaron a ddugasant y gwaed atto, ac efe a wlychodd ei fŷs yn y gwaed, ac ai gossododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor.

10Ond efe a losgodd ar yr allor o’r aberth tros bechod y gwêr a’r arennau, a rhwyden yr ast, fel y gorchymynase yr Arglwydd wrth Moses.

11A’r cîg, a’r croen a losgodd efe mewn tân: o’r tu allan i’r gwerssyll.

12Ac efe Lefit.1.5.a laddodd y poeth offrwm, a meibion Aaron a ddugasant y gwaed atto, ac efe ai taenellodd ar yr allor o amgylch.

13A dugasant y poeth offrwm atto’n ddarnau ai ben hefyd: ac efe ai llosgodd hwynt ar’r allor.

14Ac efe a olchodd y perfedd a’r traed, ac ai llosgodd hwynt yng-hyd a’r offrwm poeth ar’r allor.

15Hefyd efe a ddug offrwm y bobl, ac a gymmerodd fwch yr aberth tros bechod yr hwn tros y bobl, ac ai lladdodd, ac ai hoffrymmodd tros bechod, fel y cyntaf.

16Ac efe a ddug y poeth offrwm, ac ai hoffrymmodd yn ol y ddefod.

17Felly efe a ddug y bwyd offrwm ac a lanwodd ei law o honaw, ac llosgodd ar yr allor heb law poeth offrwm y boreu.

18Ac efe a laddodd ŷch a hwrdd yr aberth hedd, yr hwn tros y bobl: a meibion Aaron a ddugasant y gwaed atto, ac efe ai taenellodd ef ar yr allor o amgylch.

19[Cymmerasant] hefyd o’r ŷch y gwêr: ac o’r hwrdd y gloren, ar wêren fol, a’r arennau, a rhwyden yr ast.

20A gosodasant y gwêr ar y parwydennau, ac efe a losgdd y gwêr ar yr allor.

21Y parwydennau hefyd, a’r yscwyddoc ddehau a gwhwfanodd Aaron yn offrwm cwbwfan ger bron yr Arglwydd fel y gorchymynnodd Moses.

22A chododd Aaron ei law ar y bobl, ac ai bendithiodd, ac a ddaeth i wared o wneuthur yr aberth tros bechod, a’r poeth offrwm, a’r aberth hedd.

23Yna y daeth Moses ac Aaron i babell y cyfarfod, ac aethant allan, ac a fendithiasant y bobl, a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl bobl.

24Ac 2.Cron.7.1. 2 Mac.2.10aeth tân allan oddi ger bron yr Arglwydd, ac a yssodd y poeth offrwm, a’r gwêr ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl, a gwaeddasant a chwympasant ar eu hwynebau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help