2.Machabæaid 13 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XIII.1 Eupator yn dyfod i Iudæa. 4 Marwolaeth Menelaus, 10 Machabæus yn myned i ymladd yn erbyn Eupator, ac yn peri iw ryfelwyr weddio. 15 Ac yn lladd pedair mil ar ddêc yng-werssyll Antiochus. 21 Daliad Rhodocus bradychwr yr lddewon.

1YN y nawed flwyddyn a deugain a chant y daeth y gair at Iudas fod Antiochus Eu­pator yn dyfod a lluosogrwydd i Iudaea.

2A chyd ag ef Lysias gorchwylwr a llywydd ei holl fatterion, a chan bod vn yn ei lu o’r Groegwŷr, gant a dengmîl o wŷr traed, a phum mîl o wŷr meirch, a dau Elephant a’r hugain, a thry-chant o gerbydau bachog.

3At y rhai yr ymgysylltodd Menelaus hefyd a thrwy fawr watwar y cynghorodd efe Antiochus nid gan feddwl am fudd i’r wlâd, ond ar fedr cael bôd ei hun yn bennadur.

4Ond brenin y brenhinoedd a gyffroes galon Antiochus yn erbyn y sceler a phan ddangosodd Lysias i’r brenin mai hwn oedd achos yr holl ddrygioni, efe a orchymynnodd iw ryfelwŷr (fel yr oedd yr arfer ei ddwyn) ef i Berea ac yno ei ddifetha ef.

5Y mae hefyd yn y lle hwnnw dŵr o ddêc cufydd a deugain o vchder yn llawn o ludw yn yr hwn yr oedd rhyw offeryn yn troi yn grwn, ac o bôb tu yn llithro i lawr ar y lludw.

6Yna y gyrre pawb i farwolaeth y nêb a fernid yn euog o gyssegr-ladrad, a’r nêb a fydde yn rhanog mewn gweithredoedd drwg eraill.

7O’r farwolaeth ymma y darfu i’r gŵr annuwiol hwnnw Menelaus farw, ac heb gael daiar iw gorph:

8Tra chyfiawn canys yn gymmeint ac iddo ef wneuthur llawer o bechodau yng-hylch yr allor yr hon oedd ai lludw yn sanctaidd a ddioddefodd farwolaeth mewn lludw.

9Ond y brenin yn gyffrous yn ei feddwl a ddefeisiodd ryw ddiaiedd yn erbyn yr Iddewon yr hwn ni’s gwnaethid yr ioed yn amser ei dâd.

10Ond pā ŵybu Iudas hynny, efe a orchy­mynnodd i’r gynnulleidfa megis y galwent ar yr Arglwydd ddydd a nôs os helpiase ef hwynt er ioed ar iddo yn awr helpio y rhai oedd yn debyg i golli eu cyfraith, eu gwlad ai Teml sanctaidd.

11Ac na adawe efe ddarostwng tan genhedlaeth ddirmygus y bobl y rhai a gawsent ychydig lonyddwch.

12Ac wedi i bawb o honynt gyd wneuthur yr vn peth a deisyf ar yr Arglwydd trugawg drwy wylofain, ac vmpryd dan ymostwng dri diwrnod yn ddiorphywys, Iuda a gynghorodd iddynt ddyfod

13Ac efe fel yr oedd efe gyd a’r henafiaid o’r nailldu, cyn i lu y brenin ruthro i Iudaea, a chael meddiannu y ddinas efe a ymgynghorodd am fyned o honynt hwy allan a phrofi y materion trwy help yr Arglwydd.

14Felly gan fwrw ei ofal ar greawdur y byd efe a gynghorodd i’r nêb oedd gyd ag ef ymladd yn rymmus hyd farwolaeth yng-hweryl cyfreithiau eu Teml eu gwlâd ai pôbl gyffredin, ac a wnaeth werssyllfa o amgylch Modin.

15Yna wedi rhoddi iw ryfel-wŷr yn arwydd o oruchafiaeth Duw gyd â’r gwŷr ieuaingc gwrôlaf, efe a symmudodd y gwerssyll liw nôs at neuadd y brenin, ac a laddodd yng-hylch dwy fîl o wŷr, a’r pennaf oll o’r Elephantiaid, a’r dyrfa yr hon oedd yn tŷ a laddodd efe gyd â hwynt.

16Yna pan lanwasant hwy yr hôll lu ag ofn, ac arswyd, hwy a ymadawsant yn llwyddiannus.

17Hyn a wnaethpwyd yn y boreuddydd am fod amddeffyn yr Arglwydd, yn ei gynnorthwyo ef.

18Y brenin hefyd pan gafodd efe braw o hyfder yr Iddewon a brofodd gael lleoedd trwy gyfrwysdra.

19A phan ddaeth efe i Gethsura amdde­ffynfa gadarn yr Iddewon, efe a yrrwyd i ffoi, ac a dramgwyddodd, ac a wanhawyd.

20Iudas hefyd a ddanfonodd i’r rhai oeddynt yn y dref y pethau oeddynt anghenreidiol iddynt.

21Ond Rhodocus, o lu yr Iddewon a gyhuddodd y gyfrinach i’r gelynion, ac wedi holi y matter hwy ai daliasant, ac ai caeasant mewn carchar.

22Yna yr brenin a ymddiddanodd yr ail waith â’r Bethsuriaid, ac a roes, ac a gymmerth ddeheulaw, a aeth ymmaith, ac a gyfarfu â llu Iudas, ac a orchfygwyd.

23Pan ŵybu efe wrthryfela o Philip, (yr hwn a adawsid yn Antiochia i fod yn olygwr ar ei fatterion) efe a ddychrynnodd, a ymnheddodd a’r Iddewon, a ymostyngodd ac a dyngodd ym mhôb cyfraith gyfiawn, ac wedi tangnheddefu efe offrymmodd, ac a anrhydeddodd y deml, ac fu gymmwynascar i’r lle.

24Efe a gofleidiodd Machabeus, ac ai ga­dawodd ef yn gapten pennaf o Ptolemais hyd y Gerrenaid.

25Yna pan ddaeth efe i Ptolemais pan oedd anfodlon gan bôbl Ptolemais yr ammodau hynny (o blegit digllon oeddynt o blegit i’r Iddewon fod yn chwennychu torri yr ammodau)

26Lysias a ddaeth i’r orseddfa, ac a amddeffynnodd y weithred yn drefnus, efe a ennillodd ai llonyddodd, ac ai gwnaeth hwynt yn ewyllyscar, yna y troes efe i Antiochia, ac fal hyn y damweiniodd taith y brenin ai ddychweliad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help