1 1.Tim.4.1.|1TI 4:1. 2.pet.3.3.|2PE 3:3. iud.18. Gwybydd hyn hefyd y daw amserau enbyd yn y dyddiau diweddaf.
2Canys bydd dynion a’u serch arnynt eu hunain gubyddion ymffrost-wyr, feilchion, yn gabl-wyr, yn anufyddion iw rhieni, yn anniolchgar, yn annuwiol,
3Yn angharedic, yn torri cyfammod yn hortwyr yn anghymhesur, yn anfwyn, heb serch ganddynt i’r rhai da.
4Yn frad-wyr, yn waed-wyllt, yn ymchwyddic, yn caru melus-chwant yn fwy nag yn caru Duw,
5A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym: a’r cyfryw gochel di.
6Canys o’r rhai hynny y mae y sawl sydd yn ymlusco i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, y rhai a arweinir gan amrafael chwantau,
7Yn dyscu bob amser ac heb allu vn amser ddyfod i ŵybodaeth y gwirionedd.
8Eithr megis y gwrth-safodd Exod.7.11.12.Iames ac Iambres Moses, felly y mae y rhai hyn yn gwrthwynebu y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig yn anghymmeradwy o herwydd y ffydd.
9Eithr ni ffynna ganddynt mwyach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu i’r eiddynt hwythau.
10Eithr ti a lwyr adwaenost fy-nysceidiaeth i, helynt fy-muchedd, fy arfaeth, ffydd, ammynedd, cariad, dioddefgarwch.
11Yr erlid, a’r cystudd, y rhai a ddaethant i mi yn Gweith.13.14.Antiochia yn Iconium, ac yn Lystri, pa erlid a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll i’m gwaredod yr Arglwydd.
12Pawb hefyd a’r a ewyllysiant fyw yn dduwiol yng-Hrist Iesu, a erlidir.
13Eithr y drwg ddynion a’r twyll-wyr a ffynnant waeth-waeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo.
14Eithr aros di yn y pethau a ddyscaist, ac a ymddyriedwyd i ti, gan ŵybod gan bwy y dyscaist.
15Ac i ti er yn fachgen wybod yr scrythur lan yr hon sydd abl i’th wneuthur yn ddoeth i iechydwriaeth, trwy ’r ffydd yr hon sydd yng-Hrist Iesu.
16Canys 2.Petr.1.20.yr hôll scrythur wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, ac fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddu, i gospi ac i addyscu mewn cyfiawnder,
17Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
