Tobias 8 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VIII.Y modd y diangodd Tobias oddi wrth y dinistr a gawse gwyr cyntaf Sarra. 9 Raguel yn gwneuthur bedd Tobias. 15 A phan wybu ei fod efe yn fyw yn diolchi Dduw.

1AC wedi iddynt swpperu, hwy a ddugant Tobias i mewn atti.

2Yr hwn wrth fyned a feddyliodd am eiriau Raphael, ac a gymmerth farwydos yr arogleuau, ac a roddes arnynt o galon y pyscodyn ai au, ac ai gwnaeth i fygu.

3Pan aroglodd y cythrael yr arogl hwnnw, efe a ffôdd i oruchafion yr Aipht, a’r angel ai rhwymodd ef.

4Ac fel yr oeddynt ill dau wedi eu cau i mewn, tobias a gyfododd oi wely, ac a ddywedodd cyfot fy chwaer a gweddiwn yr Arglwydd fod yn drugarog wrthym.

5Yna y dechreuodd Tobias ddywedyd: Bendigedic wyt ô Dduw ein tadau, a bendigaid yw dy enw sanctaidd a gogoneddus yn dragywyddol. Bendiged y nefoedd a’th greaduriaid oll dy di.

6Tydi a wnaethost Adda, ac a roddaist Efa ei wraig yn gymmorth ac yn nerth iddo: o honynt y daeth pob cyfryw ddyn: ti a ddywedaist: Nid da bod gwr yn vnic, gwnawn iddo gymmorth cyffelyb iddo.

7Ac yr awran Arglwydd, nid er mwyn godineb yr wyf yn cymmeryd fy chwaer hon, eithr mewn iniawnfryd meddwl, pâr drugarhau wrthif, fel yr heneiddiwyf gydâ hi.

8A hi a ddywedodd gyd ag ef Amen.

9Ac felly y cyscasant ill dau y nôs honno, a phan gyfododd Raguel i fynu, efe a aeth, ac a gloddiodd fedd,

10Gan ddywedyd, oni bu hwnn farw hefyd?

11Ac wedi dyfod Raguel iw dŷ,

12Efe a ddywedodd wrth Edna ei wraig, anfon vn o’r morwynion i edrych ai byw efe: os amgen, fel y gallwyf ei gladdu ef heb ŵybod i neb.

13A’r forwyn wedi iddi agoryd y drws a aeth i mewn, ac ai cafodd hwynt ill dau yn cyscu.

14A phan ddaeth allan, hi a ddangosodd iddynt, ei fod efe yn fyw.

15Yna Raguel a foliannodd Dduw, gan ddywedyd: Bendiger di ô Dduw â phob duwiol a sanctaidd fendith, bendiged dy sainct dy di a’th greaduraid oll, a chwbl o’th angelion a’th etholedig a’th folant ti byth bythoedd.

16Bendigedic fych ô Arglwydd, am i ti fy llawenhau, ac na ddaeth i mi, fel yr oeddwn yn tybied, eithr ti a wnaethost i ni yn ôl dy fawr drugaredd.

17A bendigedic fyddech am i ti drugarhau wrth ddau vn blant gan ddangos iddynt ragorol drugaredd: diwedda eu bywyd mewn iechyd gyd â llawenydd a thrugaredd.

18Yna yr archodd efe iw weision lenwi ’r bedd.

19Ac efe a gadwodd y neithior bedwar diwrnod ar ddêc.

20A Raguel a ymddiddanodd â Tobias, gan dyngu, nad ai efe ymmaith nes darfod cyflawni dyddieu ’r neithior, nid amgen pedwar diwrnod ar ddêc.

21Ac yna y cai efe ddychwelyd yn iach at ei dad, a chael hanner ei dda ef, a’r cwbl ar ei ôl ef ai wraig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help