1Yn y seithfed flwyddyn, o fewn y pummed ar y decfed o’r mîs y daeth gwŷr o henuriaid Israel i ymgynghori â’r Arglwydd: ac eisteddasont o’m blaen i.
2Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
3Ha fab dŷn, llefara wrth henuriaid Israel a dywet wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod? byw fi medd yr Arglwydd Dduw, os attebaf i chwi.
4A ferni di hwynt? mab dyn a ferni di hwynt? gwna di iddynt ŵybod ffieidd-dra eu tadau.
5A dywet wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ar y dydd y dewisais Israel, ac y tyngais wrth hâd tŷ Iacob, ac i’m hyspysswyd iddynt yn nhîr yr Aipht: ac y tyngais wrthynt gan ddywedyd: myfi yr Arglwydd eich Duw chwi,
6Yn y dydd hwnnw y tyngais wrthynt, ar eu dwyn hwynt allan o dîr yr Aipht, i wlad yr hon a ddarparaswn iddynt yn llifeirio o laeth, a mêl: honno yw gogoniant yr holl diroedd.
7A dywedais wrthynt, bwriwch ymmaith bob vn ffieidd-dra ei lygaid,
14Etto gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogyd ef yng-olwg y cenhedloedd, y rhai y dygais hwynt allan yn eu gŵydd.
15Ac etto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch, na ddygwn hwynt i’r wlâd yr hon a roddais yn llifeirio o laeth, a mêl: honno gogoniant yr holl wledydd:
16O herwydd fy marnedigaethau a ddiystyrasent, fy neddfau hefyd ni rodiasent ynddynt, a’m Sabbothau a halogalent: canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heulynnod.
17Etto tosturriodd fy llygaid wrthynt rhac eu dinistrio, ac ni wneuthum drangc arnynt yn yr anialwch.
18Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch, na rodiwch vn neddfau eich tadau, ac na chedwch eu barnedlgaethau hwynt, nac ymhologwch ychwaith wrth eu heulynnod hwynt.
19Myfi yr Arglwydd eich Duw chwi, rhodiwch yn fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt.
20Sancteiddiwch hefyd fy Sabbothau fel y byddant yn arwydd rhyngofi â chwithau i ŵybod mai myfi yr Arglwydd eich Duw chwi.
21Y meibion hefyd a wrthryfelasant, i’m herbyn, yn fy neddfau ni rodiasant, a’m barnedigaethau ni chadwasant drwy eu gwneuthur hwynt, (y rhai y bydd fyw ynddynt y dyn ai gwnelo hwynt) halogalant fy Sabbothau, fel yr amcenais dywallt fy llid arnynt gan orphen fy nig wrthynt yn yr anialwch.
22Etto troais fy llaw, a gwneuthum drugaredd er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng-olwg y cenhedloedd, y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd.
23Etto mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwascaru hwynt ym mysc y cenhedloedd, ai târ u hwynt hyd y gwledydd.
24O herwydd fy marnedigaethau ni wnaethent, a’m deddfau a ddiystyrasent, fy Sabbothau hefyd a halogasent, ai llygaid oeddynt ar ôl eulynnod eu tadau.
25Minne hefyd a roddaswn iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt.
26Ac halogaswn hwynt yn eu hoffrymmau, wrth dynnu bob cyntafanedic fel y dinistriwn hwynt: megis y gwybyddent mai myfi yr Arglwydd.
27Am hynny fab dŷn llefara wrth dŷ Israel, a dywet wrthyt, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, hyd yn hyn i’m cablodd eich tadau, gan wneuthur o honynt gamwedd i’m herbyn.
28Canys dygais hwynt i’r tîr, yr hwn a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob brynn vchel, a phob prenn brigoc, ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymmau digllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl esmwyth, ac yno y tywalltasant eu diod offrwm.
29Yna y dywedais wrthynt, beth yr vchelfa yr hon yr ydych chwi yn dyfod iddi? a Bamah y galwyd ei henw hyd y dydd hwn.
30Am hynny dywet wrth dŷ Israel, fel hynn y dywedyr Arglwydd Dduw, ai yn ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a butteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd-dra hwynt?
31Pan offrymmoch eich offrymmau, gan dynnu eich meibion drwy’r tân yr ymhalogech chwi wrth eich holl eulynnod hyd heddyw: a attebaf fi i chwi gan hynny tŷ Israel? byw fi medd yr Arglwydd os attebaf i chwi.
32Eich amcan hefyd ni bydd ddim yr hynn a ddywedwch, byddwn fel y cenhedloedd, wrth ddefodau y gwledydd i wasanaethu prenn, a maen.
33[Nid] byw fi medd yr Arglwydd Dduw, onid a llaw gadarn, ac a braich estynnedic, ac â llidiawgrwydd tywalltedic y teyrnasaf arnoch.
34A dygaf chwi allan o fysc y bobloedd, a chasclaf chwi o’r gwledydd y rhai i’ch gwascerais rhyd-ddynt âllaw gadarn, ac â braich estynnedic, ac mewn llidiawgrwydd tywalltedic.
35Ie dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb.
36Fel yr ymddadleuais a ch tadau yn anialwch tir yr Aipht: felly yr ymddadleuaf â chwithau medd yr Arglwydd Dduw.
37A gwnaf iwch fyned tann y wialen, fel y dygwyf chwi mewn rhwym y cyfammod.
38A detholaf o honoch y rhai anufyddgar, a’r rhai anffyddlon i mi, dygaf hwynt o wlâd eu hymdaith, ac i wlad Israel ni ddaw fel y gwypont mae myfi yr Arglwydd.
39Chwithau tŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, ewch a gwasanaethwch bob vn ar ôl ei eulynnod, oni wrandewch arnafi: ond na halogwch yno mwy fy enw sanctaidd drwy eith offrymmau, a thrwy eich eulynnod.
40Canys yn fy mynydd sanctaidd, yn vchel fynydd Israel medd yr Arglwydd Dduw, yno i’m gwasanaetha holl dŷ Israel ei gyd trwy yr wlad: yna y vyddaf fodlon iddynt, ac yno yr ymofynnaf am eich offrymmau derchafel, a blaen-ffrwyth eich offrymmau, gyd a’ch holl sanctaidd betheu.
41Byddaf fodlon i chwi mewn arogl esmwyth, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a’ch casclu chwi o’r tiroedd y rhai i’ch gwascerais chwi ar hyd-ddynt, ac ymsancteiddio o honot ynoch yng-olwg y cenhedloedd.
42Yna y cewch ŵybod mai myfi ydwyf yr Arglwydd, pan ddygwyf chwi i dir Israel, i’r tîr yr hwn y tyngais ar ei roddi i’ch tadau.
43Ac yno y coffewch eich ffyrdd, a’ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt, fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni y rhai a wnaethoch.
44A chewch ŵybod mai myfi yr Arglwydd, pan wnelwyf â chwi, er mwyn fy enw: nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredic, ô tŷ Israel medd yr Arglwydd Dduw.
45Daeth trachefn gair yr Arglwydd attaf gan ddywedyd:
46Gosot dy wyneb fab dŷn, tua ffordd Themanah, ie difera tua yr deau, a phrophwyd a am goed y maes tua’r deau.
47A dywet wrth goed y deau, gwrando air yr Arglwydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, wele fi yn cynneu ynot ti dân, ac efe a yssa ynot ti bob pren ir, a phob pren sych, ffagl y fflam ni ddiffydd ynddo, onid yr holl wynebau o’r deau hyd y gogledd a loscir ynddi.
48A phob frawd a welant, o herwydd maf myfi yr Arglwydd ai cynneuais, na’s diffoddir.
49Yna y dywedais, ô Arglwydd Dduw, y maent hwy yn dywedyd am danaf: onid dammegion y mae hwn yn eu hadrodd?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.