1Ai cyfiawnder yn ddiau a draethwch chwi ô gynnulleidfa? a fernwch chwi iniondeb ô feibion dynnion?
2Anwiredd yn hytrach a weithredwch yn eich calon: trawster y mae eich dwylo yn ei drino ar y ddaiar.
3O’r groth yr ymddieithrodd y rhai annuwiol, o’r brû y cyfeiliornasant gan ddywedyd celwydd.
4Gwenwyn ganddynt fel gwenwyn sarph: megis neidr fyddar a gae ei chlustiau.
5Yr hon ni wrendu ar lais y rhin-wŷr, cyfarwydd swyn-wr swynion.
6Dryllia ô Dduw eu dannedd yn eu geneuau: dinistria ô Arglwydd gil-ddannedd y llewod
7Todder hwynt fel dwfr, a diflannant, fel pe torrid hwynt.
8Aed ymmaith fel malwoden dawdd, erthyl gwraig: na wêlont yr haul.
9Cythryblied ef megis llid, fel amrwd cynn i’ch crochanau glywed gwrês y mieri.
10Y cyfiawn a lawenycha pan wêlo ddial: a ylch ei draed yng-waed yr annuwiol.
11Yna y dywed dŷn, diau ffrwyth i’r cyfiawn: diau fod Duw a farna ar y ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
