Hebræaid 4 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IIII.Bod y gair heb ffydd yn anfuddiol. 3 Sabboth neu orphywysfa y Christianogion, 6 Dialedd y rhai ni chredant. 12 Anian gair Duw.

1Ofnwn gan hynny, rhag vn amser trwy wrthod yr addewid i fyned i mewn iw orphywysfa ef, weled neb o honoch chwi yn gyffelyb iw siommi.

2Canys i ni y pregethwyd yr Efengyl fel iddynt hwythau, eithr ni thycciodd iddynt hwy y gair a glywyd, am nad oed wedi ei gyd-wascu â ffydd yn y rhai a’i clywsant.

3Canys yr ydym ni y rhai a gredâsom yn myned i mewn i’r orphywysfa, megis y dywedodd efe, fel Psal.95.11.y tyngais yn fy llid, na ddeuēt hwy i mewn i’m gorphwyssa: cyd bai’r gwaith wedi ei berffeithio o amser gosodiad sail y byd.

4Canys am y seithfed dydd mewn man y dywedodd efe fel hyn: a Genes.2.2.|GEN 2:2. Deut.5.14.gorphywysawdd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith.

5Ac ymma trachefn, na ddeuent hwy i mewn i’m gorphwysfa.

6Gan fod hyn wedi ei adel yn ôl, fod rhai yn cael myned i mewn, a bod y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt heb fyned o herwydd anghredyniaeth:

7Trachefn y mae efe yn pennu diwrnod gan ddywedyd trwy Ddafydd, heddyw, ar ôl cymaint o amser, megis y dywedwyd, Pen.3.7.heddyw o gwrandewch ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.

8Canys pe Iosua a’i dugase hwynt i orphywysfa, ni sonniase efe am ddydd arall ar ôl hynny.

9Ac am hynny y mae rhyw orphywysfa wedi ei gadael yn ôl i bobl Dduw.

10Canys yr hwn a aeth i mewn iw orphywysfa, gorphwysodd hwnnw oddi wrth ei waith megis Duw oddi wrth yr eiddo yntef.

11Ymroddiwn gan hynny i fyned i mewn i’r vn rhyw orphywysfa rhag syrthio o neb yn ôl yr vn siampl o anufudd-dod.

12Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol ei waith, a llymmach nag vn cleddyf daufinioc, ac yn cyrhaeddyd hyd wahaniad yr enaid a’r yspryd, a’r cymmalau, a’r mêr, ac yn barnu meddyliau a bwriadau y galon.

13Ac nid oes vn creadur anamlwg yn ei olwg ef, eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored iw lygaid ef, am yr hwn yr ydym ni yn sôn.

14Am fod gan hynny i ni Arch-offeiriad mawr yr hwn a aeth i’r nefoedd, sef Iesu Mab Duw, daliwn ar ein proffes.

15Canys nid oes i ni Arch-offeiriad, yr hwn nis dichon dosturio wrth ein gwendid ni, namyn a demptiwyd ym mhob peth yr vn modd, heb pechod.

16Am hynny awn yn hydêrus at orseddfaingc y grâs fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom râs yn gymorth cyf-amserol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help