1Ai dechreu yr ydym ein canmol ein hunain trachefn? ai rhaid i ni fel i eraill wrth lythyrau canmoliaeth attoch chwi, neu canmoliaeth oddi wrthych chwi?
2Ein llythr ni ydych chwi yn scrifennedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeallir, ac a ddarllenir gan bôb dŷn:
3Gan fod yn eglur eich bôd chwi yn llythr Crist, yr hwn a roddwyd allan trwy ein gweinidogaeth ni, ac a scrifennwyd, nid ag ingc, ond ag Yspryd Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr mewn cnawdol lechau y galon.
4 A chyfryw obaith sydd gennym trwy Grist ar Dduw.
5Nid o herwydd ein bôd yn ddigonol o honom ein hunain i feddylio dim megis o honom ein hunain eithr ein digonedd ni sydd o Dduw.
6Yr hwn hefyd a’n gwnaeth ni yn weinidogion y Testament newydd, nid i’r llythyren, ond i’r Yspryd: canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr Yspryd sydd yn bywhau.
7Ac os oedd gweinidogaeth angeu yr hon a argraphwyd â llythyrennau ar lechau yn ogoneddus, fel na alle plant yr Israel edrych yn ŵyneb Moses gan ogoniant ei wyneb-pryd, yr hwn a ddileuwyd,
8Pa fodd nad mwy y bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant?
9Canys os bu gweinidogaeth colledigaeth yn ogoneddus, mwy o lawer y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder mewn gogoniant.
10Canys yr hyn a ogoneddwyd, ni ogoneddwyd yn y rhan hon, hyd y perthyn i’r gogoniant ardderchog.
11O blegit os yr hyn a ddeleuid ymmaith oed yn ogoneddus, mwy o lawer yr hyn a erys yn ogoneddus.
12Felly gan fod gēnym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder.
13Ac nid ydym ni fel Moses, yr hwn a rodde orchudd ar ei wyneb, rhag i blant Israel edrych ar ddiwedd yr hyn a ddeleuid.
14Am hynny y caledwyd eu meddwl hwy: canys hyd y dydd heddyw y mae y gorchudd hwnnw yn aros heb ei ddadguddio wrth ddarllen yr hên Destament, yr hwn yng-Hrist a ddynnir ymmaith.
15Eithr hyd y dydd heddyw pan ddarllenir Moses, y rhoddir y gorchudd ar eu calonnau hwynt.
16Er hynny pan ymchweler at yr Arglwydd, y tynnir y gorchudd.
17Yr awron yr Arglwydd yw’r Yspryd, a lle mae Yspryd yr Arglwydd, yno y mae rhydd-did.
18Eithr edrych yr ydym ni oll, megis medwn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ag wyneb agored, ac i’n newidir i’r vnrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Yspryd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
