1Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd:
2Dymma ddeddf y gyfraith yr hon a orchymynnodd yr Arglwydd gan ddywedyd: llefara wrth feibion Israel am ddwyn ohonynt attat anner gôch berffaith-gwbl yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.
3A rhoddwch hi at Eleazar yr offeiriad, a phared efe ei dwyn hi o’r Heb.13.11.tu allan i’r gwerssyll, a lladded hi ger ei fron ef.
4A chymmered Eleazar yr offeiriad oi gwaed hi Heb.9.13.ar ei fŷs, a thaenelled oi gwaed hi, ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.
5A llosced yr anner yn ei olwg ef, ei chroen Exod.29.14|EXO 29:14. leuit.4.11.ai chîg, ai gwaed yng-hyd ai biswel a lysc efe.
6A chymmered yr offeiriad bren Cedr, ac Yssop, ac scarlat, a bwried i ganol lloscfa yr anner.
7A golched yr offeiriad ei wiscoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwerssyll, ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.
8Felly golched yr hwn ai llosco hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac aflan fydd hyd yr hwyr.
9A chascled vn glân ludw’r anner, a gadawed o’r tu allan i’r gwerssyll mewn lle glân: a bydded gan gynnulleidfa meibion Israel yng-hadw yn Num.8.7. num.5.17.ddwfr nailltuaeth: pech-aberth yw.
10Yna golched yr hwn a gasclo ludw yr anner ei ddillad, aflan fydd hyd yr hwyr, a bydded hyn i feibion Israel ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysc hwynt yn ddeddf dragywyddol.
11A gyffyrddo a marw wrth vn gelain dŷn, aflan fydd saith niwrnod.
12Ymlanhaed trwy hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y saithfed dydd.
13Pôb vn a gyffyrddo ag vn marw wrth gelain dyn yr hwn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhâ, efe fydd vn yn halogi tabernacl yr Arglwydd: a thorrir ymmaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel, am na thaenellodd ddwfr nailltuaeth arno, aflan fydd efe, ei aflendid ynddo etto.
14Dymma gyfraith dyn pan fyddo marw mewn pabell, pôb vn a ddelo i’r babell, a phôb vn a yn y babell fydd aflan saith niwrnod.
15A phôb llestr agored yr hwn ni byddo cadach wedi ei rwymo drosto aflan efe.
16Pôb vn hefyd a gyffyrddo ar wyneb y maes wrth vn wedi ei ladd a chleddyf, neu wrth vn marw, neu wrth ascwrn dŷn, neu wrth fedd, a fydd yn aflan saith niwrnod.
17Am hynny cymmerant tros yr aflan o ludw llosc yr offrwm tros bechod, a rhodded atto ddwfr rhedegoc mewn llestr.
18A chymmered Yssop a golched vn dihalogedic mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion y rhai a fyddant yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd wrth ascwrn, neu wrth vn wedi eiladd, neu wrth vn wedi marw, neu wrth fedd.
19A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd, ac ymlanhaed efe y seithfed dydd, yna golched ei ddillad, ac ymolched mewn dwfr a glân fydd yn yr hwyr.
20Ond y gŵr yr hwn a halogir, ac nid ymlanhâ, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc y gynnulleidfa: canys efe a halogodd gyssegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y nailltuaeth, aflan efe.
21A bydd iddynt yn ddeddf dragywyddol, y golch yr hwn a daenello dwfr y nailltuaeth ei ddillad: ac y bydd yr hwn a gyffyrddo a dwfr y nailltuaeth aflan hyd yr hwyr.
22A’r hyn oll a gyffyrddo’r aflan ag ef fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo fydd aflan hyd yr hwyr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.