1Yn ei ddyddiau ef y daeth Nabuchodonosor brenin Babilon i fynu: 2.Cron.36.6.ac Ioachim fu yn wâs iddo ef dair blynedd, yna efe a ddychwelodd, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef.
2A’r Arglwydd a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid, a thorfoedd o’r Syriaid, a thorfoedd o’r Moabiaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac ai hanfonodd hwynt yn erbyn Iuda iw dinistrio hi: 2.Bren.20.17. & 23.27.yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarase efe drwy law ei weision y prophwydi.
3Yn vnic, drwy orchymyn yr Arglwydd y bu yn erbyn Iuda iw bwrw ymmaith oi ŵydd ef: o achos pechodau Manasses, yn ôl yr hyn oll a wnaethe efe.
4Canys efe hefyd a dynnodd waed gwirion fel y llawnodd efe Ierusalem o waed gwirion am hynny ni fynne’r Arglwydd fadde
5A’r rhan arall o hanes Ioachim, a’r hyn oll a’r a wnaeth efe: onid ydynt hwy yn scrifennedic yn llyfr Cronicl brenhinoedd Iuda?
6Ac Ioachim Ier.22.19.a hunodd gyd ai dadau: Ioachim ei fab ef a deyrnasodd yn ei lê ef.
7Ac ni chwanegodd brenin yr Aipht fyned mwyach oi wlad: canys brenin Babilon a ddugase yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aipht o afon yr Aipht hyd afon Euphrates.
8Mab deu naw-mlwydd Ioachim pan aeth efe yn frenin, 2.Cron.36.9.a thri mis y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Nehusta merch Elnathan o Ierusalem.
9Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a wnaethe ei dâd ef.
10 Dan.1.2. Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nabuchodonosor brenin Babilon i fynu yn erbyn Ierusalem: a gwarchauwyd ar y ddinas.
11A Nabuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas: ai weision ef a warchauasant arni hi.
12Yna Ioachim brenin Iuda a aeth allan at frenin Babilon, efe, ai fam, ai weision, ai dywysogion, ai stafellyddion: a brenin Babilon, ai daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn oi deyrnasiad ef.
13Ac 2.Bren.20.17. Esa.39.6.efe a ddûg oddi yno holl dryssorau ty’r Arglwydd, a thryssorau tŷ y brenin: ac a dorrodd yr holl lestri aur y rhai a wnelse Salomon brenin Israel yn nheml yr Arglwydd, fel y llefarase’r Arglwydd.
14Ac efe a drosgludodd holl Ierusalem, yr holl dywysogion hefyd, a’r holl gedyrn nerthol deng-mil o gaethion, a phob saer prenn, a gôf: ni adawyd ond pobl dlodion y wlad
15Efe 2.Cron.36.10. Esther.2.6.hefyd a drosgludodd Ioachim i Babilon: a mam y brenin, a gwragedd y brenin, ai stafellyddion ef, a chedyrn y wlâd a ddûg efe mewn caethiwed o Ierusalem i Babilon.
16A’r holl wŷr nerthol, saith mil, ac o seiri, a gofaint mil, y rhai hyn oll yn rhyfel-wŷr cedyrn: a brenin Babilon ai dûg hwynt yn gaeth i Babilon.
17A Ier.39.1. & 52.4.brenin Babilon a osododd Mathania ei ewythr ef frawd ei dad yn frenin yn ei lê ef: ac a drôdd ei henu ef yn Sedecia.
18Mab vn mlwydd ar hugain Sedecia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac vn mlynedd ar ddêc y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac enw ei fam ef Hamittal merch Ieremia o Libna.
19Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd: yn ôl yr hyn oll a wnaethe Ioachim.
20Am hynny yn ddiau y bu digofaint yr Arglwydd yn erbyn Ierusalem, ac yn erbyn Iuda, nes iddo ef eu taflu hwynt oi ŵydd, ac y gwrthryfelodd Sedecia yn erbyn brenin Babilon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.