1.Esdras 9 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. IX.Pobl Israel yn priodi gwragedd o’r cenhedloedd anghredadwy. 3 Esdras yn gofidio am hynny. 6 Ac yn gweddio Duw trostynt hwy.

1Ac wedi 3.Esdr. 9.67.darfod hynny y tywysogion a ddaethant attafi gan ddywedyd: nid ymnailltuodd pobl Israel, a’r offeiriaid, a’r Lefiaid oddi wrth bobl y gwledydd, yn ôl eu ffiaidd-dra hwynt y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Phereziaid, y Iebusiaid, yr Ammoniaid, y Moabiaid, yr Aiphtiaid, a’r Amoriaid.

2Canys cymmerasant oi merched iddynt eu hun, ac iw meibion, a’r hâd sanctaidd a ymgymmyscodd a phobloedd y gwledydd, a llaw y pennaethiaid a’r tywysogion fû gyntaf yn y camwedd hyn.

3Pan glywais inne y peth hyn, rhwygais fy nillad a’m gwisc, a thynnais wallt fy mhen, a’m harf, ac eisteddais yn synn.

4Yna’r ymgasclodd attafi bob vn a’r a ofnodd eiriau Duw Israel, am gamwedd y gaethglud, ac myfi a eisteddais yn synn hyd y bwyd Exod.29.39. Num.28.3.offrwm prynhawnol.

5Ac ar y bwyd offrwm prynhawnol y cyfodais ô’m cystudd, gan rwygo o honofi fy nillad, a’m gwisc, gostyngais hefyd ar fyng-liniau, a lledais fy nwylo at yr Arglwydd fy Nuw:

6A dywedais, gwradwydd, a chywilyddus 195 oedd gennif godi fy wyneb attat ti fy Nuw, o herwydd ein hanwireddau ni a aethant yn anil tros ben: a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.

7Er dyddiau ein tadau ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn, ac yn ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid i law brenhinoedd y gwledydd, i gleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb megis heddyw,

8Ac yn awr megis ennyd fechan y mae trugaredd oddi wrth yr Arglwydd ein Duw i beri gadel i ni ddiangc, ac i roddi i ni hoel yn ei lê sanctaidd ef: gan Iewyrchu o’n Duw ni ein llygaid, a rhoddi i ni ychydig orphywysdra yn ein caethiwed.

9Canys caethion ni, ond ni adawodd ein Duw ni yn ein caethiwed: eithr parodd i ni drugaredd o flaen brenhinoedd Persia, i roddi i ni orphywysdra i dderchafu tŷ ein Duw ni, ac i gyfodi y lleoedd ang-hyfannedd, ac i roddi i ni gae yn Iuda, ac Ierusalem.

10Ac yn awr beth a ddywedwn wedi hyn, ô ein Duw? canys gadawsom dy orchymynnion di,

11Y rhai a orchymynnaist drwy law dy weision y prophwydi gan ddywedyd: y Exod.23.33. & 34.12,15. Deut.7.23.wlâd yr hon yr ydych yn myned iw gorescyn, gwlâd halogedic hi, trwy halogedigaeth pobl y gwledydd, o blegit eu ffiaidd-dra hwynt y rhai ai llawnasant hi ai haflendid o gwrr bwy gylydd.

12Ac yn awr na roddwch eich merched iw meibion hwynt, ac na chymmerwch eu merched hwynt i’ch meibion chwi, na cheisiwch ychwaith heddwch, na daioni ganddynt byth: fel y cryfhaoch, Deut.8.13.ac y mwynhaoch ddaioni y wlâd, ac y rhoddoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion byth.

13Ac wedi yr hyn oll a ddaeth arnom am ein drwg weithredoedd, a’n mawr gamwedd am i ti ein Duw ein hattal oddi tann ein hanwiredd a rhoddi i ni ddiangc fel hyn,

14A ddychwelwn i dorri dy orchymynnion di, ac i ymgyfathrachu a’r ffiaid bobl hyn? oni ddigit ti i’n herb yn, nesdifetha, fel na gweddill, na diangol?

15Arglwydd Dduw Israel cyfiawn ti, eithr gweddill diangol ydym ni megis heddyw: wele ni o’th flaen di yn ein camweddau, eithr ni allwn ni sefyll o’th flaē di am hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help