1A’m fi’n iachau Israel, datcuddiwyd anwiredd Ephraim, a drygioni Samaria: canys gwnant ffalsder: y lleidr a ddaw i mewn, a’r yspeiludd a anrheithia oddi allan.
2Nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau, fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithiau eu gweithredoedd eu hun ai hamgylchynâsant, y maent ger fy mron.
3Llawenhânt y brenin ai drygioni, a’r tywysogion ai celwyddau.
4Pawb o honynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei phoethi o’r pobydd: beidio a chodi a thylino y toes hyd oni suro efe.
5Diwrnod ein brenin hwn, y tywysogion ai clwyfasant ef a’r gostrel wîn: estynnodd ei law i watwar-wŷr.
6Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn, y pobydd a gyscodd ar hyd y nôs, boreu y lloscodd fel fflamm dân.
7Pawb o honynt wresogant fel y ffwrn, ac a yssant eu barn-wŷr: eu holl frenhinoedd a gwympâsant, heb o honynt yn galw arnafi.
8Ephraim a ymgymmyscodd a’r bobloedd, Ephraim sydd teisen heb ei throi.
9Estroniaid a fwyttasant ei olud ef, ac ni’s gŵyr efe: gwascarodd pen-wynni ar hyd-ddo ef ac nis gŵybu efe.
10Mae balchder Israel yn testiolaethu yn ei wyneb: er hynn oll ni throant ac yr Arglwydd eu Duw, ac ni’s ceisiant ef.
11Ephraim fel colommen ynfyd heb galon, y galwant ar yr Aipht yr ânt i Assyria.
12Pan elont, tanaf fy rhwyd drostynt, a thynnaf hwynt i lawr fel ehediad y nefoedd: cospaf hwynt, fel y clybu eu cynnulleidfa hwynt.
13Gwae hwynt, canys ffoasant oddi wrthif, dinistr arnynt, o herwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn: myfi ai gwaredais hwynt, a hwythau a ddywedasant gelwydd arnaf.
14Ni alwasant arnaf âi calon, pan vdâsant ar eu gwelau: am ŷd, a melys-wîn yr ymgasclasant, ciliasant oddi wrthif.
15Mi a rwymais, a nerthais eu breichiau hwynt: etto meddyliâsant ddrwg i mi.
16Dychwelâsant nid at y Goruchaf, ydynt fel bŵa twyllodrus, eu tywysogion a syrthiasant ar y cleddyf am Psal.73.9.ddirmyg eu tafod: dymma eu gwatwargerdd hwynt yng-wlad yr Aipht.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
