1Yr hwn sydd yn gwneuthur trugaredd sydd yn rhoddi echwyn iw gymmodog, a’r hwn sydd yn ei gadarhau ef ai law, sydd yn cadw y gorchymynnion.
2 Deut.15.7.|DEU 15:7. math.5.42.|MAT 5:42 luc.6.35. Dod echwyn i’th gymmydog yr amser y byddo rhaid iddo ef, a thâl trachefn i’th gymmydog yn yr amser.
3Cadw dy air yn siccr, a gwna yn ffyddlon ag ef, a thi a gei wrth dy raid bôb amser.
4Llawer a gyfrifasant echwyn fel peth wedi ei gael, ac a barasant flinder i’r rhai ai helpiasant hwy.
5Y mae efe yn cussanu ei ddwylo ef hyd oni dderbynio efe: ac efe a ostwng ei leferydd am arian ei gymmydog.
6Ac yn amser talu efe a oeda yr amser, ac a rydd atteb hwyr-frydig, ac a wna escus o’r amser.
7Ac os dichon efe roddi, prin y dwg efe yr hanner: ac efe a gyfrif hynny fel peth wedi ei gael.
8Os amgen iddo ef ei ddifuddio ef am ei arian, ai gael ef yn elyn heb achos:
9Efe a dâl iddo ef felldithion a difenwad: efe a dâliddo ef ammarch yn lle anrhydedd.
10Llawer a droesant ddŷn ymmaith rhag drwg, ac a ofnasant ei difuddio.
11Er hynny bydd ddioddefgar wrth drueni, ac nac oeda dy elusen iddo ef.
12Cynnorthwya y tlawd er mwyn y gorchymyn, ac na thro ef ymmaith yn ei angen.
13Coll dy arian er mwyn cyfaill neu frawd, ac na chuddia hwynt tann garreg iw colli.
14Gosot Dan 4.24.|DAN 4:24. math.6.20.|MAT 6:20. luc.11.41.|LUK 11:41 & 12.33.|LUK 12:33. act.10.4.|ACT 10:4. 1.tim.6.18,19.dy dryssor lle y mae y Goruchaf yn gorchymyn, ac efe a fydd mwy buddiol i ti nag aur.
15Cae Tob.4.8,9,10,11.dy eluseu yn dy gelloedd, ac hi a’th wared ti o bôb niwed.
16Hi a ymladd trosot ti yn well na tharian cryf, ac na gwaiw-ffon gadarn yn erbyn y gelyn.
17Gŵr da a fachnia tros ei gymmydog, a’r hwn a gollodd gywilydd-dra ai gâd ef.
18Na angofia garedigrwydd meichie, o blegit efe ai rhoddes ei hun trosot ti,
19Pechadur a anrheithia ferchie da.
20Pechadur wedi machino a ffŷ, a’r difuddiol a âd yn feddwl yr hwn ai gwaredodd ef.
21Machniaeth a ddifethodd lawer vn goludog, ac ai symmudodd hwynt fel tonn o’r môr.
22Hi a wnaeth i wŷr cedyra fudo, fel y cyrwydrasant hwy ym mysc cenhedloedd dieithr.
23Y pechadur a drosseddo orchymynnion yr Arglwydd a syrth mewn machniaeth, a’r hwn a ddilyn wobr a syrth mewn cyfraith.
24Cynnorthwya dy gymmydog yn oref ac y gallech, a gwilia arnat dy hun rhag syrthio o honot.
25 Pen.36.21. Dechreu bywyd dŷn yw dwfr a bara a dillad, a thŷ yn gorchguddio gwarth.
26Gwell yw bywyd y tlawd tann dô cledr, na gwleddau danteithiol o’r eiddo rhai eraill.
27Am fawr a bychan bydd fodlon, ac ni chei di glywed gwradwydd i’th dŷ.
28Bywyd drwg o dŷ i dŷ, ac lle yr ymdeithi di, ni elli agoryd dy safn.
29Ti a letteui, ac a ddiodi rai anniolchgar, ac a gei glywed chwerwder am hynny.
30Tyret ymdeithudd gwna ’r bwrdd yn drefnus, ac od oes dim gennit dod i mi fwyd.
31Tyret allan ymdeithudd o flaen yr anrhydeddus, y mae yn rhaid i mi wrth fy nhŷ, y mae fy mrawd yn lletteua gyd â mi.
32Trwm yw hyn i’r hwn sydd ganddo synnwyr, gorafyn y tŷ, a gwradwydd y benthygiwr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.