3.Esdras 1 - William Morgan Bible 1588 original edition

PENNOD. I.Iosias yn gosod offeiriaid, ac yn cynnal y Pasc. 7 Iosias yn offrymmu. 11 Dosparthiadau y Lefiaid. 23 Buchedd losias, 25 ai farwolaeth. 34 Gwneuthur Ioachaz mab Iosias yn frenin. 53 Dinistr Ierusalem.

1AC 2.Bren.23.21. 2.Cron.35.1.Iosias a gadwodd y Pasc iw Arglwydd yn Ierusalem, ac a offrymmodd yr Pasc ar y pedwe­rydd dydd ar ddêc o’r mîs cyntaf,

2Ac a gyfleuodd yr offeiriaid yn eu beunyddawl orchwyliaethau, wedi eu dilladu mewn gwiscoedd lleision yn nhŷ yr Arglwydd.

3Ac efe a ddywedodd wrth y Lefiaid, sanctaidd wenidogion Israel, am iddynt hwy eu sancteiddio eu hunain i’r Arglwydd i osod Arch sanctaidd yr Arglwydd yn y tŷ ’r hwn a adailadase y brenin Salomō mab Dafydd:

4[Gan ddywedyd,] na fydded hi mwyach yn faich i chwi ac yscwydd: gwasanaethwch yn awr yr Arglwydd eich Duw a gofêlwch am ei bobl ef o Israel, ac ymbaratoiwch drwy eich teuluoedd, 1.Cron.23.2. & 25.26.yn ôl eich dosparthiadau, fel yr scrifennodd Dafydd brenin Israel, ac yn ôl mawredd Salomon ei fab ef.

5A sefwch yn y Deml yn ôl dosparthiad teulu eich tâdau chwi y Leflaid, ger bron eich brodyr chwi meibion Israel.

6Mewn trefn offrymmwch y Pasc, a pharatoiwch yr aberthau i’ch brodyr: a chedwch y Pasc yn ôl gorchymyn yr Arglwydd drwy Moses.

7Ac Iosias a roddodd i’r bobl y rhai oeddynt yn bresennol ddeng-mîl ar hugain o ŵyn a mynudd, a thair mil o eidionnau: hyn o gyfoeth y brenin a roddwyd i’r bobl, ac i’r offeiriaid, ac i’r Lefiaid yn ôl yr addewid.

8Yna Helcias, a Zacharias, a Sŷclus llywodraeth-wŷr y Deml a roddasant i’r offeiriaid tu ag at y Pasc ddwy fil, o ddefaid, a thry chant o eidionnau.

9Iechonias hefyd, a Samaias, a Nathanael ei frawd, a Sabaias, ac Ochiel, ac Ioram milwriaid a roddasant i’r Lefiaid yng-hyfer y Pasc bum mîl o ddefaid, a seith-cant o eidionnau.

10Pan orphennwyd hyn yn drefnus, yr offeiriaid a’r Lefiaid a safasant drwy yr llwythau a chanddynt fara croiw,

11Yn ôl dosparthiadau teuluoedd eu tadau hwynt, yng-ŵydd y bobl i offrymmu i’r Arglwydd, fel y mae yn scryfennedic yn llyfr Moses: ac felly y borau.

12A hwynt a rostiasant yr Pasc wrth dân Exod.12.8.yn ôl y ddefod, a’r offrymmau a ferwasant gyd â phêr aroglau mewn pedill, a chrochanau: ac ai rhoddasant ger bron yr holl bobl.

13Wedi hynny y paratoasant hwy iddynt eu hunain, ac iw brodyr yr offeiriaid meibion Aaron.

14Canys yr offeiriaid a offrymment y brasder hyd yr hwyr: a’r Lefiaid a baratoent iddynt eu hunain, ac iw brodyr yr offeiriaid meibion Aaron.

15A’r cantorion sanctaidd meibion Asaph oeddynt yn eu cyflê yn ôl gorchymyn Dafydd, sef Asaph, Zacharias ac Edinus gweledydd y brenin.

16A’r porthorion oeddynt ym mhob porth, ni chaent hwy ymado oi gwasanaeth, canys eu brodyr y Lefiaid a baratoent iddynt hwy.

17Felly y gorphennwyd holl wasanaeth yr Arglwydd y dwthwn hwnnw:

18Gan gynnal y Pasc, ac offrymmu poeth offrymmau ar allor yr Arglwydd, yn ôl gorchymyn y brenin Iosias.

19Felly meibion Israel y rhai oeddynt bresennol a gynhaliasant y Pasc yr amser hwnnw: a gŵyl y bara croiw dros saith niwrnod.

20Ac ni chynhaliasid Basc fel hwnnw yn Israel er amser Samuel y prophwyd.

21Ac ni chynhaliodd neb o frenhinoedd Israel y cyffelyb Basc a’r a gynhaliodd Iosias, a’r Lefiaid, a’r Iddewon, a holl Israel, a’r rhai oeddynt bresennol o drigolion Ierusalem.

22Yn y ddeunawfed flwyddyn o deyrnasiad Iosias y cynhaliwyd y Pasc hwnnw.

23A gweithredoedd Iosias oeddynt ini­awn ger bron ei Arglwydd â chalon gyflawn o dduwioldeb.

24Ac am y pethau y rhai a ddigwyddasant yn ei amser ef, y maent hwy yn scrifennedic o’r blaen, o rann y rhai a bechasant ac a fuant ānuwiol yn erbyn yr Arglwydd rhagor pôb cenhed­laeth a theyrnas, gan ei dristâu ef synwŷr, fel y cyfododd geiriau yr Arglwydd yn erbyn Israel.

25Wedi darfod i Iosias y pethau hyn, y digwyddodd i 2.Cron.35.20.Pharao brenin yr Aipht ddyfod i ryfêla yn erbyn Carchamis ar Euphrates: ac Iosias a aeth iw gyfarfod ef.

26Ond brenin yr Aipht a anfonodd atto ef, gan ddywedyd: beth sydd i mi a wnelwyf â thi ô frenin Iuda:

27Nid yn dy erbyn di i’m gyrrodd yr Arglwydd Dduw, ond fy rhyfel i sydd ar Euphra­tes, ac yn awr yr Arglwydd sydd gyd â mi, a’r Arglwydd sydd yn peri i mi fryssio: ymado â mi, ac na wrthwyneba yr Arglwydd.

28Ond ni throe Iosias ei gerbyd oddi wr­tho ef, eithr efe a ymdaclodd i ymladd ag ef, heb ystyried geiriau Ieremi y prophwyd o enau yr Arglwydd.

29Ac efe a fyddinodd yn ei erbyn yn nyffryn Megido, a’r tywysogion a ddaethant i wared at frenin Iosias.

30A’r brenin a ddywedodd wrth ei weision, dygwch fi allan o’r gâd, canys yr ydwyf yn ddeffygiol iawn: ac yn ebrwydd ei weision ai dugasant ef allan o’r gâd:

31Yna efe a escynnodd iw ail cerbyd, ac wedi iddo ddychwel i Ierusalem efe a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau.

32A thrwy holl Iuda y galarwyd am Iosias, ac Ieremi y prophwyd a alar-nadodd am Iosias, a’r llywodraeth-wŷr ai gwragedd a wnaethant gwynfan mawr am Iosias hyd y dydd heddyw: ac fe aeth hynny yn ddefod yn oestad ym mhlith holl genedl Israêl.

33Ond y mae y pethau hyn yn scrifennedic yn llyfr hystoriâu brenhinoedd Iuda: a phob gweithred a’r a wnaeth Iosias, ai ogoniant ai ŵybodaeth yng-hyfraith yr Arglwydd, a’r pethau a wnaethe efe o’r blaen, a’r pethau y pryd hyn sy scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Israel, ac Iuda.

34Yna y rhai oeddynt o genedl a gymmerasant 2.Bren.23.31. 2.Cron.36.1.Ioachas fab Iosias, ac ai vrddasant ef yn frenin yn llê Iosias ei dâd, pan oedd efe dair blwydd ar hugain o oed.

35Ac efe a deyrnasodd yn Iuda, ac yn Ierusalem drî mîs: canys brenin yr Aipht ai tynnodd ef ymmaith o deyrnasu yn Ierusalem.

36Ac efe a drethodd ar y bobl gant talent o arian, ac vn talent o aur.

37A brenin yr Aipht a wnaeth Ioacim ei frawd ef yn frenin Iuda, ac Ierusalem.

38Ac efe a rwymodd Ioachaz ai lywodraeth-wŷr: ac efe a ddaliodd Zaraces ei frawd, ac ai dug ef ymmaith i’r Aipht.

39Ioacim oedd bum mlwydd ar hugain pan ddechreuodd efe deyrnasu yn Iuda, ac Ierusalem, ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng­olwg yr Arglwydd.

40Am hynny Nabuchodonosor brenin Babilon a ddaeth i fynu yn ei erbyn ef, ac efe ai rhwymodd ef â chadwyn brês, ac ai dug ef ymmaith i Babilon.

41Yna Nabuchodonosor a gymmerth o lestri sanctaidd yr Arglwydd, ac ai dug hwynt ymmaith, ac ai rhoddes yn ei Deml ei hun o fewn Babilon.

42Ond ei holl weithredoedd ef, ai halogedigaeth ai gabledd ef sydd yn scrifennedic yn llyfr Cronicl y brenhinoedd.

43Ac Ioacim ei fab a deyrnasodd yn ei lê ef: a deu-naw mlwydd oed oedd efe pan vrddwyd ef yn frenin.

44A thrî mîs a deng-nhiwrnod y teyrnasodd efe yn Ierusalem: ac yntef a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd.

45Felly ym mhen y flwyddyn Nabuchodonosor a anfonodd, ac at dug ef i Babilon, gyd â llestri sanctaidd yr Arglwydd.

46Ac efe a wnaeth Zedecias yn frenin Iuda ac Ierusalem, pan oedd efe vn mlwydd ar hugain o oed: ac efe a deyrnasodd vn mlynedd ar ddêc.

47Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng-olwg yr Arglwydd, ac nid ofnodd efe y geiriau Ier.38.28.y rhai a ddywedase Ieremi y prophwyd o enau yr Arglwydd.

48Canys yn ôl iddo ef fod wedi ei dyngui Nabuchodonosor, efe a ddyngodd yn anudon i enw yr Arglwydd, ac a wrthryfelodd, ac a galedodd ei warr ai galon, ac a drosseddodd gyfreithiau Arglwydd Dduw Israel.

49A phennaethiaid y bobl, a’r offeiriaid a wnaethant lawer o anwiredd yn erbyn y cyfreithiau, ac a rogorâsant ar holl frynti yr holl genhedloedd, ac a halogasant Deml yr Arglwydd, yr hon a gyssegrasid yn Ierusalem.

50Er hynny Duw eu tadau hwynt a ddanfonodd ei gennad iw galw hwynt trachefn, am iddo ef fod yn eu harbed hwynt, ai Dabernacl ei hun.

51Ond hwyntwy a watwarent ei gennadau ef, a’r dydd yr ymddiddâne yr Arglwydd hwynt a ddynwaredēt ei brophwydi ef.

52O’r diwedd efe a ddigllonodd wrth ei bobl am eu camweddau mawrion hwynt, ac efe a barodd i frenhinoedd y Caldeaid ddyfod i fynu yn eu herbyn hwynt.

53Y rhai hyn a laddasant eu gwŷr ieuaingc a’r cleddyf o amgylch eu Teml sanctaidd, ac ni pharchasant na gŵr ieuangc, na morwyn, na hên-wr, na phlentyn yn eu plith hwynt.

54Eithr efe ai rhoddes hwynt oll yn eu dwylo hwynt, a holl lestri sanctaidd yr Arglwydd, mawrion a bychain, a llestri Arch Dduw: a hwynt a gymmerasant, ac a ddugasant ymmaith dryssorau y brenin i Babilon.

55Ac a loscasant Deml yr Arglwydd, ac a dorrasant i lawr furoedd Ierusalem, ac a loscasant eu tŷrau âthân.

56Difwynasant hefyd ei holl bethau gwerth-fawr, ac ai dinistriasant: ac efe a ddug ymmaith y rhai a weddillase y cleddyf i Babilon.

57Y rhai a fuant yn gaeth-weision iddo ef, ac iw feibion, nes teyrnasu o’r Persiaid: fel y cyflawnid Ier.25.11. & 29.10.gair yr Arglwydd drwy enau Ieremi,

58Fel y mwynhae yr wlâd ei Sabbothau yr holl amser a’r y bu hi yn ddiffaethwch, oni chyflawnwyd deng mhlynedd a thrugain.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help