Iosuah 7 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VII.Cyssegr-ledrad Achan yn peri aflwydd i bobl Israel, hyd oni chospwyd ef.

1Ond meibion Israel a wnaethant yn anghywir am y diofryd-beth: canys Iosua.22.20. 1.Cron.2.7.Achan mab Charmi fab Zabdi, fab Zerach o lwyth Iuda a gymmerodd o’r diofryd-beth: am hynny yr enynnodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel.

2Ac Iosuah a anfonodd wŷr o Iericho i Ai yr hon wrth Bethafen, o du’r dwyrain i Bethel, ac a lefarodd wrthynt gan ddywedyd, ewch i fynu a deliwch sulw ar y wlâd: a’r gwyr a aethant i fynn ac a edrychasant ansawdd Ai.

3A hwynt a ddychwelasant at Iosuah, ar a ddywedasant wrtho ef, nac eled yr holl bobl i fynu, yng-hylch dwy fil o wŷr, neu dair mil o wŷr a ânt i fynu a tharawant Ai: na phoenwch y bobl yno canys ychydig hwy.

4Felly fe a aeth o’r bobl i fynu yno ynghylch tair mil o wŷr: a hwynt a ffoasant o flaen gwyr Ai.

5A gwŷr Ai a darawsant yng-hylch vngwr ar bymthec ar hugain o honynt, ac ai hymlidiasant o flaen y porth hyd Sebarim, a tharawsant hwynt yn y goriwared: am hynny y toddodd calonnau y bobl, ac yr aethant fel dwfr.

6Yna Iosuah a rwygodd ei wiscoedd, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen Arch yr Arglwydd hyd yr hwyr efe ac henuriaid Israel, ac a osodasant lŵch ar eu pennau.

7A dywedodd Iosuah, ah ah ô Arglwydd Iôr i ba beth gan drosgludo y trosgludaist y bobl ymma tros yr Iorddonen hon i’n rhoddi ni yn llaw’r Amoriaid i’n difetha? ô na buasem fodlon, ac thrigasem tu hwnt i’r Iorddonen.

8[Ystyria] wrthif ô Arglwydd, beth a ddywedaf pan drŷ Israel warr o flaen ei elynnion?

9Canys y Canaaneaid a holl drigolion y wlâd a glywant, ac a’n hamgylchant, ac a dorrant ymmaith ein henw o’r tir: beth gan hynny a wnei i’th enw mawr?

10A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Iosuah cyfot ti: pa ham yr ydwyt yn gorwedd fel hyn ar dy wyneb?

11Israel a bechodd, a throseddasant fyng-hyfammod yr hwn a orchymynnais iddynt: cymmerasant hefyd o’r diofryd-beth, ie lledrattasant, a gwadasant, gosodasant hefyd ym mysc eu dodrefn eu hun.

12Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynnion, troant eu gwarr o flaen eu gelynnion canys y maent yn escymmyn-beth: ni byddaf mwyach gyd a chwi oni ddifethwch yr escymmyn-beth o’ch mysc.

13Cyfot sancteiddia y bobl, a dywet, ymsancteiddiwch erbyn y borau: canys fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, diofrydbeth yn dy blith di ô Israel, ni elli sefyll yn wyneb dy elynnion nes tynnu ymmaith y diofryd-beth o’ch mysc.

14Am hynny nessewch y borau bob yn llwyth, a’r llwyth yr hwn a ddalio’r Arglwydd nessaed bob yn deulu, a’r teulu’r hwn a ddalio’r Arglwydd nessaed bob yn dŷ, a’r tŷ’r hwn a ddalio’r Arglwydd nessaed bob yn ŵr.

15A’r hwn a ddelir a’r diofryd-beth a loscir mewn tân, efe a’r hyn oll ganddo: o herwydd iddo ef droseddû cyfammod yr Arglwydd, ac o herwydd iddo ef wneuthur ynfydrwydd yn Israel.

16Felly Iosuah a gyfododd yn forau, ac a ddynessodd Israel bob yn llwyth: a llwyth Iuda a ddaliwyd.

17Ac efe a ddynesodd deulu Iuda, a daliwyd teulu y Zarehiaid: ac efe a ddynesodd deulu y Zarehiaid bob yn ŵr, a daliwyd Zabdi.

18Ac efe a ddynesodd ei dyed ef bob yn ŵr: a daliwyd Achan mab Charmi fab Zabdi, fab Zerach o lwyth Iuda.

19Yna Iosuah a ddywedodd wrth Achā, fy mab attolwg dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel, a chyffessa di iddo: a mynega attolwg i mi beth a wnaethost, na chela oddi wrthif.

20Ac Achan a attebodd Iosuah, ac a ddywedodd: yn wîr myfi a bechais yn erbyn Arglwydd Dduw Israel, canys fel hyn, ac fel hyn y gwneuthum.

21Pan welais ym mysc yr yspail ryw fantell fabilonic dêg, a dau cant sicl o arian, ac vn llafn aur o ddec sicl a deugain ei bwys, yna y chwenychais hwynt, ac y cymmerais hwynt, ac wele hwynt yn guddiedic yn y ddaiar ynghanol fy mhabell a’r arian tanynt.

22Yna Iosuah a anfonodd gennadau, a hwynt a redasant i’r babell, ac wele hwynt yn guddiedic yn ei babell ef, a’r arian tanynt.

23Am hynny hwynt ai cymmerasant o ganol y babell, ac ai dugasant at Iosuah, ac at holl feibion Israel: a gosodasant hwy o flaen yr Arglwydd.

24Yna Iosuah a gymmerth Achan fab Zerach, a’r arian, a’r fantell, ar llafn aur, ei feibion hefyd, ai ferched, ai warthec, ai assynnod, ei ddefaid hefyd ai abell, a’r hyn oll a fedde efe: a holl Israel gyd ag ef ai dugasant hwynt i ddyffryn Achor.

25Ac Iosuah a ddywedodd, am i ti ein blino ni, yr Arglwydd a’th flina dithe y dydd hwn: yna holl Israel ai llabyddaisant ef a meini, ac ai lloscasant hwythau a thân wedi eu llabyddio a meini.

26A bwriasant arno ef garnedd fawr o gerric hyd y dydd hwn, felly y dychwelodd yr Arglwydd oddi wrth lîd ei ddigllonedd ef: am hynny y gelwir henw y fann honno dyffryn Achor hyd y dydd hwn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help