1Ymgesclwch, a deuwch yng-hyd genhedlaeth anhawddgar.
2Cyn iddo ddwyn ei amcan i ben, i’r dydd fyned heibio fel peisswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch sorriant yr Arglwydd,
3Ceisiwch yr Arglwydd holl waredigion y ddaiar, y rhai sydd yn gwneuthur ei farn ef ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch warder, fe alle y cuddiir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd.
4Canys bydd Azza wrthodadwy, ac Ascalon yn anghyfannedd, teflir allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Accaron.
5Gwae bresswylwŷr glann y môr, cenhedlaeth y Cerethiaid: gair yr Arglwydd i’ch erbyn: ô Canaan gwlâd y Philiaid mi a’th ddifethaf, fel na byddo cyfaneddwr
6A bydd glann y môr yn fythod tywyrch y bugeiliaid, ac yn gorlannau y defaid,
7A bydd yn rhan i weddill tŷ Iuda, ymborthant arnynt, yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr Arglwydd eu Duw a ymwel â hwynt, ac a ddychwel eu cacthiwed.
8Clywais wradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon a’r hwn y gwradwyddasant fy mhobl, ac a ymfawrygasant ar eu terfynau hwynt.
9Am hynny byw ydwyf medd Arglwydd y lluoedd Duw Israel, fel Sodoma y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra, diffaethle y ddanhadlen, a phylleu halen, ac anghyfaneddle tragywyddol: gweddill fy mhobl ai difroda, a gweddill fyng-henhedlaeth ai meddianna hwynt.
10Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt wneuthur dirmig, ac ymfawrygu ar bobl Arglwydd y lluoedd.
11Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt, canys efe a ddifetha holl dduwiau y ddaiar, a holl ynysoedd y cenhedloedd ai addolant ef bôb vn oi fann.
12Chwithau hefyd yr Ethiopiaid a leddir a’m cleddyf mau fi hwynt.
13Ac efe a estyn ei law ar y gogledd, ac a ddifetha Assur, ac a rydd Ninife yn anghyfannedd yn sych fel y diffaethwch.
14Minteioedd, a holl anifeiliaid y cenhedloedd a orweddant yn ei chanol hi, Esa.34.11. y pelican a’r ddylluan hefyd a letteuant ar gap y drŵs, llais a gân yn y ffenestr, anrhaith yn yr orsing, canys dinoethwyd y cedr-wŷdd.
15Hon yw’r ddinas hoiwfryd y sydd yn trigo mewn diofalwch, yn dywedyd yn ei chalon, myfi ac nid onid myfi, pa fodd yr aeth yn angyfannedd orweddfa anifeiliaid? pawb a’r a el heibio iddi a ffeia, ac a escwyd ei law arni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
