1Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mîs hwn meibion Israel a ymgynnullasant 3.Esd.9.4.mewn ympryd, ac mewn sach-liain, a phridd arnaddynt.
2A phlant Israel a ymnailltuasant oddi wrth bob dieithriaid, safasant hefyd, a chyffessasant eu pechodau, ac anwireddau eu tadau.
3A chodasant yn eu sefyll, a’r a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw bedair gwaith yn y dydd: a phedair gwaith yr ymgyffessasant, ac yr ymgrymmasant i’r Arglwydd eu Duw.
4Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid Iesua, a Bani, Cadmiel, Sebaniah, Buni, Serebiah, Bani, Chenani: a gwaeddasant a llef vchel ar yr Arglwydd eu Duw.
5A’r Lefiaid a ddywedasant ([sef] Iesua a Chadmiel, Bani, Hasabneiah, Serebiah, Hodiah, Sebaniah, Pethahia) cyfodwch, bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragywyddoldeb hyd dragywyddolbed: a bendithiant dy enw gogoneddus a derchafedic goruwch bob bendith a moliant.
6Ti yn vnic wyt Arglwydd, ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, ai holl luoedd hwynt, y ddaiar a’r hyn oll arni, y moroedd a’r hyn oll ynddynt, a thi sydd yn eu bywhâu hwynt oll, a lluoedd y nefoedd ydynt yn ymgrymmu i ti.
7Ti yw’r Arglwydd Dduw’r hwn a ddetholaist Abram, ac ai dygaist ef allan o Genes.11.31.Ury Caldeaid: ac a osodaist ei enw ef yn Gen.17.5.Abraham.
8A chefaist ei galon ef yn ffyddlawn ger dy fron di, ac a Gen.15.18.wnaethost gyfammod ag ef ar roddi yn ddiau iw hâd ef wlâd y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Amoriaid, a’r Pheriziaid, y Iebusiaid hefyd a’r Gergasiaid: ac a gwpleaist dy eiriau, o herwydd cyfiawn wyt.
9 Exod.3.7. & 14.10. Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aipht: a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr côch.
10A thi a roddaist arwyddion, a rhyfeddodau yn erbyn Pharao, ac yn erbyn ei holl weision, ac yn erbyn holl bobl ei wlad ef, canys gŵybuost i’r rhai hyn falchio yn eu herbyn hwynt: a gwnaethost it enw fel y dydd hwn.
11Y Exod.14.22.môr hefyd a holltaist oi blaen hwynt, fel y treiddiasant drwy ganol y môr ar hyd sych-dir: ai herlidwŷr hwynt a fwriaist i’r gwaelod fel maen i ddyfroedd cryfion:
12Ac ai Exod.13.21.harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn niwl: a lliw nôs mewn colofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr hon yr oeddynt yn myned rhyd-ddi.
13Yna ti a Exod.20.1. Exod.19.18.ddescynnaist ar fynydd Sinai, ac a ymddiddenaist hwynt o’r nefoedd: rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau iniawn, a chyfreithiau gwirion, deddfau a gorchymynnion daionus.
14A’th Sabboth sanctaidd a hyspysaist iddynt: gorchymynnion hefyd, a deddfau, a chyfraith a orchymynnaist iddynt drwy law Moses dy wâs.
15 Exod.16.15. Exod.17.6. Bara hefyd o’r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o’r graig a dynnaist iddynt yn eu syched: a thi Deut.1.8a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddiaethu y wlâd yr hon a dyngaist ar rhoddi iddynt.
16Ond hwynt hwy a’n tadau ni a falchiasant: ac a galedâsant eu gwarrau, ac ni wrandawsant ar dy orchymynnion di.
17Eithr gwrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnelsit ti erddynt, caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant pennau i ddychwelyd iw caethiwed drwy eu cyndynrwydd eu hun: etto ti Dduw y maddeuaint râs-lawn, a thrugarawg, hwyrfrydic i ddigter, ac aml o drugaredd, yr hwn ni wrthodaist hwynt.
18Hefyd pan wnaethant iddynt lô toddedic, a dywedyd, dymma dy Dduw di’r hwn a’th ddug di i fynu o’r Aipht: a gwneuthur dirmyg mawr
19Er hynny er mwyn dy aml dosturiaethau ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: Exod.13.22. Num.14.14. 1.Cor.10.1.y golofn niwl ni chiliodd oddi wrthynt hwy drwy’r dydd iw harwain hwynt ar hyd y ffordd, na’r golofn dân drwy’r nos i oleuo iddynt hwy’r ffordd yr hon a gerddent ar hydddi.
20Dy yspryd dâ hefyd a roddaist i beri iddynt ddeall: ac ni orafunaist dy Manna rhag eu genau, dwfr hefyd a roddaist iddynt yn eu syched.
21Felly deugain nhlynedd y porthaist hwynt yn yr anialwch heb fod arnynt eisieu Deut.8 4.eu gwiscoed ni heneiddiasant, ai traed ni chwyddasant.
22A thi a roddaist iddynt frenhiniaethau, a phobloedd, y rhai a wasceraist i gonglau: canys hwynt a orescynnasant Num.21.16.wlâd Sehon, sef gwlâd brenin Hesbon, a gwlâd Og brenin Basan.
23Lluosogaist hefyd eu meibion hwynt fel sêr y nefoedd: ac ai harweiniaist hwynt i’r wlâd yr hon a ddywedasit wrth eu tadau y deuent iw meddiannu.
24Felly y meibion a ddaethant, ac a feddiannasant y wlâd, a thi a ddarostyngaist drigolion gwlâd y Canaaneaid oi blaen hwynt, ac ai rhoddaist yn eu llaw hwynt: eu brenhinoedd hefyd, a phobloedd y wlâd fel y gwnaent iddynt yn ôl eu hewyllys.
25A hwynt a ennillasant ddinasoedd caeroc, a daiar frâs, ac a orescynnasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedic, gwin-llannoedd, ac oliwydd-lannoedd, a choed ffrwythlawn yn aml: a hwynt a fwytawsant fel y digonwyd hwynt, ac y brassauwyd hwynt, ac yr ymhyfrydasant hwy yn dy fawr ddaioni di.
26Etto hwynt a annufyddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o’r tu ôl iw cefn, a’th brophwydi a laddasant, y rhai a destiolaethasent wrthynt, am iddynt ddychwelyd attat: felly y gwnaethant ddirmyg mawr
27Am hynny ti ai rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrym-wŷr, y rhai ai cystuddiasant: yna yn amser eu cyfyngdra y gwaeddasant arnat, a thi ai gwrandewaist o’r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achub-wŷr y rhai ai hachubasant o law eu gwrthwyneb-wŷr.
28Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynnion y rhai a arglwyddiaethasant arnynt, yna y dychwelasant, ac y gwaeddasant arnat, a thithe o’r nefoedd a wrandewaist, ac ai gwaredaist hwynt yn ôl dy dosturiaethau lawer a amseroedd.
29A thi a destiolaethaist wrthynt am iddynt ddychwelyd ac dy gyfraith, ond hwynt a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchymynnion, eithr pechâsant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai gwnaiff dyn Lefit 18.5.|LEV 18:5. Ezec.20.11.|EZK 20:11. Rom.10.5.|ROM 10:5. Galat.3.12.efe fydd byw ynddynt) a rhoddasant yscwydd ar gilio, caledasant hefyd eu gwarrau, ac ni wrandawsant.
30Er hynny ti a oedaist a hwynt flynyddoedd lawer, ac a destiolaethaist wrthynt a’th yspryd drwy law dy brophwydi, ond i wrandawsant: am hynny y rhoddaist hwynt yn llaw pobloedd y gwledydd.
31Etto er mwyn dy fawr drugareddau di ni wnaethost hwynt yn ddarfodedigaeth, ac ni wrthodaist mo honynt: canys Duw grâslawn, a thrugarog ydwyt.
32Ac yn awr ô ein Duw ni, y Duw Exod.34.6.mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn yn cadw y cyfammod Psal.143.2.a’r drugaredd, na fydded bychan o’th flaen di yr holl flinder yr hwn a ddigwyddod i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n hoffeiriaid, i’n prophwydi hefyd, ac i’n tadau, ac i’th holl bobl, er dyddiau brenhinoedd Assyria hyd y dydd hwn.
33Tithe gyfiawn yn yr hynn oll a ddigwyddodd ini: canys gwirionedd a wnaethost ti, a ninneu a wnaethom yn anuwiol.
34Ein brenhinoedd hefyd, ein tywysogion, ein hoffeiriaid, a’n tadau ni wnaethant dy gyfraith: ac nid edrychasant am dy orchymynnion, na’th destiolaethau, y rhai a destiolaethaist wrthynt.
35A hwynt ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy aml ddaioni yr hwn a roddaist iddynt, nac yn y wlâd ehang, a brâs, yr hon a osodaist oi blaen hwynt: ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.
36Wele ni heddyw yn weision: îe y wlâd yr hon a roddaist i’n taeau ni i fwytta eu ffrwyth, ai daioni, wele ni yn weision ynddi.
37A mawr yw ei thoreth hi i’r brenhinoedd y rhai a osodaist arnom ni, am ein pechodau: ac arglwyddiaethu y maent ar ein cyrph, ac ar ein hanifeiliaid yn ôl eu hewyllys, ac yr ydym mewn cyfyngdra.
38Ac o herwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfammod yn ffyddlon, ac yn scrifennu, ac wrth sêl hwnnw ein tywysogion, ein Lefiaid, a’n hoffeiriaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.