Exodus 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.1 Duw yn sicrhau ei addewid a’m waredu Israel. 11 Ac yn danfon Moses ac Aaron at Pharao eilwaith. 14 Hiliogaeth Ruben, Simeon, a Lefi, lle y dangosir achau Moses ac Aaron.

1Yna y dywedodd ’r Arglwydd wrth Moses, y nawr y cei weled beth a wnaf i Pharao: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt oi wlâd.

2Duw hefyd a lefarodd wrth Moses: ac a ddywedodd wrtho, myfi Iehofa,

3A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Iacob yn Dduw Hollalluoc: onid fy enw Iehofa ni bun hyspys iddynt.

4Hefyd mi a sicrheais fyng-hyfammod a hwynt a’m roddi iddynt wlâd y Canaaneaid: sef gwlâd eu hymdaith yr hon yr ymdeithiasant ynddi.

5A mi a glywais hefyd uchenaid meibion Israel y rhai y mae’r Aiphtiaid yn eu caethiwo: a chofiais fyng-hyfammod.

6A’m hynny dywet wrth feibion Israel, myfi Iehofa, ac myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tann lwythau yr Aiphtiaid, ac a’ch rhydd-hâf oi caethiwed hwynt: ac a’ch gwaredaf a braich estynnedic, ac mewn barnedigaethau mawrion.

7Hefyd mi a’ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi’r Arglwydd eich Duw yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tann lwythau’r Aiphtiaid.

8A mi a’ch dygaf chwi i’r wlâd, yr hon a dyngais ar ei rhoddi i Abraham, i Isaac, ac i Iacob: ac ai rhoddâf i chwi yn etifeddiaeth, myfi yr Arglwydd.

9A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra yspryd, a chan gaethiwed galed.

10Yna’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:

11Dôs i dywet wrth Pharao brenin yr Aipht, am iddo ollwng meibion Israel allan oi wlâd.

12A Moses a lefarodd ger bron yr Arglwydd gan ddywedydd: wele meibion Israel ni wrandawsant arnafi, a pha fodd i’m gwrandawe Pharao, a minne yn ddienwaededic o wefusaw.

13A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac Aaron, ac a roddodd orchymyn gyd a hwynt at feibion Israel, ac at Pharao brenin yr Aipht: yng-hylch dwyn meibion Israel allan o wlâd yr Aipht.

14Dymma eu penn cenedl hwynt: meibion Ruben y cyntaf-anedic i Israel, Henoch a Phalu, Hesron, a Charmi, dymma deuluoedd Ruben.

15A meibion Simeon Iemuel, ac Iamin, Ohad, ac Iachin, Sohar hefyd a Saul mâb y Ganaanites: dymma deuluoedd Simeon.

16Dymma hefyd henwau meibion Lefi yn ol eu cenhedlaethau, Gerson, Cehath hefyd a Merari: a blynyddoedd oes Lefi gant, ac onid tair blynedd deugain.

17Meibion Gerson Libni, a Simi yn ol eu teuluoedd.

18A meibion Cehath Amram, ac Ishar, Hebron hefyd ac Uzziel: a blynyddoedd oes Cehath dair ar ddec ar hugain, a chan mhlynedd.

19Meibion Merari Mehali a Musi: dymma deuluoedd Lefi yn ol eu cenhedlaethau.

20Ac Amram a gymmerodd Iochebed ei fodryb o du ei dâd yn wraig iddo, a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram onid tair deugain a chan mhlynedd.

21A meibion Ischar Corah, a Nepheg, a Sichri.

22A meibion Uzziel: Misael, ac Elzaphan, a Zithri.

23Ac Aaron a gymmerodd Elizebah merch Aminadab chwaer Num.1.3.Nahason yn wraig iddo: a hi a ymddûg iddo Nadâb, ac Abihu, Eleazar ac Ithamar.

24Meibion Corah hefyd Assir, ac Elcanah, ac Abiasaph: dymma deuluoedd y Corahiaid.

25Ac Eleazar mâb Aaron a gymmerodd yn wraig iddo o ferched Puttiel, a hi a ymddûc iddo ef Num.25.7.Phinees: dymma bennau cenedl y Lefiaid, yn ol eu teuluoedd.

26Dymma Aaron a Moses: y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt, dygwch feibion Israel allan o wlâd yr Aipht, yn ol eu lluoedd.

27Dymma Moses ac Aaron y rhai a lefarasant wrth Pharao brenin yr Aipht, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aipht.

28A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aipht,

29Yna lefaru o’r Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd myfi’r Arglwydd: dywet wrth Pharao brenin yr Aipht yr hyn oll yr ydwyfi yn ei ddywedyd wrthit.

30A dywedodd Moses ger bron yr Arglwydd: wele fi yn ddienwaededic o wefusau, a pha fodd y gwrendu Pharao arnaf?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help