1Ymlawenhewch y rhai cyfiawn yn yr Arglwydd: i’r rhai iniawn gweddus diolchgarwch.
2Molwch yr Arglwydd ar y delyn: cênwch iddo ar y nabel dectant.
3Cênwch iddo ganiad newydd: cênwch yn gerddgar, ac yn soniarus.
4Canys iniawn gair yr Arglwydd, ai holl weithredoedd ydynt ffyddlon.
5Efe a gâr gyfiawnder, a barn: o drugaredd yr Arglwydd y ddaiar yn gyflawn.
6Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd: ai holl luoedd hwy trwy yspryd ei enau ef.
7Casclu y mae efe ddyfroedd y môr yng-hyd, megis yn ben-twrr: gan roddi y dyfnderoedd mewn tryssorau.
8Ofned yr holl ddaiar yr Arglwydd: holl drigolion y byd arswydant ef.
9Canys efe a ddywedodd, ac y bu: efe a orchymynnodd, a a safodd.
10Yr Arglwydd sydd yn diddymmu cyngor y cenhedloedd: y mae efe yn diddymmu amcanion pobloedd,
11Cyngor yr Arglwydd a saif yn dragywydd: meddyliau ei galon o genhedlaeth, i genhedlaeth.
12Gwyn ei fyd y genedl yr hon yr Arglwydd yn Dduw iddi: a’r bobl a ddetholes efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
13Yr Arglwydd sy yn edrych i lawr o’r nefoedd: yn gweled holl feibion dynnion.
14O bresswyl ei drigfa yr edrych efe ar holl drigolion y ddaiar.
15Yr hwn a gyd-lunniodd eu calon hwynt: gan ddeall eu holl weithredoedd.
16Ni warêdir brenin gan liaws llu: ni ddiangc cadarn drwy amlder cryfder.
17Palledic’r march i ymwared: ac nid achub efe neb drwy ei fawr-gryfder.
18Wele lygad yr Arglwydd ar y rhai ai hofnant ef: ar y rhai a ymddyriedant yn ei drugaredd ef,
19Er mwyn gwaredu eu heneidiau rhag angeu: ac iw cadw yn fyw yn newyn.
20Ein henaid sydd yn disgwil am yr Arglwydd: efe yw ein porth a’n tarian.
21Canys ynddo ef y llawenycha ein calon, o herwydd i nî obeithio yn ei enw sanctaidd ef.
22Bydded dy drugaredd Arglwydd arnom ni, megis yr ymddyiriedom ynot.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
