1A Bu yn y chweched flwyddyn, yn y chweched ar y pummed o’r mîs, mi yn eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Israel yn eistedd ger fy mron, yna syrthio llaw’r Arglwydd Dduw arnaf.
2Yna’r edrychais, ac wele gyffelybrwydd, Ezec.1.27.fel rhith tân, o welediad ei lwyni ac issod yn dân: ac oi lwyni, ac vchod fel gwelediad discleirdeb, megis lliw ambr.
3Ac efe a estynnodd lûn llaw, ac a’m cymmerodd erbyn gwallt fy mhen, a chododd yspryd fi rhwng y ddaiar a’r nefoedd, ac a’m dug i Ierualem mewn gweledigaeth Dduw, hyd ddrŵs y porth nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, lle’r eisteddfa delw’r eiddigedd, yr hon a wnae eiddigedd.
4Ac wele yno ogoniant Duw Israel, fel y weledigaeth yr hon a welswn yn y dyffryn.
5Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn cyfot attolwg dy lygaid ffordd y gogledd, felly y cyfodais fy llygaid ffordd y gogledd, ac wele tua’r gogledd wrth borth yr allor ddelw’r eiddigedd hon, yn y drws.
6Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn, a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur? y ffiaidd-dra mawr yr hwn y mae tŷ Israel yn ei wneuthur ymma, i’m gyrru ymmaith oddi wrth fyng-hyssegr? ac etto dychwel, cei ymma weled ffieidd-dra mwy.
7Ac efe a’m dug i ddrŵs y cyntedd, yno’r edrychais, ac wele ryw dwll yn y pared.
8Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn cloddia drwy’r pared: yna y cloddiais drwy’r pared, ac wele ryw ddrws.
9Ac efe a ddywedodd wrthif, dôs i mewn, ac edrych y ffieidd-dra drygionus y rhai y maent hwy yn eu gwneuthur ymma,
10Felly’r euthym, ac edrychais, ac wele bôb mâth ymlusciad, ac anifail ffiaidd, a holl eulynnod tŷ Israel wedi eu portreio ar y pared o amgylch ogylch.
11A deng-ŵr a thrugain o henuriaid tŷ Israel yn sefyll ar eu cyfer hwynt, ac Iaazaniah mab Saphan yn sefyll ym mysc y rhai hynny: a phôb vn ai thusser yn ei law, ac amlder niwl y mwg-darth oedd yn derchafu.
12Ac efe a ddywedodd wrthif, a weli di fab dŷn yr hyn y mae henuriaid Israel yn ei wneuthur mewn tywyllwch, bôb vn o fewn ei ddelw-gelloedd? canys dywedant nid yw’r Arglwydd yn ein gweled, gadawodd yr Arglwydd y ddaiar.
13Ac efe a ddywedodd wrthifi eil-waith: cei weled ffieidd-dra mawr y rhai a wnaethant hwy.
14Ac efe a’m dûg i ddrws porth ty’r Arglwydd yr hwn tua’r gogledd, ac wele yno wragedd yn eistedd gan ŵylo am Thammuz.
15Ac efe a ddywedodd wrthif, a wêli di fab dŷn, dychwel etto, cei weled ffieidd-dra mwy nâ hyn.
16Ac efe a’m dûg i gyntedd tŷ’r Arglwydd oddi fewn, ac wele ddrws Teml yr Arglwydd, rhwng y porth a’r allor, yng-hylch pum-ŵr ar hugain, pob vn ai cefn at deml yr Arglwydd, ai hwynebau tua’r dwyrain, a’r rhai hyn oeddynt yn ymgrymmu i’r haul tu’r dwyrain.
17Ac efe a ddywedodd wrthif, a weli di fab dŷn, ac yscafnach gan dŷ Iuda, nâ gwneuthur y ffiaidd-dra y rhai a wnaethant ymma? canys llanwasant y tîr â thrais, a gwrthdroasant i’m cyffroi fi, ac wele hwynt yn bwrw canghennau wrth eu ffroenau.
18Minne hefyd a wnaf yn fy llid, nad arbedo fy llygad, ac ni thosturiaf: yna Diar 21.19.|PRO 21:19. esa.46.7.|ISA 46:7. iere.11.11.|JER 11:11. mic.3.4.y llefant yn fyng-hlustiau â llefain mawr, ac ni wrandawaf hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.