1Ynysoedd deuwch yn ddistaw attaf, adnewydded y cenhedloedd nerth, deuant yn nês, yna llefarant, cydnessawn i farn.
2Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, ai galwodd ef iw ganlyn? a roddodd y cenhedloedd oi flaen ef, ac a ddarostyngodd frenhinoedd? efe ai rhoddodd fel llŵch iw gleddyf ef, fel sofl gwascaredic iw fŵa ef.
3Y mae efe yn eu herlid hwynt, yn myned yn heddychol, llwybr ni cherddodd efe ai draed
4Pwy a weithredodd, ac a wnaeth yr hwn a alwodd y cenhedlaethau o’r dechreuad, myfi’r Arglwydd gyntaf, myfi hefyd fydd gyd a’r diweddaf.
5Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant, eithafoedd y ddaiar a ddychrynnasant, nessauasant a daethant.
6Pôb vn a gynnorthwyodd ei gyfaill, ac a ddywedodd wrth ei frawd, ymgryfhâ.
7Ie y saer a gyssurodd yr eurych, morthwyl-wr, yr hwn oedd yn curo yr einion, gan ddywedyd: ei iassio sydd dda, a hwynt ai cadarnhant â hoelion fel nad yscogir.
8Eithr tî Israel fyng-wâs, ti Iacob yr hwn a etholes, hâd Abraham fy annwylyd.
9Yr hwn a ymeflais ynot o eithafoedd y ddaiar, ac i’th elwais oddi wrth ei hetholedigion, ac y dywedais wrthit, fyng-wâs ti, dewisais di, ac ni’th wrthodaf.
10Nac ofna, canys yr gyd â thi, na lwfrha, canys myfi dy Dduw: cadarnheais di, cynnorthwyais di hefyd, a chynheliais di â deheulaw fyng-hyfiawnder.
11Wele cywilyddir, a gwaradwyddir y rhai oll a lidiant wrthit, dy wrthwyneb-wŷr a fyddant ddiddim, ac a ddifethir.
12Ti ai ceisi, ac ni’s cei hwynt, y dynnion a ymgynhennant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi, fyddant megis diddim, a megis darfodigaeth.
13Canys myfi’r Arglwydd dy Dduw wyf yn cryfhau dy ddeheulaw, yr hwn a ddywed wrthit, nac ofna, myfi a’th gynnorthwyais.
14Nac ofna di pryf Iacob, pobl Israel: myfi a’th gynnorthwyaf medd yr Arglwydd, sef Sanct Israel dy waredydd.
15Wele gosodaf di yn fenn ddyrnu newydd ddanheddoc, y mynyddoedd a ddyrni, ac a fêli, gosodi hefyd y brynnau fel mwlwg.
16Nithi hwynt, a’r gwynt ai dwg ymmaith, y corwynt hefyd ai gwascar hwynt, a thi a lawenychi yn yr Arglwydd, yn Sanct Israel y gorfoleddi.
17Y trueniaid a’r tlodion y rhai a geisiant ddwfr, ac ni’s ballo eu tafod o syched, myfi’r Arglwydd ai gwrandawaf hwynt, Duw Israel ni’s gadawaf hwynt.
18Agoraf afonydd yn y brynnau, a ffynhonnau yng-hanol y dyffrynnoedd: gosodaf y diffaethwch yn llynn dwfr, a’r cras-dir yn ffrydau dyfroedd.
19Gosodaf yn yr anialwch y cedr-wŷdd, box, myrh, ac oliwydd, gosodaf yn y diffaethwch ffynnidwydd, ffawydd, ac yspyddaid yng-hyd.
20Fel y gwelant ac y gwybyddant, yr ystyriant hefyd, ac y deallant ar vnwaith mai llaw’r Arglwydd a wnaeth hyn, a Sanct Israel ai creawdd.
21Deuwch yn nês a’ch cwyn medd yr Arglwydd, dugwch eich cadarnaf medd Brenin Iacob.
22Nessaed a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant, mynegwch beth yw y pethau cyntaf, fel yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt: neu traethwch i ni y pethau a ddeuant.
23Mynegwch y pethau a ddeuant yn ôl fel y gwypom mai duwiau chwi, gwnewch hefyd lêsâd neu niwed: fel y mynegom ac y gwelom yng-hyd.
24Wele peth heb ddim ydych chwi, a’ch gwneuthuriad sydd ddiddim: ffiaidd a’ch dewisodd chwi.
25Cyfodais o’r gogledd, ac efe a ddaw o gyfodiad haul, efe a eilw ar fy enw, pan ddelo dywysogion fel clai, ac fel y sathr crochenudd bridd.
26Pwy a fynegodd o’r dechreuad, fel y gwybyddem, ac ym mlaen llaw fel y dywedem, cyfiawn eithr nid oes mynegudd, nid oes traethudd ychwaith, ac nid oes a wrandawo eich ymadroddion.
27Pennaeth a ddywed i Sion, wele, wele hwynt, rhoddaf hefyd efangyl-wr i Ierusalem.
28Ond pan edrychais nid oedd neb, ie o honynt nid gynghor-wr, pan ofynnais i iddynt, nid attebasant air.
29Wele hwynt oll yn anwiredd, ai gweithredoedd yn ddiddim, gwynt a gwagedd yw eu tawdd-ddelwau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.