1A Holl Israel a ryfwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn scrifennedic yn llyfr brenhinoedd Israel, ac Iuda: a hwy a gaeth-gludwyd i Babilon am eu camwedd.
2Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oeddynt yn eu etifeddiaeth eu hun yn eu dinasoedd yn Israeliaid, yn offeiriaid, yn Lefiaid, ac yn Nethiniaid.
3Ac yn Ierusalem y trigodd o feibion Iuda, ac o feibion Beniamin, ac o feibion Ephraim, a Manasses.
4Uthai mab Amihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani o feibion Phares fab Iuda.
5Ac o Siloni: Asaia y cyntafanedic, ai feibion.
6Ac o feibion Zerah ac Iehuel, ai brodyr chwe chant, a dêc a phedwar vgain.
7Ac o feibion Beniamin: Salu mab Mesulam, fab Hodasia, fab Hasenna.
8Iibnea hefyd mab Ieroham, ac Ela mab Uzi, fab Michri: a Mesulam mab Sephatia, fab Rehuel, fab Ibnia.
9Ai ceraint yn ôl eu teuluoedd: naw cant, dec a deugain, a chwech: y dynion hyn oll bennau cenedl ar dŷ eu tadau.
10Ac o’r offeiriaid, Iedaiah, ac Iehoiarib, ac Iachin.
11Azaria hefyd mab Helcia, fab Mesulam fab Zadoc, fab Meraioth, fab Ahitub tywysog tŷ Dduw.
12Adaiah hefyd mab Ieroham, fab Phassur, fab Meltia: a Maasia mab Adiel, fab Iehezrah, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.
13Ai ceraint pennaf ar dŷ eu tadau, yn fîl, a saith gant, a thrugain, gwŷr galluoc o nerth waith gwasanaeth tŷ Dduw.
14Ac o’r Lefiaid, Semaia mab Hasub, fab Ascricam, fab Hasabia o feibion Merari.
15Bachacer hefyd Heres, a Galal: Mathania mab Micha, fab Zicri, fab Asaph.
16Obadaia hefyd mâb Semeia, fab Galal, fab Ieduthun: a Berechia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn-nhrefydd y Netophathiaid.
17Y porthorion hefyd Salum, ac Accub, a Talmon, ac Ahiman, ai brodyr: Salum bennaf.
18Ac hyd yn hyn ym-mhorth y brenin o du’r dwyrain y rhai hyn o werssylloedd meibion Lefi borthorion.
19Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaph, fab Corah a’r Corathiaid ei geraint ef o dylwyth ei dâd oeddynt ar waith y wenidogaeth yn cadw pyrth y babell megis eu tâd hwynt yng-werssyll yr Arglwydd yn cadw y ddyfodfa i mewn.
20Phinehes hefyd mab Eleazar a fuase dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r Arglwydd gyd ag ef.
21Zecharia mab Meselmia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.
22Hwynt oll y rhai a etholasyd yn borthorrion ar y rhinniogau ddau cant, a deuddec: hwynt yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau, gosodase Dafydd, a Samuel y gweledudd y rhai hynny yn eu swydd hwynt.
23Felly y rhai hynny ai meibion wrth byrth tŷ’r Arglwydd tŷ y babel, iw gadw ef mewn gwiliadwriaeth.
24Y porthorion oeddynt ar bedwar o fannau, dwyrain, gorlewyn, gogledd, a’r dehau.
25Ai brodyr yn eu trefydd gan ddyfod ar y seithfed diwrnod, o amser, i amser gyd a hwynt.
26Canys tān lywodraeth y pedwar porthor cedyrn yr oedd y Lefiaid a’r stafelloedd hefyd, ac ar dryssorau tŷ Dduw’r oeddyut hwy
27Ac o amgylch tŷ Dduw y lletteuent hwy canys arnynt hwy yr oruchwiliaeth, a hwy hefyd iw agoryd o forau i forau.
28Ac o honynt hwy ar lestri y weniodogaeth, o herwydd mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.
29A o honynt oeddynt wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefnau y cyssegr: ac ar y peillied, a’r gwin, a’r olew, a’r thûs, a’r aroglau peraidd.
30[Rhai] hefyd o feibion yr offeiriaid oeddynt yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd.
31A Mathathia o’r Lefiaid (hwnnw oedd gyntafanedic Salum y Corathiad) ydoedd mewn swydd ar waith Exod.25.30.y radell.
32Ac o feibion y Cehathiaid oi ceraint hwynt ar y bara gosod iw ddarparu bob Sabboth.
33A’r cantorion hyn pennau cenedl y Lefiaid mewn stafelloedd yn yscafala: o herwydd arnynt ddydd, a nôs yng-waith
34Dymma bennau cenedl y Lefiaid, pennau drwy eu cenedlaethau: hwynt a drigasant yn Ierusalem.
35Ac yn Gibeon y trigodd 1.Cron.8.29.tâd Gibeon Iehiel: a henw ei wraig ef Maacha.
36Ai fab cyntaf-anedic ef Abdon, yno Zur, a Cis, a Baal, a Ner, a Nadab.
37Gedor hefyd, ac Ahio, a Zacharia, a Micloth.
38A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwyntau hefyd ar gyfer eu brodyr a drigasant yn Ierusalem gyd ai brodyr.
39Ner 1.Sa.14.51.|1SA 14:51. 1.Cron.8.33.hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Ionathan a Malchisua, ac Abinadab, ac Esbaal.
40A mab Ionathan 2.Sam.9.6.Meribbal, a Meribbal a genhedlodd Micab.
41A meibion Micah Pithon, a Melech, a Thabrea.
42Ac Ahaz a genhedlodd Iahra, o Iahra, a genhedlodd Alameth, ac Asmafeth, a Zimri: Zimri hefyd a genhedlodd Moza.
43Moza hefyd a genhedlodd Binea, Raphaia ei fab ef, Elasa ei fab yntef, Azel ei fab yntef.
44Ac i Azel chwech o feibion, ac dymma ei henwau hwynt; Azricam, Bochru, ac Ismael, a Searia, ac Obadia, a Hanan, Dymma feibion Azel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.