1Yna pan ddaeth Ffestus i’r dalaith y trydydd dydd, efe a aeth i fynu o Cæsarea i Ierusalem.
2Yna yr ymddangosodd yr arch-offeriaid a phennaethiaid yr Iddewon ger ei fron ef yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef,
3Gan geisio ffafr yn ei erbyn ef, fel y cyrche efe ef i Ierusalem: gan wneuthur cynllwyn iw ladd ef ar y ffordd.
4A Ffestus a attebodd, y cedwid Paul yn Cæsarea, ac yr ae efe ei hun yno ar fyder.
5Y neb a allo yn eich mysc chwi (ebr efe) deued gyd â ni, ac os bydd dim drwg yn y gŵr hwnnw, cyhudded ef.
6Ac efe a aeth i wared i Cæsarea, pryd na thrigase efe gyd â hwynt vwch-law dêng-nhiwrnod, a thrannoeth efe a eisteddodd yn yr orsedd ac a archodd ddwyn Paul atto.
7A phan ddaeth efe, yr Iddewon y rhai a ddaethēt o Ierusalem i wared, a safasant o amgylch ac a ddugasant lawer o achwynion trymmion yn erbyn Paul y rhai nis gallent eu profi,
8Ac yntef yn atteb, na phechase efe ddim nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y deml, nac yn erbyn Cæsar.
9Eithr Ffestus yn chwennych dangos ffafr i’r Iddewon a attebodd, ac a ddywedodd wrth Paul, a fynni di ddyfod i fynu i Ierusalem i’th farnu yno ger fy mron i am y pethau hyn?
10A Phaul a ddywedodd: o flaen gorseddfaingc Cæsar yr wyfi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu, ni wnaethum i ddim cam â’r Iddewon megis y gŵyddost di yn dda.
11Canys os gwneuthum ddim cam, na dim yn haeddu angeu, ni wrthodaf farw: eithr onid oes dim o’r pethau y maent i’m cyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt: appelio yr wyf at Cæsar.
12Yna Ffestus wedi darfod iddo ymddiddan a’r cyngor a attebodd: a appeliaist di at Cæsar? at Cæsar y cei di fyned.
13Ac wedi darfod talm o ddyddiau, Agrippa frenin, a Bernice a ddaethant i Cæsarae i gyfarch Ffestus.
14Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fynegodd i’r brenin hanes Paul, gan ddywedyd: y mae ryw wr wedi ei adel yng-harchar gan Phelix.
15Am yr hwn pan ddaethym i Ierusalem yr yspysodd yr arch-offeiriaid a henuriaid yr Iddewon i mi, gau ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef.
16I’r rhain yr attebais, nad oedd arferol i Rufein-wŷr roddi neb iw ddifetha, nes cael o’r cyhuddol ei gyhudd-wŷr yn ei wyneb, a chael lle iw amddeffyn ei hun rhag y cwyn.
17O blegit hynny, pan ddaethant ymma, yr ail dydd heb wneuthur ymaros pan eisteddais ar y faingc, mi a erchais ddyfod â’r gŵr ger fy mron.
18Ar ba vn (pan safodd y cyhudd-wŷr i fynu) ni roesant ddim achwyn o’r pethau yr oeddwn i yn tybied.
19Ond yr oedd ganddynt rai ymofynion o’r coelfuchedd ei hunain, ac am vn Iesu a fu farw, yr hwn a daere Paul ei fod yn fyw.
20A minne o herwydd fy mod yn ammau y fath gwestiwn, a ofynnais iddo ef, a fynne efe fyned i Ierusalem a’i farnu yno am y pethau hyn.
21Ond gan i Paul appelio iw gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni anfonwn ef at Caesar.
22Yna Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, minne a ewyllysiwn glywed y dyn, yntef a ddywedodd, ti a gei ei glywed ef y foru.
23A thrannoeth pan ddaeth Agrippa a Bernice a rhwysc fawr, a myned i mewn i’r orsedd â’r pen-capteniaid, a phendefigion y ddinas wrth orchymyn Ffestus, fe a gyrchwyd Paul.
24A Ffestus a ddywedodd: ô frenin Agrippa, a chwithau oll sydd gyd â ni yn bresennol, chwi a welwch y dyn hwn o blegit pa vn y galwodd holl dyrfa yr Iddewon arnaf, yn Ierusalem ac ymma, gan lefain, na ddyle efe fyw yn hwy.
25Eithr myfi heb gael ynddo ddim a haedde angeu, ac yntef wedi appelio ac Augustus, a fernais ei ddanfon ef.
26Am yr hwn nid oes gennif ddim siccrwydd yw scrifennu at arglwydd, o herwydd pa ham mi â’i dugym ef attoch chwi, ac yn henwedic attat ti ô frenin Agrippa, fel y caffwyf wedi ei holi ef beth iw scrifennu.
27Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, ac heb yspysu y matterion yn ei erbyn ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.