Ezeciel 6 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. VI.Prophwydo y mae ddinistr y bobl. 8 Edifeirwch am waredu eu gweddill hwynt. 11 A dialedd yr annedifeiriol.

1Yna y daeth gair yr Arglwydd attaf, gan ddywedyd:

2Mab dŷn, gosot dy wyneb tua

6Yn eich holl drigfaon y dinasoedd a anrheithir, a’r vchelfaon a ddifwynir, fel yr anrheithier, ac y difwyner eich allorau, ac y torrer, ac y peidio eich eulynnod: ac y torrer ymmaith eich haul ddelwau, ac y deleir eich gweithredoedd.

7Yr archolledic hefyd a syrth yn eich mysc fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd.

8Etto gadawaf weddill, fel y byddo i chwi rai wedi diangc gan y cleddyf ym mysc y cenhedloedd, pan wascarer chwi trwy’r tîroedd.

9Yna dy rai diangol a’m coffânt i ymmysc y cenhedloedd y rhai y caethgludwyd hwynt attynt, y modd i’m drylliwyd, ai calon butteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthif, ac ai llygaid y rhai a butteiniasant ar ôl eu heulynnod: yna’r ymffieiddiant ynddynt eu hun, am y drygioni y rhai a wnaethant yn eu holl ffiaidd-dra.

10A chânt ŵybod mai myfi’r Arglwydd na leferais yn ofer, am wneuthur iddynt y drwg hwn.

11Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, taro a’th law, ac estyn a’th droed, a dywet, ôh rhac holl ffieidd-dra drygioni tŷ Israel, y rhai trwy gleddyf, trwy newyn, a thrwy haint a syrthiant.

12Y pelledic a fydd marw o haint, a’r cyfagos a syrth ar y cleddyf: y gweddilledic hefyd, a’r gwarchaedic a fydd marw o newyn: felly y derfydd fy llidiawgrwydd wrthynt.

13A chewch ŵybod mai myfi yw’r Arglwydd, pan fyddo eu harcholledigion hwynt ym mysc eu heulynnod hwynt o amgylch eu hallorau, ar bob brynn vchel, ar holl bennau y mynyddoedd, a thann bob pren ir, a thann bob derwen gaead-frig, lle y rhoddasant arogl esmwyth iw holl eulynnod.

14Felly’r estynnaf fy llaw arnynt, a rhoddaf y tir yn anrhaith, Ezec.5.14.ie’n anrhaithiedic o’r anialwch hyd Diblath trwy eu holl drigfaon hwynt: a chânt ŵybod mai myfi Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help