1Fel y brefa’r hŷdd am yr afônydd dyfroedd: felly’r hiraetha fy enaid am danat ti ô Dduw.
2Sychedic yw fy enaid am Dduw, am Dduw byw: pa bryd y deuaf, ac yr ymddangosaf ger bron Duw?
3Fy neigr oedd fwyd i’m ddydd a nôs: pan ddywedwyd wrthif bôb dydd, pa le dy Dduw?
4Tywalltwn fy enaid wrthif fy hun pan gofiwn hynny: mai gyd a’r gynnulleidfa’r awn, ac y cerddwn gyd â hwynt hyd tŷ Dduw mewn sain cân, a moliant, tyrfa yn cadw gŵyl.
5Pa ham, fy enaid, i’th ddarostyngir, ac yr ymderfysci ynof? gobeithia yn Nuw, o blegit moliannaf ef etto iechydwriaeth ei wyneb-pryd.
6Fy Nuw, fy enaid a ymddarostwng ynof: am hynny y cofiaf di o dîr yr Iorddonen, a Hermon y mynydd bychan.
7Dyfnder a eilw ar ddyfnder, wrth sŵn dy bistylloedd di: dy holl donnau a’th lifeiriaint a aethant trosofi.
8Yr Arglwydd a orchymyn i mi ei drugaredd liw dydd, ai gân liw nôs, sef gweddi ar Dduw fy enioes.
9Dywedaf wrth Dduw fyng-hadernid, pa ham yr anghofiaist fi, pa ham y rhodiaf yn alârus trwy orthrymder y gelyn?
10[Taro] â chleddyf trwy fy escyrn fyng-wrthwyneb-wŷr am gwradwyddent, pan ddywedant wrthif bôb dydd, pâ le dy Dduw?
11Pa ham i’th ddarostyngir fy enaid? a pha ham y terfysci ynof? ymddyriet yn Nuw, canys etto y moliannaf ef, iechydwriaeth fy wyneb, a’m Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
