1Gwae a ddychymygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelau, pan oleuo y boreu-ddydd y gwnant hyn: am ei fod ar eu dwylo.
2Meusydd a chwennychant hefyd, a theiau a dreisiant, ac a ddygant: gorthrymmant hefyd ŵr ai dŷ, dŷn ai etifeddiaeth.
3Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, wele yn erbyn y teulu hwn y dychymmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau o honaw, ac ni rodiwch yn falch: canys amser drygfyd fydd efe.
4Yn y dydd hwnnw y cyfyd ddammeg am danoch chwi, ac a ofidia ofid gofidus, gan ddywedyd: gan ddinistrio dinistriwyd ni, neidiwyd rhan fy mhobl, pa fodd y dug efe oddi arnaf? y rhannodd ein meusydd im rhoddi trachefn
5Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng-hynnulleidfa’r Arglwydd.
6Na phrophwydwch prophwydant: ond ni phrophwydant i’r rhai hyn, ni dderbynniant
7Oh yr hon a elwir tŷ Iacob, a fyrhaodd Yspryd yr Arglwydd? ai y rhai hynn ei weithredoedd ef? oni bydd da fyng-eiriau i’r neb a rodio yn iniawn?
8[Y rhai oeddynt] fy mhobl maufi ddoe, a godasant yn y gwrthwyneb yn elyn, dioscant y dilledyn gwych oddi am y rhai a ânt heibio yn llonydd, rhai yn dychwelyd o ryfel.
9Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch, a dugasoch oddi ar eu plant fy harddwch bŷth.
10Codwch, ac ewch ymmaith, canys nid gorphywysfa yw hon: am halogedigaeth y dinistria hi a’r dinistr fydd cryf.
11Os vn yn rhodio yn y gwynt, a’r celwydd a ddywed yn gelwyddoc, prophwydaf it a’m win, a diod gadarn: yna y caiff fod yn brophwyd i’r bobl hynn.
12Gan gasclu i’th gasclaf Iacob oll, gan gynnull cynnhullaf weddill Israel, gosodaf hwynt yng-hyd fel defaid Bozra, fel y praidd yng-hanol eu corlan: trystiant rhag dyn.
13Daw y rhwygudd i fynu oi blaen hwynt, rhwygant, trammwyant y porth, ac ânt allan trwyddo, a thrammwya eu brenin oi blaen: a’r Arglwydd yn eu pennau hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
