Ezeciel 2 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. II.Hebryngiad y prophwyd i alw’r bobl i’r iawn oi beiau, ai camweddau.

1Ac efe a ddywedodd wrthif, mab dŷn saf ar dy draed: ac mi a lefaraf wrthit.

2Yna y daeth yspryd arnaf, pan lefarodd efe wrthif, ac a’m gosododd ar fy nhraed, fel y clywais yr hwn a lefarodd wrthif.

3Ac efe a ddywedodd wrthif, mâb dŷn, yr ydwyfi yn dy ddanfon di at feibion Israel, at genhedlaeth wrthryfelgar, y rhai a wrthryfelâsant i’m herbyn, hwynt hwy, ai tadau a drosheddâsant i’m herbyn hyd gorph y dydd hwn.

4Meibion wyneb-galed hefyd, a chadarn galon, yr ydwyfi yn dy ddanfon di attynt: dywet tithe wrthynt, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw.

5A pha vn bynnac a wnelont ai clywed ai, peidio, (canys tŷ gwrthryfelgar ydynt hwy) etto cânt ŵybod mai prophwyd a fu yn eu mysc hwynt.

6Tithe fab dŷn, Ier.1.17.nac ofna rhagddynt, ac na arswyda er ei geiriau hwynt, er gwrthryfel-wŷr a drain gyd â thi, a thitheu yn trigo ym mysc scorpionau: nac ofna rhag eu geiriau hwynt, ac na ddychryna gan eu hwynebau hwynt, canys tŷ gwrthryfelgar hwy.

7Etto llefara di fyng-eiriau wrthynt, pa vn bynnac a wnelant ai clywed ai peidio, canys tŷ gwrthryfelgar hwy.

8Tithe fab dŷn gwrando’r hyn yr ydwyf fi yn ei lefaru wrthit, na fydd wrthryfelgar fel y tŷ gwrthryfelgar hwn: llêda dy safn, a bwytta’r hyn yr ydwyfi yn ei roddi i ti.

9Yna’r edrychais, ac wele law wedi ei hestyn attaf, ac wele ynddi blyg llyfr.

10Ac efe ai dadblygodd o’m blaen i, ac yr oedd efe wedi ei scrifennu ŵyneb, a chefn, ac yr oedd wedi scrifenni arno, galar, a griddfan, a gwae.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help