Genesis 25 - William Morgan Bible 1588 original edition

PEN. XXV.Abraham yn priodi Cetura, ac yn ennill plant lawer o honi. 5 Abraham yn rhoddi ei holl dda i Isaac, ac yn marw. 12 Hiliogaeth Ismael. 21 Rebecca yn beichiogi ac yn escor Esau, ac Iacob. 30 Esau yn gwerthu braint ei anedigaeth er ychydic gawl.

1Ac Abraham a gymmerodd eil-waith wraig, ai henw Cetura.

2A hi a escorodd iddo ef, Zimran, a Iocsan, a Medan, a Midian, ac Iesbac, a Suah.

3A 1.Cron.1.32.Iocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oeddynt, Assurim, a Letusim, a Leumim.

4A meibion Midian, Ephah, ac Epher, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaah, yr holl rai hynn feibion Cetura.

5Ac Abraham a roddodd yr hynn oll ganddo i Isaac.

6Ac i feibion y gordderch-wragedd y rhai i Abraham y rhoddodd Abraham roddion, ac efe ai hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fâb, tu a’r dwyrain, i dîr y dwyrain, ac efe etto yn fyw.

7Ac dymma ddyddiau blynyddoedd enioes Abraham y rhai y bu ef fyw: can-mlhynedd, a phymtheng mlhynedd a thrugain.

8Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw, mewn oed têg, yn hên, ac yn ddigonawl ac efe a gasclwyd at ei bobl.

9Yna Isaac, ac Ismael ei feibion ai claddasant ef yn ogof Machpelah ym maes Ephron fab Zohar yr Hethiad, yr hwn ar gyfer Mamre.

10Y maes yr hwn a brynase Abraham gan feibion Heth: yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.

11Ac wedi marw Abraham, darfu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fâb ef: ac Isaac a drigodd wrth Gene.16.14. Gene.24.62.ffynnon Laharoi.

12Ac dymma genhedlaethau Ismael fab Abraham, yr hwn a ymddugase Agar yr Aiphtes morwyn Sara i Abraham.

13Ac dymma henwau 1.Cron.1.29.meibion Ismael, erbyn eu henwau: trwy eu cenhedlaethau: Nabaioth cyntaf-anedic Ismael, yna Cedar, ac Adbeel, a Mibsam,

14Misma hefyd, a Dumah, a Massa.

15Hadar, a Thema, Ietur, Naphis, a Chedemah.

16Dymma hwynt meibion Ismael, ac dymma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestill: yn ddeuddec o dywysogion ar eu pobl.

17Ac dymma flynyddoedd enioes Ismael, can-mlwydd, a dwy ar bymthec ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casclwyd ef at ei bobl.

18Presswyliasant hefyd o Hafilah hyd Sur, yr hon ar gyfer yr Aipht, ffordd yr ei di i Assyria: ac o flaen ei holl frodyr y cyfanneddodd efe.

19Ac dymma genedlaethau Isaac fab Abraham, Abraham a genhedlodd Isaac.

20Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd, pan gymmerodd efe Rebecca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad yn wraig iddo.

21Ac Isaac a weddiodd ar yr Arglwydd dros ei wraig am ei bod hi’n amhlantadwy a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebecca ei wraig a feichiogodd.

22A’r meibion a ymgurasant yn ei chroth hi, yna y dywedodd hi, os felly, beth fi fel hyn? a hi a aeth i ymofyn a’r Arglwydd.

23A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, dwy genhedlaeth yn dy grôth di, a dau bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill fydd cryfach na’r llall, Rhuf.9.12.a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.

24A phan gyflawnodd ei dyddiau hi i escor, yna wele gefellion yn ei chrôth hi.

25A’r cyntaf a ddaeth allan yn gôch oll, fel cochl flewoc, a galwasant ei enw ef Esau.

26Ac wedi hynny y Osea.12.3.|HOS 12:3. matth.1.2.daeth ei frawd ef allan, ai law yn ymaflyd yn sodl Esau: a galwyd ei enw ef Iacob. Ac Isaac oedd fab trugein mlwydd pan anwyd hwynt.

27A’r llangciau a gynnyddasant, ac Esau oedd wr yn medru hela gwr gwyllt, ac Iacob, wr perffaith yn cyfanneddu mewn pebyll.

28Isaac hefyd oedd hôff ganddo Esau, o herwydd helwriaeth ŷn ei safn ef: a Rebecca a hoffe Iacob.

29Ac Iacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddeffygiol.

30A dywedodd Esau wrth Iacob, gad ti i mi yfed attolwg o’r côch ymma: o herwydd deffygiol fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom.

31Yna y dywedodd Iacob, gwerth di heddyw i mi dy anedîgaeth-fraint,

32A dywedodd Esau wele fi yn myned i farw, ac i ba beth y ganedigaeth-fraint hwn i mi?

33A dywedodd Iacob twng i mi heddyw, ac efe a dyngodd iddo, ac felly y gwerthodd efe ei anedigaeth fraint i Iacob.

34Ac Hebr.12.16.Iacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys, ac efe a fwyttaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymmaith: felly y diystyrodd Esau ei anedigaeth-fraint.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help