Psalmau 60 - William Morgan Bible 1588 original edition

Psalm. lx.At y pen-cerdd ar chwe-thant, testiolaeth euroc Psalm Dafydd i ddyscu. Pan aeth efe yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Zoba 2.Sam.8.1. 1.Cron.18.3.pan ddychwelodd Ioab a llad deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.

1O Dduw ffieiddiaist ni, gwasceraist ni, sorraist: dychwel attom.

2Gwnaethost i’r ddaiar grynu, holltaist hi: iachâ ei briwiau, canys y mae yn siglo.

3Dangôsaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwîn madrondod.

4Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i fuddugoliaethu o herwydd y gwirionedd.Selah.

5Fel y gwarêder dy rai annwyl: achub a’th ddeheu-law, a gwrando fi.

6Duw a lefârodd yn ei sancteiddrwydd, ([am hynny] y llawenychaf) rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

7Eiddo fi Gilead, ac eiddo fi Manasses: Ephraim hefyd nerth fy mhen, Iuda fy neddf-wr.

8Moab fyng-hrochan golchi: ar Edom y bwriaf fy escid, Palestina, ymorfoledda di ynofi.

9Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom?

10Onid tydi Dduw a’n ffieiddiaist? ac nid eit ti allan ô Dduw gyd a’n lluoedd?

11Dod ti i mi gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer ymwared dŷn.

12Yn Nuw y gwnawn wroldeb, canys efe a sathr ein cystudd-wŷr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help