1A Darfu yn ôl dyddiau lawer wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan ei holl elynnion o amgylch: yna i Iosuah heneiddio myned yn oedrannus.
2Ac Iosuah a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu pēnaethiaid, am eu barnwyr hefyd, ac am eu swyddogion: ac efe a ddywedodd wrthynt, myfi a heneiddiais a euthum yn oedrannus.
3Chwitheu hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hynny er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yr hwn sydd yn ymladd trosoch.
4Gwelwch, darostyngais i chwi y cenhedloedd hynny y rhai a adawyd yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi: o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymmaith hyd y môr mawr o fachludiad yr haul.
5A’r Arglwydd eich Duw ai hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac ai gorescyn hwynt o’ch gŵydd chwi: fel yr etifeddoch eu gwlâd hwynt’megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych.
6Am hynny ymŵrolwch yn lew i gadw, ac i wneuthur y cwbl a’r y sydd scrifennedic yn llyfr cyfraith Moses: Deut.5.32. & 28.14.na chiliwch oddi wrthynt tua’r llaw ddehau, na’r llaw asswy.
7Na chyd-ymgyfeillwch a’r cenhedloedd ymma, y rhai a adawyd gyd a chwi: ac na chofiwch am enw eu duwiau hwynt, ac na thyngwch na wasanaethwch hwynt y chwaith, ac nac ymgrymmwch iddynt.
8Onid yn yr Arglwydd eich Duw yr ymlynwch: fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.
9Canys yr Arglwydd a orescynnodd o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion, a nerthol: (ac am danoch chwi) ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.
10Un gŵr o honoch a erlid fil, Leuit.26.8.|LEV 26:8. Deut 32.30.canys yr Arglwydd eich Duw yw’r hwn sydd yn ymladd trosoch, fel y llefarodd efe wrthych.
11Ymgedwch gan hynny yn ddyfal er mwyn eich eneidiau, i garu’r Arglwydd eich Duw.
12Canys os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd ymma, y rhai a adawyd gyd a chwi: os ymgyfathrechwch a hwynt, ac deuwch i mewn attynt hwy, a hwyntau attoch chwithau,
13Gan wybed gwybyddwch na orescyn yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach o’ch blaen chwi: Exod.23.33. Num.33.55. Deut.7.15.onid byddant i chwi yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn ffrywill yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi o’r wlâd dda ymma’r hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
14Ac wele fi yn myned heddyw i ffordd yr holl fyd: am hynny gwybyddwed a’ch holl galon, ac a’ch holl enaid Iosua 21.45.na phallodd vn gair o’r holl eiriau daionus y rhai a lefarodd yr Arglwydd eich Duw am danoch chwi, hwynt oll a ddaethant i chwi, ni phallodd vn gair o honynt.
15Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a’r a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych: felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus nes eich difa chwi o’r wlâd dda ymma, yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi:
16Pan drosseddoch gyfammod yr Arglwydd eich Duw’r hwn a orchymynnodd efe i chwi, a rodioch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymmu iddynt: yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfergollir chwi yn ebrwydd o’r wlâd dda ymma yr hon a roddodd efe i chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.